O bapur i ddigidol: dod â mwy o dawelwch meddwl i unigolion sy’n gwahanu
Mae ysgaru yn ddigwyddiad bywyd arwyddocaol sy’n effeithio ar filoedd o bobl bob blwyddyn yng Nghymru a Lloegr.

Hyd at 2018, roedd y broses yn gyfan gwbl ar bapur, gan olygu:
- roedd camgymeriadau’n cael eu gwneud yn aml wrth lenwi ffurflenni hirfaith, llawn jargon
- oedi a achosir gan yr angen i ddychwelyd niferoedd uchel o geisiadau oherwydd gwallau
- hysbysiadau araf i’r ceisydd neu weithiwr proffesiynol ym maes y gyfraith bod cais wedi’i dderbyn
- oriau a dreulir gan ein pobl yn agor post, yn creu ffeiliau achos papur, yn olrhain ffurflenni coll ac yn cymryd taliadau dros y ffôn
- effeithiau amgylcheddol a chost i’r trethdalwr yn gysylltiedig ag argraffu, postio a chludo papur
Roedd angen moderneiddio’r gwasanaeth er mwyn gwasanaethu’r cyhoedd a gweithwyr proffesiynol ym maes y gyfraith yn well yn ystod cyfnod sy’n aml yn heriol yn emosiynol.
Manteision y gwasanaeth digidol
Mae ein gwasanaeth ysgariad modern wedi chwyldroi’r broses ymgeisio, gan gyflawni gwelliannau sylweddol. Ers 2019, mae dros 450,000 o geisiadau wedi’u gwneud yn ddigidol gan bobl sy’n ysgaru, sy’n golygu:
- gostyngiad mawr yn y gwallau a wnaed ar geisiadau - gostyngodd cyfraddau dychwelyd o 40% i 1% yn unig
- mae gwybodaeth reoli fewnol yn dangos bod galwadau gan ddefnyddwyr y llys yn cael eu hateb mewn llai na munud
- maent wedi cael eu cefnogi’n well trwy allu cael mynediad at wybodaeth am help i dalu ffioedd yn y broses ymgeisio
- gwell eglurder a sicrwydd trwy allu olrhain a rheoli mwy nag un proses yn eu hachos trwy un gwasanaeth integredig
- bod data a gwybodaeth sensitif yn cael eu diogelu trwy ddulliau diogelu preifatrwydd mwy cadarn
- lleihau’r effaith amgylcheddol trwy leihau’r defnydd o bapur
Ein trawsnewidiad digidol
Dechreuodd y daith drawsnewid yn 2016 gydag ymchwil defnyddwyr cynhwysfawr i ddeall yr heriau a wynebir gan unigolion sy’n ysgaru, gweithwyr proffesiynol ym maes y gyfraith, a staff y llys.
Mae ein gwasanaeth wedi’i drawsnewid yn cynnig:
- mynediad 24/7 i geisiadau
- yr opsiwn i gadw a dychwelyd, gan ganiatáu i bobl gymryd seibiant neu ddod o hyd i ddogfennau heb golli cynnydd ar eu cais
- olrhain statws cais mewn amser real
- canllawiau clir, cam-wrth-gam i leihau camgymeriadau
- y gallu i wneud cais ar y cyd o dan Ddeddf Ysgaru, Diddymu a Gwahanu 2020
- proses rhwymedi ariannol integredig ar gyfer gweithwyr proffesiynol ym maes y gyfraith i helpu unigolion i gytuno ar sut i reoli cyllid
- y gallu i rannu gwaith ar draws timau ar gyfer cwmnïau cyfreithiol
- opsiynau talu symlach
Mae ein hymagwedd ddigidol yn gweithio � rydym wedi gweld y nifer sy’n defnyddio’r system ddigidol yn codi’n aruthrol o 22% yn 2020 i 94% yn 2024.
Ymateb i ddeddfau newydd
Ers lansio’r gwasanaeth ysgariad ar-lein gwreiddiol i’r cyhoedd yn 2018 rydym wedi ymateb yn gyflym i newidiadau ehangach. Fe wnaethom ail-lansio’r gwasanaeth yn 2022 yn dilyn gweithredu’r Ddeddf Ysgaru, Diddymu a Gwahanu.
Mae’r gwasanaeth bellach yn galluogi ceisiadau ar y cyd am ysgariad, gan helpu i leihau anghydfod ymhlith unigolion sy’n gwahanu. Wrth gynllunio’r newidiadau hyn, buom yn gweithio gyda phobl sy’n defnyddio’r gwasanaeth, gan wrando ar eu hadborth ar bob cam i sicrhau bod y gwasanaeth newydd yn gweithio’n ddidrafferth i’r bobl yr oedd ei angen arnynt.
Mae adborth gan aelodau’r cyhoedd a gweithwyr proffesiynol ym maes y gyfraith yn dangos sut mae’r gwasanaeth wedi gwella:
Crispin, defnyddiwr gwasanaeth:
“Roedd y profiad cyffredinol yn eithaf didrafferth� fe weithiodd popeth fel y dylai wneud. Roedd yn teimlo fel un o rannau mwy cadarnhaol yr ysgariad.�
Karen Dovaston, Cyfreithiwr:
“Ar ochr y cyfreithiwr, mae’n ymwneud ag effeithlonrwydd. Gallaf fewngofnodi a gweld fy holl achosion a gweld yn union beth sy’n digwydd gyda nhw. Mae’n wirioneddol effeithlon o ran gallu diweddaru’ch cleientiaid o ran beth sy’n digwydd a ble mae pethau wedi cyrraedd. Gallwch chi lawrlwytho dogfennau yn hawdd iawn, gan wneud eich ceisiadau yn hawdd ac yn gyflym.
