Cofnodion busnes os ydych yn hunangyflogedig

Printable version

1. Trosolwg

Mae’n rhaid i chi gadw cofnodion o incwm a threuliau eich busnes ar gyfer eich Ffurflen Dreth Hunanasesiad os ydych yn hunangyflogedig fel:

  • unig fasnachwr

  • partner mewn partneriaeth fusnes

Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg.

Bydd angen i chi hefyd gadw cofnodion o’ch incwm personol.

Os mai chi yw’r partner enwebedig (yn agor tudalen Saesneg) mewn partneriaeth, mae’n rhaid i chi hefyd gadw cofnodion ar gyfer y bartneriaeth.

Mae rheolau gwahanol ar gadw cofnodion ar gyfer cwmnïau cyfyngedig (yn agor tudalen Saesneg).

Cofnodi eich incwm a’ch treuliau

Os ydych yn paratoi cyfrifon ar gyfer eich busnes, bydd angen i chi ddewis y dyddiad y bydd eich cyfnod o gadw’r cofnodion hyn yn dechrau, a’r dyddiad y bydd y cyfnod hwn yn dod i ben � fel arfer, bydd y dyddiadau hyn yn aros yr un peth pob blwyddyn.

Efallai y bydd yn haws i chi lenwi’ch Ffurflen Dreth os yw’r dyddiad yn cyd-fynd â’r flwyddyn dreth (6 Ebrill i 5 Ebrill). Mae hyn oherwydd bod Cyllid a Thollau EF (CThEF) yn cyfrifo treth yn seiliedig ar y flwyddyn dreth. Os nad yw’ch cyfrifon yn cyd-fynd â’r flwyddyn dreth, bydd angen i chi ddyrannu elw i 2 gyfnod cyfrifyddu gwahanol.

Os nad ydych yn paratoi cyfrifon, bydd angen i chi gofnodi eich incwm a’ch treuliau ar gyfer pob blwyddyn dreth (6 Ebrill i 5 Ebrill).

Dulliau cyfrifyddu

Bydd yn rhaid i chi ddewis dull cyfrifyddu.

O flwyddyn dreth 2024 i 2025 ymlaen, cyfrifyddu ar sail arian parod yw’r dull diofyn o gyfrifo (yn agor tudalen Saesneg). Mae’n rhaid i chi optio allan os ydych am ddefnyddio cyfrifyddu traddodiadol neu os na allwch ddefnyddio cyfrifyddu ar sail arian parod.

Cyfrifyddu ar sail arian parod

Gall y rhan fwyaf o fusnesau ddefnyddio cyfrifyddu ar sail arian parod (yn agor tudalen Saesneg).

Gyda’r dull hwn, rydych ond yn cofnodi incwm neu dreuliau pan fyddwch yn cael arian neu’n talu bil. Mae hyn yn golygu na fydd angen i chi dalu Treth Incwm ar arian nad ydych eto wedi’i gael.

Enghraifft

Rydych yn cofnodi eich incwm a’ch treuliau yn unol â’r flwyddyn dreth (6 Ebrill i 5 Ebrill). Gwnaethoch anfon anfoneb at rywun ar 15 Mawrth 2024, ond ni chawsoch yr arian tan 30 Ebrill 2024. Dylech gofnodi’r incwm hwn fel petai wedi dod i law ar 30 Ebrill 2024, hynny yw, ei gofnodi ar gyfer blwyddyn dreth 2024 i 2025.

Cyfrifyddu traddodiadol

Mae llawer o fusnesau’n defnyddio cyfrifyddu traddodiadol lle rydych yn cofnodi incwm a threuliau yn ôl y dyddiad y gwnaethoch anfon anfoneb neu a gawsoch eich bilio.

Enghraifft

Rydych yn paratoi cyfrifon hyd at 31 Mawrth pob blwyddyn. Gwnaethoch anfon anfoneb at gwsmer ar 28 Mawrth 2024. Rydych yn cofnodi’r anfoneb honno ar gyfer blwyddyn dreth 2023 i 2024 � hyd yn oed os na chawsoch yr arian tan y flwyddyn dreth nesaf.

