Cymryd cerbyd y tu allan i’r DU
Printable version
1. Am 12 mis neu fwy
Mae’n rhaid ichi roi gwybod i DVLA os ydych yn cymryd eich cerbyd allan o’r DU, gan gynnwys i Ynysoedd y Sianel (Jersey a Guernsey), Ynys Manaw neu Iwerddon, am 12 mis neu fwy. Gelwir hyn yn allforio parhaol.
Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg (English).
Bydd angen ichi:
-
Lenwi’r adran ‘allforio parhaol� yn llyfr log eich cerbyd (V5CW) a’i datgysylltu o’r llyfr log.
-
Anfon yr adran ‘allforio parhaol� wedi’i chwblhau i DVLA, Abertawe, SA99 1BD. Cynnwys llythyr os ydych wedi symud dramor ac eisiau i’ch ad-daliad treth cerbyd (os oes gennych hawl i un) gael ei anfon i’ch cyfeiriad newydd.
-
Cadw gweddill eich llyfr log (V5CW) - mae ei angen arnoch i gofrestru eich cerbyd yn y wlad rydych yn mynd ag ef iddi.
-
Diweddaru’r cyfeiriad ar eich trwydded yrru os ydych yn symud tŷ.
Os oes ad-daliad yn ddyledus ichi, byddwch yn ei dderbyn o fewn 4 i 6 wythnos fel arfer. Mae’r ad-daliad yn cael ei gyfrifo o’r dyddiad y mae DVLA yn derbyn eich adran ‘allforio parhaol�.
Os ydych yn prynu cerbyd i’w gymryd dramor, gwnewch yn siŵr bod y gwerthwr yn dilyn y broses gywir ar gyfer cerbydau a fydd yn cael eu cofrestru mewn gwlad arall. Rhaid iddynt roi’r llyfr log llawn (V5CW) ichi - nid y slip ceidwad newydd yn unig.
Os nad oes gennych lyfr log cerbyd (V5CW)
Cyn ichi adael y DU
Mae angen ichi gael llyfr log cerbyd (V5CW) cyn ichi adael y DU. Ni all DVLA anfon llyfr log cerbyd i gyfeiriad y tu allan i’r DU.
Gallai gymryd hyd at:
- 5 diwrnod os ydych yn gwneud cais ar-lein
- 4 i 6 wythnos os ydych yn gwneud cais drwy’r post neu os ydych wedi newid eich cyfeiriad neu’ch enw
Pan fyddwch yn derbyn eich llyfr log, llenwch ac anfonwch yr adran ‘allforio parhaol� i DVLA.
Os na fyddwch chi’n ei dderbyn cyn ichi adael y DU, cysylltwch ag awdurdod gyrru’r wlad rydych chi’n teithio iddi. Byddant yn dweud wrthych pa ddogfennau sydd eu hangen arnoch.
Os ydych chi eisoes wedi gadael y DU
Cysylltwch ag awdurdod gyrru’r wlad rydych chi’n mynd â’r cerbyd iddi. Byddant yn dweud wrthych pa ddogfennau y bydd angen ichi eu darparu i gofrestru’r cerbyd yno.
Mae angen ichi hefyd anfon llythyr i DVLA i ddweud wrthynt eich bod wedi cymryd y cerbyd allan o’r wlad. Dylech gynnwys:
- eich enw a’ch cyfeiriad
- gwneuthuriad, model ac os yw’n bosibl, rhif adnabod cerbyd y cerbyd
- y dyddiad y cymeroch y cerbyd allan o’r wlad
DVLA
Abertawe
SA99 1BA
Os na allwch gael llyfr log cerbyd (V5CW)
Cysylltwch ag awdurdod gyrru’r wlad rydych chi’n mynd â’r cerbyd iddi - byddant yn dweud wrthych sut i gofrestru’ch cerbyd.
