Optio allan o rybuddion argyfwng
Gallwch optio allan o rybuddion argyfwng, ond dylech eu cadw ymlaen er eich diogelwch eich hun. Os byddwch chi'n dal i dderbyn rhybuddion ar ôl optio allan, cysylltwch â gwneuthurwr eich dyfais i gael cymorth.
Ffonau iPhone ac Android
I optio allan:
- Chwiliwch am ‘rybuddion argyfwng� yn eich gosodiadau.
- Diffoddwch ‘rybuddion difrifol� a ‘rhybuddion eithafol�.
Ffonau symudol eraill
Yn dibynnu ar fersiwn gwneuthurwr a meddalwedd eich ffôn, gellir galw gosodiadau rhybuddion brys yn enwau gwahanol, megis ‘rhybuddion argyfwng diwifr� neu ‘ddarllediadau argyfwng�.
Gellir dod o hyd i’r gosodiadau fel arfer mewn un o’r ffyrdd canlynol. Ewch i:
- ‘neges�, wedyn ‘gosodiadau negeseuon�, wedyn ‘rhybuddion argyfwng diwifr�, wedyn ‘rhybudd�
- ‘gosodiadau�, wedyn ‘synau�, yna ‘uwch�, yna ‘darllediadau argyfwng�
- ‘gosodiadau�, wedyn ‘gosodiadau cyffredinol�, wedyn ‘rhybuddion argyfwng�
Diffoddwch ‘rhybuddion difrifol�, ‘rhybuddion eithafol� a ‘rhybuddion prawf�.