Eiddo deallusol a’ch gwaith
Printable version
1. Beth yw eiddo deallusol
Mae cael y math cywir o ddiogelwch eiddo deallusol yn eich helpu i atal pobl rhag dwyn neu gopïo:
- enwau eich cynhyrchion neu frandiau
- eich dyfeisiadau
- cynllun eich cynhyrchion neu sut maen nhw’n edrych
- y pethau rydych yn eu hysgrifennu, eu creu neu eu cynhyrchu
Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg (English).
Mae hawlfraint, patentau, dyluniadau a nodau masnach oll yn fathau o ddiogelwch eiddo deallusol. Rydych yn cael rhai mathau o ddiogelwch yn awtomatig, mae’n rhaid i chi wneud cais am eraill.
Beth sy’n cyfri fel eiddo deallusol
Mae eiddo deallusol yn rhywbeth yr ydych yn ei greu gan ddefnyddio eich meddwl � er enghraifft, stori, rhywbeth a ddyfeisiwyd, gwaith artistig neu symbol.
Bod yn berchen ar eiddo deallusol
Rydych yn berchen ar eiddo deallusol os:
- ydych wedi ei greu (ac mae’n ateb y gofynion ar gyfer hawlfraint, patent neu gynllun)
- ydych wedi prynu eich hawliau deallusol gan yr un a greodd yr eiddo neu berchennog blaenorol
- oes gennych frand a allai fod yn nod masnach, er enghraifft, enw cynnyrch adnabyddus
Gall eiddo deallusol:
- gael mwy nag un perchennog
- fod yn eiddo i bobl neu fusnesau
- gael ei werthu neu ei drosglwyddo
Mae hawliau eiddo deallusol yn gadael i chi wneud arian o’r eiddo deallusol yr ydych yn berchen arno.
Eiddo deallusol os ydych yn hunangyflogedig
Os ydych yn hunangyflogedig, rydych fel arfer yn berchen ar yr eiddo deallusol hyd yn oed os cafodd eich gwaith ei gomisiynu gan rywun arall � heblaw bod eich contract gyda nhw’n rhoi’r hawliau iddyn nhw.
Fyddwch chi ddim fel arfer yn berchen ar yr eiddo deallusol am rywbeth a grëwyd gennych yn rhan o’ch gwaith pan oeddech yn gyflogedig gan rywun arall.
2. Amddiffyn eich eiddo deallusol
Mae diogelu eich eiddo deallusol yn ei gwneud yn haws i gymryd camau cyfreithiol yn erbyn unrhyw un sy’n ei ddwyn neu ei gopïo.
Mae gwahanol fathau o ddiogelwch yn dibynnu ar yr hyn rydych wedi’i greu.
Math o amddiffyniad | Eiddo deallusol y mae’n ei gynnwys | Amser i ganiatáu cais |
---|---|---|
Cofrestru nod masnach | Enwau cynnyrch, logos, jingles | 4 mis |
Cofrestru dyluniad | Ymddangosiad cynnyrch, gan gynnwys ei siâp, pecynnu, patrymau, addurniad | 3 wythnos |
Hawlfreinio eich gwaith | Gwaith ysgrifennu a llenyddol, celf, ffotograffiaeth, ffilmiau, teledu, cerddoriaeth, cynnwys gwe | Dim angen gwneud cais |
Patentio dyfais | Dyfeisiadau a chynhyrchion, er enghraifft peiriannau, meddyginiaethau | Tua 5 mlynedd |
Rydych yn cael amddiffyniad awtomatig cyfyngedig dros eiddo deallusol, er enghraifft hawl dyluniad. Fodd bynnag, mae’n haws profi eich bod yn berchen ar eiddo deallusol yn gyfreithlon os yw wedi’i gofrestru.
Cadwch eich eiddo deallusol yn gyfrinach nes ei fod wedi’i gofrestru. Os oes angen i chi drafod eich syniad gyda rhywun, defnyddiwch gytundeb peidio â datgelu.
Defnyddio mwy nag un math o amddiffyniad
Gallai mwy nag un math o amddiffyniad fod yn gysylltiedig ag un cynnyrch, er enghraifft, gallwch:
- cofrestru’r enw a’r logo fel nod masnach
- diogelu siâp unigryw cynnyrch fel dyluniad cofrestredig
- patent darn weithio gwbl newydd
- defnyddio hawlfraint i ddiogelu lluniadau’r cynnyrch
Cael help
Ystyriwch pa fath o amddiffyniad sydd ei angen arnoch. Gallwch:
- defnyddio’r gwasanaeth Cyfarpar IP i ddarganfod pa
- siarad â gweithiwr proffesiynol, er enghraifft neu - Gall cyngor sylfaenol fod yn rhad ac am ddim
- Ewch i glinig IP lleol neu’r yn Llundain