Anfonwch lythyr i DVLA i ddweud wrthynt eich bod wedi cymryd y cerbyd allan o’r wlad. Dylech gynnwys:
- eich enw a’ch cyfeiriad
- y dyddiad y cymeroch y cerbyd allan o’r wlad
- i ble y gall DVLA anfon yr ad-daliad treth cerbyd
DVLA
Abertawe
SA99 1BA
Os yw’r adran ‘allforio parhaol� ar goll
Os nad yw’r adran ‘allforio parhaol� yn y llyfr log, anfonwch lythyr i DVLA i ddweud wrthynt eich bod wedi cymryd y cerbyd allan o’r wlad. Dylech gynnwys:
- eich enw a’ch cyfeiriad
- y dyddiad y cymeroch y cerbyd allan o’r wlad
DVLA
Abertawe
SA99 1BA
Symud eich cerbyd rhwng Prydain a Gogledd Iwerddon
Cwblhewch yr adran newid cyfeiriad yn eich llyfr log a’i hanfon i DVLA.
DVLA
Abertawe
SA99 1BA
Cofrestriadau personol
Bydd angen ichi drosglwyddo neu gadw eich cofrestriad personol cyn allforio eich cerbyd. Fel arall byddwch yn colli eich hawl i’r rhif cofrestru.
Os ydych yn fasnachwr moduron
Bydd angen ichi:
- lenwi’r adran ‘allforio parhaol� yn llyfr log eich cerbyd (V5CW) a’i datgysylltu o’r llyfr log
- anfon yr adran ‘allforio parhaol� wedi’i chwblhau i DVLA, Abertawe, SA99 1BD
2. Am lai na 12 mis
Mae beth sydd angen ichi ei wneud yn dibynnu ar p’un ai ydych yn cymryd:
- eich cerbyd eich hun dramor
- cerbyd sydd wedi’i logi neu ei brydlesu dramor
Cymryd eich cerbyd eich hun dramor
Rhaid ichi fynd â llyfr log eich cerbyd (V5CW) gyda chi os ydych yn mynd â’ch cerbyd dramor am lai na 12 mis. Efallai y bydd yn rhaid ichi ei ddangos os cewch eich stopio mewn porthladd neu wrth yrru dramor.
Rhaid i’ch V5CW ddangos eich cyfeiriad diweddaraf yn y DU.
Gwnewch gais o flaen llaw os oes angen ichi gael V5CW neu i ddiweddaru eich V5CW cyn ichi deithio. Gallai gymryd hyd at:
- 5 diwrnod os ydych yn gwneud cais ar-lein
- 4 i 6 wythnos os ydych yn gwneud cais drwy’r post neu os ydych wedi newid eich cyfeiriad neu’ch enw
Mae cyfraith y DU yn dal i fod yn berthnasol i gerbyd sydd wedi’i gofrestru yn y DU os byddwch yn mynd ag ef dramor am lai na 12 mis. Mae hynny’n golygu bod angen ichi wneud yn siŵr:
- bod eich cerbyd yn cael ei drethu yn y DU tra ei fod dramor
- bod gennych MOT cyfredol
- bod gennych yswiriant
Bydd angen ichi hefyd sicrhau eich bod yn bodloni unrhyw amodau rhyngwladol neu genedlaethol ar gyfer trwyddedu a threthiant.
Gwirio a oes angen ichi dalu toll mewnforio
Efallai y bydd angen ichi dalu toll mewnforio ar eich cerbyd os byddwch yn mynd ag ef y tu allan i’r DU. Gwiriwch gyda’r awdurdodau yn y wlad rydych yn mynd â’ch cerbyd iddi.
Nid oes angen ichi dalu toll mewnforio i fynd â’ch cerbyd o Ogledd Iwerddon i Brydain Fawr neu’r UE.
Os ydych yn mynd i wlad y tu allan i’r UE sy’n codi toll, gallwch . Mae hyn yn gadael ichi fynd â’ch cerbyd i’r wlad dros dro heb dalu toll. Gall hefyd wneud croesi’r ffin yn symlach.
Bydd yn rhaid ichi dalu ffi a blaendal. Fel arfer byddwch yn cael y carnet o fewn 4 wythnos o wneud cais.
Mynd â’ch cerbyd i Liechtenstein, Mecsico neu Somalia
Rhaid ichi fynd â Thystysgrif Ryngwladol ar gyfer Cerbydau Modur (ICMV) gyda chi yn ogystal â’ch V5CW.