Yr effaith ganlyniadol i mi ac i’m cleientiaid yw bod gennyf ffi sefydlog am ysgariad. Dwi’n hapus ag ef ac mae’n golygu y gallaf drosglwyddo’r holl arbedion hynny i’m cleient oherwydd nid wyf wedyn yn treulio’r holl amser y byddwn wedi bod yn ei dreulio yn drafftio dogfennau papur, yn rhoi gwybodaeth mewn dogfennau papur, oherwydd mae’r system ddigidol yn tynnu’r cyfan drwodd.�
Hanes Arwel
Pan benderfynodd Arwel a’i wraig Caroline ysgaru, nid oedd yn siŵr sut i gychwyn y broses ac roedd yn teimlo’n ofidus. Roedd cydweithiwr wedi bod drwy’r broses a dywedodd wrtho nad oedd mor gymhleth ag yr arferai fod a bod gwneud cais ar-lein yn hawdd. Gwnaeth Arwel rywfaint o ymchwil a phenderfynodd wneud cais ar-lein. Nid oedd yn siŵr beth i’w ddisgwyl ond gyda’r gwasanaeth ysgariad ar-lein roedd yn gallu ffitio cyflwyno a monitro ei gais o amgylch ei batrwm gwaith shifft prysur.
Roedd Arwel yn gweld defnyddio’r gwasanaeth ar-lein yn rhyfeddol o hawdd, roedd yna ddolenni i ganllawiau defnyddiol a phan oedd angen dod o hyd i wybodaeth fe allai arbed ei gais a dychwelyd ato pan oedd yn barod. Oherwydd ei rota gwaith roedd Arwel yn gweld yr opsiwn i wirio ar-lein yn llawer haws na ffonio llinell gymorth. Roedd yn golygu nad oedd angen iddo ddod o hyd i rywle preifat yn ei swyddfa brysur a gallai wirio ar amser a oedd yn gyfleus iddo.
Yn gyffredinol, rhoddodd y gwasanaeth ysgariad digidol dawelwch meddwl i Arwel fod ei gais yn mynd rhagddo. Roedd y gyfraith yn ymwneud ag ysgariad yn golygu bod y broses yn cymryd amser hir, ond fe wnaeth y gwasanaeth yn glir pa mor bell yr oedd wedi symud ymlaen a oedd yn caniatáu iddo ganolbwyntio ar y dyfodol.
Cydweithio
Rydym wedi gweithio’n agos gyda:
- ein grŵp rhanddeiliaid ysgariad, sy’n cynnwys gweithwyr proffesiynol ysgariad ledled Cymru a Lloegr
- y farnwriaeth
- ein Canolfan Gwasanaethau’r Llysoedd a’r Tribiwnlysoedd yn Stoke i gefnogi ein defnyddwyr
Cael cymorth
Rydym wedi creu system gymorth gynhwysfawr i sicrhau nad oes neb yn cael ei adael ar ôl. Mae hyn yn cynnwys:
- gwasanaeth cymorth digidol rhad ac am ddim drwy We Are Group i ymgeiswyr yng Nghymru a Lloegr
- ffurflenni papur wedi’u moderneiddio gydag iaith symlach a chyfarwyddiadau cliriach
- cefnogaeth benodedig dros y ffôn neu drwy sgwrsio dros y we trwy ein Canolfan Gwasanaethau’r Llysoedd a’r Tribiwnlysoedd
Cynlluniau ar gyfer y dyfodol
Rydym yn parhau i wella’r gwasanaeth i bob ceisydd a’u hymgynghorwyr. Yn y dyfodol byddwn yn:
- cynnig ceisiadau ar-lein am orchmynion interim (i wneud cais cyffredinol fel rhan o ysgariad, diddymiad neu wahanu)
- galluogi ceiswyr i weld ble maent wedi cyrraedd yn y cyfnod aros statudol o 20 wythnos
- gwella ein system hysbysu ymhellach
- cyflwyno y gallu i uwchlwytho dogfennau digidol
- symleiddio gwaith prosesu achosion cymhleth
- parhau i wella canllawiau ar gyfer dewis y math cywir o gais, yn seiliedig ar amgylchiadau personol ceisydd
Cael yr wybodaeth ddiweddaraf
- Ar gyfer cael y canllawiau diweddaraf ar wneud cais am ysgariad, ewch i: Cael ysgariad: cam wrth gam
- Gweithwyr proffesiynol ym maes y gyfraith sy’n gwneud cais am ysgariad ar ran cleientiaid, ewch i: MyHMCTS:Sut i wneud cais am ysgariad neu ddiddymiad
- Ar gyfer cael cymorth i lenwi ffurflenni ysgariad ar-lein, ewch i:
- drwy danysgrifio i’n e-hysbysiadau a’n cylchlythyrau.