Ardystio copi o atwrneiaeth arhosol

Gallwch gadarnhau bod copi o’ch atwrneiaeth arhosol (LPA) wedi’i chofrestru yn ddilys drwy ei ‘ardystio� os ydych chi dal i allu gwneud eich penderfyniadau eich hun.

Gall eich atwrnai ddefnyddio’r copi ardystiedig i brofi bod ganddynt ganiatâd i wneud penderfyniadau ar eich rhan, er enghraifft, i reoli eich cyfrif banc.

Gallwch hefyd wneud copïau ardystiedig o’ch LPA cyn iddi gael ei chofrestru. Gallwch chi neu’ch atwrnai ddefnyddio’r copi i gofrestru eich LPA os nad oes gennych y ffurflen wreiddiol.

Sut i ardystio copi

Ysgrifennwch y testun canlynol ar waelod pob tudalen o’r copi:

“Tystiaf fod hwn yn gopi gwir a chyflawn o’r dudalen gyfatebol yn yr atwrneiaeth arhosol wreiddiol.�

Ar dudalen olaf y copi, rhaid i chi hefyd ysgrifennu:

“Tystiaf fod hwn yn gopi gwir a chyflawn o’r atwrneiaeth arhosol.�

Rhaid i chi lofnodi a dyddio pob tudalen.

Ffyrdd eraill o ardystio copi

Gall y canlynol ardystio copïau o’ch LPA hefyd:

  • cyfreithiwr
  • unigolyn sydd ag awdurdod i wneud gweithgareddau notariol