2. Pa gofnodion i’w cadw

Bydd angen i chi gadw cofnodion o’r canlynol:

Pam fod angen i chi gadw cofnodion

Nid oes angen i chi anfon eich cofnodion pan rydych yn cyflwyno’ch Ffurflen Dreth, ond bydd angen i chi eu cadw fel y gallwch wneud y canlynol: 

  • cyfrifo eich elw neu golled ar gyfer eich Ffurflen Dreth

  • eu dangos i Gyllid a Thollau EF (CThEF) os gofynnir amdanynt

Mae’n rhaid i chi sicrhau’r canlynol:

  • bod eich cofnodion yn gywir 

  • eich bod yn gallu adnabod trafodion busnes

Mae’n bosibl y byddwch yn gallu defnyddio cyfrif banc personol neu gyfrif banc busnes ar gyfer eich busnes. Gwiriwch gyda’ch banc pa fath o gyfrif y gallwch ei ddefnyddio ar gyfer trafodion busnes.

Cadw tystiolaeth

Mae mathau o dystiolaeth yn cynnwys:

  • pob derbynneb ar gyfer nwyddau a stoc

  • cyfriflenni banc, bonion llyfr siec

  • anfonebau gwerthiannau, rholiau til a slipiau banc

Os ydych yn defnyddio cyfrifyddu traddodiadol

Yn ogystal â’r cofnodion safonol, bydd angen i chi hefyd gadw rhagor o gofnodion fel bod eich Ffurflen Dreth yn cynnwys:

  • yr hyn sy’n ddyledus i chi ond nad ydych wedi’i gael eto

  • yr hyn rydych wedi ymrwymo i’w wario ond nad ydych wedi’i dalu eto, er enghraifft rydych wedi cael anfoneb ond heb ei thalu eto

  • gwerth y stoc a’r gwaith ar y gweill ar ddiwedd eich cyfnod cyfrifyddu

  • eich balans banc ar ddiwedd y flwyddyn

  • faint yr ydych wedi’i fuddsoddi yn y busnes yn ystod y flwyddyn

  • faint o arian yr ydych wedi’i dynnu at eich defnydd eich hun

3. Pa mor hir y dylech gadw eich cofnodion

Mae’n rhaid i chi gadw eich cofnodion am o leiaf 5 mlynedd ar ôl y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno, sef 31 Ionawr yn y flwyddyn dreth berthnasol. Efallai y bydd Cyllid a Thollau EF (CThEF) yn gwirio’ch cofnodion i wneud yn siŵr eich bod yn talu’r swm cywir o dreth.

·¡²Ô²µ³ó°ù²¹¾±´Ú´Ú³ÙÌý

Os gwnaethoch gyflwyno’ch Ffurflen Dreth 2022 i 2023 ar-lein erbyn 31 Ionawr 2024, mae’n rhaid i chi gadw’ch cofnodion tan o leiaf diwedd mis Ionawr 2029.

Ffurflenni Treth hwyr iawn

Os byddwch yn anfon eich Ffurflen Dreth fwy na 4 blynedd ar ôl y dyddiad cau, bydd angen i chi gadw’ch cofnodion am 15 mis ar ôl i chi anfon y Ffurflen Dreth honno.

Os caiff eich cofnodion eu colli, eu dwyn neu eu dinistrio

Os na allwch roi cofnodion newydd yn eu lle, mae’n rhaid i chi wneud eich gorau i roi ffigurau i ni. Rhowch wybod i CThEF pan fyddwch yn cyflwyno’ch Ffurflen Dreth os ydych yn defnyddio’r canlynol:

  • ffigurau amcangyfrifedig - eich amcangyfrif gorau pan na allwch roi’r ffigurau gwirioneddol

  • ffigurau amodol - eich ffigurau amcangyfrifedig dros dro wrth i chi aros am ffigurau gwirioneddol (bydd angen i chi hefyd gyflwyno ffigurau gwirioneddol pan fyddant ar gael)