Dod â’ch cerbyd yn ôl heb dreth
Os byddwch yn dod â’ch cerbyd yn ôl i’r DU heb dreth, ni allwch ei yrru yn ôl i’r DU - bydd yn rhaid ei gludo a rhaid gwneud HOS (Hysbysiad Oddi-ar-y-ffordd Statudol) ar unwaith.
Mynd â cherbyd sydd wedi’i logi neu ei brydlesu dramor
Bydd angen tystysgrif llogi cerbyd VE103 arnoch i ddangos bod gennych hawl i ddefnyddio cerbyd sydd wedi’i logi neu gerbyd ar brydles os ydych yn ei yrru dramor.
Gallwch gael VE103 am ffi gan:
Mynd â cherbyd sydd wedi’i logi neu ei brydlesu i Liechtenstein, Mecsico neu Somalia
Rhaid ichi fynd â ICMV gyda chi, yn ogystal â thystysgrif llogi cerbyd VE103.
Bydd angen ichi ofyn i’r cwmni y gwnaethoch logi neu brydlesu’r cerbyd oddi wrtho wneud cais am ICMV.
3. Trethi os ydych yn prynu cerbyd newydd i’w gymryd dramor
Os prynwch gerbyd newydd neu ail gerbyd i’w gymryd allan o’r DU, efallai na fydd yn rhaid ichi dalu TAW y DU na threthi cerbydau fel y ffi gofrestru.
Mae’r hyn rydych yn ei dalu a sut rydych yn ei dalu yn dibynnu ar i ble rydych yn allforio ac o ble rydych yn allforio.
Allforio eich cerbyd gyda’r Cynllun Allforio Personol
Mae’n bosibl y gallwch ddefnyddio’r Cynllun Allforio Personol i gymryd cerbyd newydd neu ail-law:
- o Brydain i unrhyw le y tu allan i’r DU
- o Ogledd Iwerddon i wlad y tu allan i’r UE
Pan fyddwch yn prynu cerbyd newydd ac yn allforio o dan y cynllun, nid ydych yn talu TAW y DU. Ond mae’n rhaid ichi dalu trethi cerbyd a’r ffi gofrestru o hyd.
Rhaid eich bod yn bwriadu gadael y DU am o leiaf 6 mis gyda’r cerbyd. Fel arfer mae’n rhaid ichi fod yn gyrru’ch cerbyd yn bersonol.
Beth sydd angen ichi ei wneud
Llenwch ffurflen VAT 410 (bydd eich cyflenwr yn rhoi copi ichi) a’i rhoi i’ch cyflenwr.
Gallwch yrru’r cerbyd yn y DU am hyd at 6 mis ar ôl y dyddiad dosbarthu (neu 12 mis ar gyfer preswylwyr nad ydynt yn byw yn y DU a’r tu allan i’r UE) - rhaid iddo wedyn gael ei allforio.
Mae dyddiad allforio’r cerbyd i’w weld ar y VX302 (ar gyfer ceir newydd) neu’r VAT 410 (ar gyfer ceir ail-law).
Ar ôl allforio anfonwch y canlynol i DVLA:
- VX302 - cerbydau newydd
- V5CW - cerbydau ail law
Os na fyddwch yn allforio’r cerbyd ar amser bydd yn rhaid ichi dalu TAW y DU.
Allforio eich cerbyd o Ogledd Iwerddon i’r UE
Os byddwch yn prynu cerbyd newydd yng Ngogledd Iwerddon i’w gymryd i wlad yn yr UE, nid oes rhaid ichi dalu TAW y DU os:
- ydych yn cymryd y cerbyd allan o’r DU o fewn 2 fis
- nad ydych yn gyrru’r cerbyd yn y DU oni bai eich bod yn ei gofrestru a’i drethu
Bydd eich cyflenwr yn eich gorfodi i lenwi ffurflen VAT 411.
Bydd yn rhaid ichi ddatgan eich cerbyd a thalu TAW yn y wlad arall pan fyddwch yn cyrraedd yno.