Atal cais am brofiant

Sgipio cynnwys

Ymateb i her yn erbyn eich cais am brofiant

Gall rywun herio eich cais am brofiant (‘cofnodi cafeat�) os oes anghydfod, er enghraifft ynghylch ewyllys neu pwy all wneud cais am brofiant.

Mae’n rhaid iddynt gofnodi’r cafeat cyn i brofiant gael ei gymeradwyo.

Mae’r cafeat yn para am 6 mis i ddechrau, ac yna gellir ei ymestyn am 6 mis arall. Mae’r cafeat yn atal pob cais am brofiant ar yr ystad rhag cael ei gymeradwyo yn ystod y cyfnod hwnnw.

Beth i’w wneud os bydd rhywun yn cofnodi cafeat

Ceisiwch ddod i gytundeb gyda’r unigolyn a wnaeth gofnodi’r cafeat. Os na allwch ddod i gytundeb, yna gallwch roi ‘rhybudd� ffurfiol i’r unigolyn.

Gall rhoi rhybudd arwain at gafeat parhaol sy’n golygu y bydd angen cymryd camau cyfreithiol pellach i ddatrys y mater. Efallai y bydd rhaid i chi dalu costau cyfreithiol. Gallwch gael cyngor gan gyfreithiwr neu cysylltwch â .

Rhoi rhybudd

I roi rhybudd, mae angen i chi:

  1. Ofyn am ffurflen gan Gofrestrfa Brofiant Dosbarth Leeds.

  2. Llenwi’r ffurflen a dweud pam bod gennych hawl i wneud cais am brofiant. Mae hyn yn golygu eich bod yn mynegi ‘diddordeb� yn yr ystad.

  3. Anfon y ffurflen yn ôl i Gofrestrfa Brofiant Dosbarth Leeds. Bydd y ffurflen rybuddio wedi’i llenwi yn cael ei chofnodi, ei dyddio a’i stampio â stamp y llys, ac yna bydd yn cael ei dychwelyd i chi.

  4. Gwneud copi o’r rhybudd i’w gadw ar gyfer eich cofnodion.

  5. Anfon neu roi’r rhybudd i’r unigolyn a wnaeth gofnodi’r cafeat. Cadwch gofnod o sut a phryd rhoddwyd y rhybudd, er enghraifft, drwy law neu drwy’r post. Ni allwch roi rhybudd drwy e-bost.

Cofrestrfa Brofiant Dosbarth Leeds
0300 303 0654
Dydd Llun i ddydd Iau 9am - 5pm, dydd Gwener 9am - 4.30pm
Wedi cau ar wyliau banc
Gwybodaeth am brisiau galwadau
[email protected]

Cofrestrfa Brofiant Dosbarth Leeds
York House
31 York Place
Leeds
LS1 2BA

Ar ôl i chi roi rhybudd

Bydd gan yr unigolyn sydd wedi atal y grant profiant 14 diwrnod i ymateb (yn cynnwys penwythnosau a gwyliau banc).

Gallant naill ai:

  • gofnodi ‘ymddangosiadâ€� os oes ganddynt ‘fudd croesâ€�, er enghraifft, maent yn credu bod yr ewyllys yn annilys a bod ganddynt hawl i gofnodi ymddangosiad o dan ewyllys gynharach neu ddiweddarach, neu, os nad oes ewyllys, nad oes gennych chi hawl i wneud cais am brofiant

  • codi ‘gwÅ·sâ€� os nad oes ganddynt fudd croes ond, er enghraifft, maent yn credu bod ganddynt gymaint o hawl i wneud cais am brofiant neu maent yn credu nad ydych chi’n ysgutor addas

Os byddant yn cofnodi ymddangosiad a bod y Cofrestrydd yn cytuno â’u rhesymau, yna bydd yn gwneud y cafeat yn un parhaol. Yna, gellir ond ei ddileu gyda gorchymyn gan Gofrestrydd Dosbarth Profiant, Barnwr Uchel Lys neu Farnwr Rhanbarth.

Os byddant yn codi gwŷs, bydd y Cofrestrydd yn penderfynu pwy sydd â’r hawl i wneud cais am brofiant. Efallai y bydd yn awgrymu y byddai’n well i weinyddwr annibynnol ddelio â’r ystad.

Os na fyddant yn ymateb

Os na fyddant yn ymateb ymhen 14 diwrnod, llenwch y ffurflen datganiad cyflwyno.

Yn y ffurflen, nodwch pryd a sut y gwnaethoch anfon y rhybudd at yr unigolyn a wnaeth gofnodi’r cafeat.

Dychwelwch y ffurflen datganiad cyflwyno i Gofrestrfa Brofiant Dosbarth Leeds. Os na chafwyd ymateb i’r rhybudd, bydd y cafeat yn cael ei ddileu a gallwch barhau â’ch cais am brofiant.

Os nad oes gennych ffurflen datganiad cyflwyno, gofynnwch am un gan Gofrestrfa Brofiant Dosbarth Leeds. Gan amlaf, byddant wedi anfon y ffurflen hon atoch pan fu ichi ofyn am gael rhoi rhybudd.