Cynrychioli eich hun yn y llys
Printable version
1. Trosolwg
Mae gennych hawl i siarad drosoch eich hun yn y llys heb gyfreithiwr neu weithiwr cyfreithiol proffesiynol arall.
Gallwch ddewis gwneud hyn oherwydd:
- rydych yn meddwl ei bod yn well siarad yn uniongyrchol â’r barnwr, y rheithgor neu’r ynadon eich hun
- ni allwch fforddio talu ffioedd cyfreithiol
Os ydych yn ystyried cynrychioli eich hun oherwydd na allwch fforddio costau cyfreithiol, gwiriwch a allwch gael cymorth cyfreithiol yn lle hynny.
Byddwch yn cael eich adnabod fel ‘ymgyfreithiwr drosoch eich hun� os ydych yn cynrychioli eich hun. Byddwch hefyd yn cael eich adnabod fel ‘ceisydd�, ‘atebydd� neu ‘ddiffynnydd� yn dibynnu p’un a yw eich achos yn cael ei wrando mewn llys teulu, sifil neu droseddol.
¶Ù²¹°ù±ô±ô±ð²Ô·É³¦³óÌý am gyngor ar sut i gynnal eich achos.
Mae ynaÂ
Rhywun gyda chi yn y llys
Efallai y caniateir i chi gael rhywun i’ch helpu yn y llys drwy gymryd nodiadau a rhoi cyngor, ond ni allant:
- siarad ar eich rhan
- ymyrryd ag achosion
- llofnodi dogfennau ar eich rhan
Gelwir yr unigolyn hwn yn ‘gyfaill McKenzie�.
Bydd y barnwr yn penderfynu a allwch gael cyfaill McKenzie gyda chi yn y llys.
Darllenwch ganllaw ar .
Cael cyngor cyfreithiol
Gallwch dal gael cyngor cyfreithiol i’ch helpu gyda’ch achos, hyd yn oed os byddwch yn dewis cynrychioli eich hun yn y llys.
Darllenwch gyngor ar  ar gyfer dyled, anghydfod neu hawliad anaf personol.
2. Ysgaru a gwahanu yn ymwneud â phlant
Cyfeirir atoch chi fel ‘ceisydd� os wnaethoch ddwyn yr achos, er enghraifft chi wnaeth ffeilio’r papurau ysgariad.
Byddwch yn cael eich adnabod fel yr ‘atebydd� os ydych wedi cael papurau ysgaru neu gais am wahanu, neu orchymyn cyswllt neu orchymyn preswylio ar gyfer plentyn.
Cyn i chi fynd i’r llys
Fel arfer bydd rhaid i chi fynd i apwyntiad cyfryngu cyn i chi fynd i’r llys.
Ni fydd y llys yn gwrando ar eich achos nes i chi anfon ffurflen C100 atynt.
Darllenwch ganllawiau ynghylch a ddylech fynd â’ch achos i’r llys.
Darllenwch yr ‘Arweiniad i Rieni sydd wedi Gwahanu: Plant a’r Llys Teulu.
Mwy o wybodaeth am:
- sut i wneud cais am orchymyn llys
- ²âÌýmathau o orchmynion llys gallwch wneud cais amdano neu ymateb iddo
- beth mae’r llys yn ei wneud ar ôl i chi wneud cais am orchymyn llys
- cael cymorth annibynnol a rhad ac am ddimÂ
3. Ysgaru a gwahanu: arian ac eiddo
Cyfeirir atoch fel y:
- ‘ceisydd� os wnaethoch ddwyn yr achos, er enghraifft chi wnaeth ffeilio’r papurau ysgariad
- ‘atebydd� os oes rhywun arall wedi dod â’r achos
Darganfyddwch beth sy’n rhaid i chi ei wneud cyn i chi fynd i’r llys os ydych yn ysgaru neu’n gwahanu a bod gennych anghydfod ynghylch arian neu eiddo.
Fel arfer mae’n rhaid i chi ystyried cyfryngu cyn i chi fynd i’r llys.
Ni fydd y llys yn gwrando ar eich achos nes i chi anfon ffurflen C100 atynt.