Os na allwch dalu’ch bil treth mewn pryd
Trefnu cynllun talu
Er mwyn trefnu cynllun talu, bydd angen y canlynol arnoch:
- y cyfeirnod perthnasol ar gyfer y dreth na allwch ei thalu, megis eich cyfeirnod unigryw y trethdalwr
- manylion eich cyfrif banc yn y DU � mae’n rhaid i chi fod wedi’ch awdurdodi i sefydlu Debyd Uniongyrchol
- manylion unrhyw daliadau blaenorol rydych wedi’u methu
- manylion ynghylch eich incwm a’ch gwariant, neu fanylion ynghylch eich incwm a’ch gwariant os mae arnoch dreth y cwmni
Mae’n bosibl y gallwch drefnu cynllun talu ar-lein, yn dibynnu ar y math o dreth sydd arnoch a faint o dreth sydd arnoch.
Os oes arnoch dreth o Hunanasesiad
Gallwch os yw’r canlynol yn berthnasol:
- rydych wedi cyflwyno’ch Ffurflen Dreth ddiweddaraf
- mae arnoch £30,000 neu lai
- rydych o fewn 60 diwrnod i’r dyddiad cau ar gyfer talu
- nid oes gennych unrhyw gynlluniau talu na dyledion eraill gyda CThEF
Os oes arnoch gyfraniadau TWE y Cyflogwr
Gallwch os yw’r canlynol yn berthnasol:
- rydych wedi methu’r dyddiad cau i dalu bil TWE y Cyflogwr
- mae arnoch £100,000 neu lai
- rydych yn bwriadu talu’ch dyled cyn pen y 12 mis nesaf
- mae gennych ddyledion sy’n 5 mlynedd oed neu lai
- nid oes gennych unrhyw gynlluniau talu na dyledion eraill gyda CThEF
- rydych wedi anfon unrhyw gyflwyniadau TWE y Cyflogwr a datganiadau Cynllun y Diwydiant Adeiladu (CIS) sy’n ddyledus
Os oes arnoch dreth o TAW
Gallwch os yw’r canlynol yn berthnasol:
- rydych wedi methu’r dyddiad cau i dalu bil TAW
- mae arnoch £100,000 neu lai
- rydych yn bwriadu talu’ch dyled cyn pen y 12 mis nesaf
- mae gennych ddyled am gyfnod cyfrifyddu a ddechreuodd yn 2023 neu’n hwyrach
- nid oes gennych unrhyw gynlluniau talu na dyledion eraill gyda CThEF
- rydych wedi cyflwyno’ch holl Ffurflenni TAW
Ni allwch drefnu cynllun talu TAW ar-lein os ydych yn defnyddio’r Cynllun Cyfrifyddu Arian Parod, y Cynllun Cyfrifyddu Blynyddol, neu os ydych yn gwneud taliadau ar gyfrif.
Os oes arnoch dreth o Asesiad Syml
Gallwch os yw’r canlynol yn berthnasol:
- mae arnoch rhwng £32 a £50,000
- nid oes gennych unrhyw gynlluniau talu na dyledion eraill gyda CThEF
- rydych yn bwriadu talu’ch dyled cyn pen y 36 mis nesaf
Os na allwch drefnu cynllun talu ar-lein
Bydd angen i chi gysylltu â CThEF.
Bydd CThEF yn gofyn y canlynol i chi:
- a allwch dalu’n llawn
- faint y gallwch ei ad-dalu bob mis
- a oes unrhyw drethi eraill y mae angen i chi eu talu
- faint o arian rydych yn ei ennill
- faint yr ydych yn ei wario fel arfer bob mis
- pa gynilion neu fuddsoddiadau sydd gennych
Os oes gennych gynilion neu asedion, bydd CThEF yn disgwyl i chi ddefnyddio’r rhain i ostwng eich dyled cymaint â phosibl.
Os ydych wedi cael cyngor annibynnol ar ddyledion, er enghraifft gan y ganolfan Cyngor ar Bopeth, efallai y bydd gennych ‘Datganiad Ariannol Safonol�. Bydd CThEF yn derbyn hyn fel tystiolaeth o’r hyn rydych yn ei ennill a’i wario bob mis.
Os yw’ch cwmni mewn dyled treth
Bydd CThEF yn gofyn i chi gynnig sut y byddwch yn talu’ch bil treth cyn gynted ag y gallwch. Bydd yn gofyn cwestiynau am eich cynnig er mwyn sicrhau ei fod yn realistig ac yn fforddiadwy.
Mae’n rhaid i chi ostwng eich dyled cymaint â phosibl cyn trefnu cynllun talu. Gallwch wneud hyn drwy ryddhau asedion fel stoc, cerbydau a chyfranddaliadau.
Efallai y bydd CThEF yn gofyn i gyfarwyddwyr y cwmni wneud y canlynol:
- rhoi arian personol yn y busnes
- derbyn benthyciadau
- ymestyn credyd