Cytundebau Setliad TWE
Yr hyn sydd wedi’i gynnwys
Mae’n rhaid i’r treuliau neu’r buddiannau rydych yn eu cynnwys mewn Cytundeb Setliad TWE (PSA) fod yn fân, yn afreolaidd neu’n
²Ñâ²Ô
Mae enghreifftiau o fân fuddiannau a threuliau’n cynnwys:
-
gwobrau cymhelliant, er enghraifft ar gyfer gwasanaeth hir
-
biliau ffôn
-
rhoddion bach a thalebau
-
adloniant staff, er enghraifft tocyn i ddigwyddiad
-
treuliau nad yw’n ymwneud â busnes wrth deithio dros nos ar fusnes sydd dros y terfyn dyddiol (yn Saesneg)
Nid oes angen i chi gynnwys buddiannau pitw (yn Saesneg) yn eich Cytundeb Setliad TWE.
Afreolaidd
Mae buddiannau a threuliau afreolaidd yn bethau nad ydynt yn cael eu talu’n rheolaidd dros gyfnod o flwyddyn dreth, er enghraifft yn wythnosol neu’n fisol. Maen nhw hefyd yn bethau nad oes gan gyflogeion hawl contractiol iddynt. Mae enghreifftiau o dreuliau a buddiannau’n afreoleidd yn cynnwys:
-
treuliau adleoli dros £8,000 (mae’r rhain yn rhydd o dreth o dan £8,000)
-
cost mynd i gynadleddau tramor
-
treuliau priod sy’n cyd-fynd â chyflogai tramor
-
defnyddio fflat gwyliau cwmni
Anymarferol
Mae treuliau a buddiannau anymarferol yn bethau sy’n anodd rhoi gwerth arnynt neu rannu rhwng cyflogeion unigol. Mae enghreifftiau o dreuliau a buddiannau anymarferol yn cynnwys:
-
adloniant staff nad yw wedi’i esemptio rhag treth neu Gyfraniadau Yswiriant Gwladol (yn Saesneg)
-
ceir a rennir
-
treuliau gofal personol, er enghraifft trin gwallt
Beth sydd heb ei gynnwys
Ni allwch gynnwys cyflogau, buddiannau gwerth uchel fel ceir cwmni (yn Saesneg), neu daliadau arian parod fel:
-
benthyciadau buddiannol (yn Saesneg) mewn Cytundeb Setliad TWE
Os ydych yn gwneud cais ar ôl dechrau’r flwyddyn dreth, mae cyfyngiadau ychwanegol ar yr hyn y gallwch ei gynnwys (yn Saesneg).