Defnyddio eich GOV.UK One Login

Printable version

1. Mewngofnodi i'ch GOV.UK One Login yn

Gallwch ddefnyddio eich GOV.UK One Login i gael mynediad at rai gwasanaethau鈥檙 llywodraeth.

Nid yw鈥檔 gweithio gyda holl gyfrifon a gwasanaethau鈥檙 llywodraeth eto (er enghraifft Credyd Cynhwysol).

Dros amser, bydd GOV.UK One Login yn disodli鈥檙 holl ffyrdd eraill o fewngofnodi i wasanaethau ar GOV.UK, gan gynnwys Porth y Llywodraeth.

Gweler y gwasanaethau y gallwch eu defnyddio gyda GOV.UK One Login.

Mae鈥檙 gwasanaeth ar-lein ar gael yn Saesneg (English) hefyd.

Os ydych angen GOV.UK One Login i ddefnyddio gwasanaeth, ac nad oes gennych un yn barod, byddwch yn gallu creu un pan fyddwch yn defnyddio鈥檙 gwasanaeth hwnnw am y tro cyntaf.

Mewngofnodwch i:

  • newid eich manylion mewngofnodi (cyfeiriad e-bost, cyfrinair neu sut rydych yn cael codau diogelwch)
  • gweld a chael mynediad at y gwasanaethau rydych wedi鈥檜 defnyddio gyda鈥檆h GOV.UK One Login
  • dileu eich GOV.UK One Login

Cael help i ddefnyddio GOV.UK One Login

Gallwch i gael help, rhoi gwybod am broblem neu roi adborth.

Gallwch hefyd ofyn i rywun rydych yn eu hadnabod ac yn ymddiried ynddynt i鈥檆h helpu os nad ydych yn teimlo鈥檔 gyfforddus yn defnyddio GOV.UK One Login ar eich pen eich hun. Darganfyddwch beth gall ac na all y person rydych yn gofyn iddynt eich helpu gyda.

Sut mae GOV.UK One Login yn defnyddio鈥檆h gwybodaeth

I gael gwybod sut mae eich gwybodaeth yn cael ei storio a鈥檌 defnyddio pan fyddwch yn defnyddio GOV.UK One Login, gweler .

2. Gwasanaethau y gallwch eu defnyddio gyda GOV.UK One Login

3. Profi eich hunaniaeth gyda GOV.UK One Login

Bydd angen i chi brofi eich hunaniaeth gyda GOV.UK One Login i ddefnyddio rhai gwasanaethau. Pan fyddwch yn gwneud hyn, bydd eich gwybodaeth One Login yn cael ei storio鈥檔 awtomatig i鈥檆h GOV.UK One Login.

Mae hyn yn golygu na fydd angen i chi brofi eich hunaniaeth eto y tro nesaf y bydd angen i wasanaeth wirio pwy ydych chi.

Mae yna 3 ffordd i brofi eich hunaniaeth gyda GOV.UK One Login:

  • gyda鈥檙 ap GOV.UK ID Check
  • drwy ateb cwestiynau diogelwch ar-lein
  • mewn Swyddfa Bost

Bydd y dull a ddefnyddiwch yn dibynnu ar eich dyfais, os oes gennych ID gyda llun a pha fath o ID gyda llun sydd gennych.

Gyda鈥檙 ap GOV.UK ID Check

Bydd angen un o鈥檙 mathau canlynol o ID llun arnoch chi:

  • trwydded yrru cerdyn llun y DU
  • pasbort y DU
  • pasbort o鈥檙 tu allan i鈥檙 DU gyda sglodyn biometrig
  • trwydded breswylio biometreg y DU (BRP)
  • cerdyn preswylio biometreg y DU (BRC)
  • trwydded Gweithwyr Ffiniol y DU (FWP)

Gallwch ond defnyddio BRP, BRC neu FWP sydd wedi dod i ben hyd at 18 mis ar 么l ei ddyddiad dod i ben gyda鈥檙 ap GOV.UK ID Check.

Byddwch hefyd angen mynediad i ff么n gyda chamera sy鈥檔 gweithio.

Os ydych yn defnyddio iPhone, rhaid iddo fod yn rhedeg iOS 14 neu uwch a bod naill ai yn:聽

  • iPhone 6s neu fwy newydd os yw鈥檆h ID gyda llun yn drwydded yrru y DU
  • iPhone 7 neu fwy newydd os ydych yn defnyddio unrhyw fath arall o ID gyda llun聽

Ar gyfer ff么n Android (er enghraifft, Samsung neu Google Pixel), rhaid iddo fod yn rhedeg Android 10 neu uwch.

Byddwch yn cael arweiniad ar sut i lawrlwytho a defnyddio鈥檙 ap.

Trwy ateb cwestiynau diogelwch ar-lein

Bydd yn rhaid i chi ateb rhai cwestiynau diogelwch am bethau fel eich contract ff么n symudol, ac unrhyw gyfrifon banc, cardiau credyd, benthyciadau neu forgeisi sydd gennych.

Mae angen i chi hefyd roi manylion o un o鈥檙 canlynol:

  • pasbort y DU
  • trwydded yrru cerdyn llun y DU
  • cyfrif cyfredol gyda banc neu gymdeithas adeiladu yn y DU

Mewn Swyddfa Bost

Gofynir i chi:

  • roi manylion o鈥檆h ID gyda llun ar GOV.UK聽
  • fynd i , lle byddant yn sganio鈥檆h ID gyda llun ac yn tynnu llun ohonoch chi

Byddwch yn cael e-bost am ganlyniad eich gwiriad hunaniaeth - fel arfer o fewn diwrnod o fynd i Swyddfa Bost.

Byddwch angen un o鈥檙 mathau canlynol o ID gyda llun:

  • pasbort y DU
  • pasbort o鈥檙 tu allan i鈥檙 DU
  • trwydded yrru cerdyn llun y DU
  • trwydded yrru cerdyn llun yr Undeb Ewropeaidd (UE)
  • cerdyn llun hunaniaeth genedlaethol o wlad yr UE, Norwy, Gwlad yr I芒 neu Liechtenstein