Taliadau: ymholiadau
Cysylltwch â CThEF am help gyda thaliadau treth.
Ar-lein
Gallwch hefyd gael gwybodaeth drwy’r canlynol:
- ap swyddogol CThEF
- eich Cyfrif Treth Personol neu Gyfrif Treth Busnes gan ddefnyddio gwasanaethau ar-lein CThEF
E-bost
E-bostiwch eich ymholiadau ynghylch treth at CThEF: [email protected]
Nodwch eich enw a’ch rhif ffôn.
Os yw CThEF yn ateb eich ymholiad drwy e-bost, nid yw’r wybodaeth yn ddiogel. Os oes angen iddynt gysylltu â chi ynglŷn ag unrhyw beth cyfrinachol, byddant yn gwneud hynny drwy lythyr neu dros y ffôn.
¹ó´Úô²Ô
Ymholiadau cyffredinol ynghylch taliadau
Ffoniwch CThEF am ymholiadau cyffredinol ynghylch taliadau treth.
Mae gan ymholiadau tollau, ecséis a TAW rif gwahanol i’w llinell gymorth.
¹ó´Úô²Ô: 0300 200 1900
Oriau agor: Dydd Llun i ddydd Gwener, 8:30am i 5pm. Ar gau ar gwyliau banc.
Llinell Gymorth Rheolaeth Dyledion
Ffoniwch CThEF am help os na allwch dalu eich bil treth ar amser.
¹ó´Úô²Ô: 0300 200 3860
Oriau agor: Dydd Llun i ddydd Gwener, 8:30am i 5pm. Ar gau ar gwyliau banc.
Archebu slipiau talu TAW
Ffoniwch CThEF er mwyn archebu slipiau talu TAW. Bydd angen eich rhif cofrestru TAW ac enw’ch cwmni arnoch.
Gall gymryd 4 i 6 wythnos i’r slipiau talu gael eu hargraffu a’u hanfon atoch. Bydd yn rhaid i chi ddefnyddio dull arall o dalu os yw eich dyddiad cau cyn iddynt gyrraedd.
¹ó´Úô²Ô: 0300 200 3705
Oriau agor: Dydd Llun i Ddydd Gwener, 8:30am i 5pm. Ar gau ar gwyliau banc.
Darganfyddwch am gostau galwadau