Codi, adennill a chofnodi TAW
Pryd i beidio â chodi TAW
Ni allwch godi TAW ar nwyddau neu wasanaethau sydd wedi’u heithrio.
Os byddwch yn prynu neu� gwerthu eitem sydd wedi’i heithrio, dylech gofnodi’r trafodyn yn eich cyfrifon busnes cyffredinol o hyd.
Dyma rai enghreifftiau o nwyddau a gwasanaethau sydd wedi’u heithrio rhag TAW:
- gwasanaethau ariannol, buddsoddiadau ac yswiriant
- garejys, llefydd parcio ac angorau cwch preswyl
- eiddo, tir ac adeiladau
- addysg a hyfforddiant (ac eithrio ysgolion preifat)
- gofal iechyd a thriniaeth feddygol
- cynlluniau angladd, gwasanaethau claddu neu amlosgi
- digwyddiadau elusennol
- hynafolion
- hapchwarae neu docynnau loteri
- gweithgareddau chwaraeon
Mae rhestr lawn o’r nwyddau sydd wedi’u heithrio rhag TAW (yn agor tudalen Saesneg) ar gael yma.
Nwyddau a gwasanaethau sydd ‘y tu hwnt i gwmpas�
Mae rhai nwyddau a gwasanaethau tu allan i’r system TAW (‘y tu hwnt i gwmpas�), felly ni allwch godi nac adennill TAW arnynt. Er enghraifft:
- nwyddau neu wasanaethau rydych yn eu prynu a’u defnyddio y tu allan i’r DU
- ffioedd statudol, megis
- nwyddau rydych yn eu gwerthu fel hobi, megis stampiau o gasgliad
- cyfraniadau i elusen, os fe’u rhoddir heb gael unrhyw beth yn ôl
Codi TAW ar elusennau
Gall busnesau sydd wedi’u cofrestru ar gyfer TAW werthu rhai nwyddau a gwasanaethau i elusennau ar y gyfradd sero neu’r gyfradd is o TAW.
Dysgwch beth sy’n gymwys ar gyfer y gyfradd is (yn agor tudalen Saesneg).
Os ydych yn fusnes sydd wedi’i gofrestru ar gyfer TAW, eich cyfrifoldeb chi yw gwirio a yw’r elusen yn gymwys, ac i ddefnyddio’r gyfradd gywir.
Nid yw clybiau chwaraeon amatur cymunedol yn gymwys i gael y rhyddhadau TAW ar gyfer elusennau.
Gwirio bod yr elusen yn gymwys
Gofynnwch i’r elusen roi tystiolaeth i chi ei bod yn elusen. Gall hyn fod yn un o’r canlynol:
- rhif cofrestru’r Comisiwn Elusennau
- llythyr o gydnabyddiaeth gan Gyllid a Thollau EF (CThEF) os nad yw wedi’i gofrestru gyda’r Comisiwn Elusennau (er enghraifft, os yw’n elusen yn yr Alban neu Ogledd Iwerddon)
Cael datganiad ysgrifenedig
Mae angen i chi hefyd ofyn i’r elusen roi datganiad ysgrifenedig neu dystysgrif i chi yn cadarnhau ei bod yn bodloni’r amodau ar gyfer y rhyddhad TAW penodol.
Mae’n rhaid i elusennau ddilyn fformat penodol ar gyfer y datganiad neu dystysgrif (yn agor tudalen Saesneg). Mae’n rhaid i’r datganiad fod ar wahân i’r ffurflen archebu neu anfoneb.
Mae’n rhaid i chi gadw unrhyw ddatganiad neu dystysgrif am o leiaf 4 blynedd.