Canlyniad yr ymgynghoriad

Rheoli sylweddau ymbelydrol a datgomisiynu niwclear

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2022 to 2024 Sunak Conservative government
Mae'r ymgynghoriad hwn wedi dod i ben

Llwytho'r canlyniad llawn i lawr

Gwneud cais am fformat hygyrch.
Os ydych chi'n defnyddio technoleg gynorthwyol (er enghraifft, rhaglen darllen sgrin) a bod angen fersiwn o'r ddogfen hon arnoch mewn fformat mwy hygyrch, e-bostiwch [email protected]. Rhowch wybod i ni pa fformat sydd ei angen arnoch. Bydd yn ein helpu ni os byddwch chi'n dweud pa dechnoleg gynorthwyol rydych chi'n ei defnyddio.

Manylion am y canlyniad

Gwnaed nifer o newidiadau i’r fframwaith polisi drafft ar sail yr adborth a gafwyd, gan gynnwys:

  • symleiddio’r strwythur a chael gwared ar fanylion amherthnasol
  • egluro agweddau ar y polisi, yn enwedig sut mae’r polisi’n berthnasol i hylif ymbelydrol a gwastraff nwyol
  • ychwanegu manylion at y fframwaith ar gyfer cyfleusterau gwaredu ger yr wyneb ar gyfer gwaredu gwastraff lefel ganolraddol llai peryglus yng Nghymru a Lloegr

Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig a’r gweinyddiaethau datganoledig wedi cyhoeddi’r fframwaith polisi terfynol ar gyfer y Deyrnas Unedig gyfan ar reoli sylweddau ymbelydrol a datgomisiynu niwclear, gan gyfuno polisïau pob rhan o’r DU.

Manylion am yr adborth a gafwyd

Cafwyd 330 o ymatebion i’r ymgynghoriad gan:

  • aelodau o’r cyhoedd
  • llywodraeth leol
  • grwpiau rhanddeiliaid safleoedd niwclear
  • diwydiant
  • y rheoleiddwyr
  • grwpiau buddiant eraill

Roedd y mwyafrif o’r ymatebwyr yn cefnogi’r cynigion.

O’r ymatebion hyn, cododd 136 faterion a oedd y tu hwnt i gwmpas yr ymgynghoriad. Rydym hefyd wedi darparu ymatebion i’r materion hyn.


Ymgynghoriad gwreiddiol

Crynodeb

Mae'r ymgynghoriad hwn yn ceisio barn ar gynigion polisi ar gyfer rheoli sylweddau ymbelydrol a datgomisiynu niwclear.

Roedd yr ymgynghoriad hwn yn rhedeg o
to

Disgrifiad o'r ymgynghoriad

Mae llywodraeth y DU a’r gweinyddiaethau datganoledig yn cynnig fframwaith polisi ar gyfer y DU gyfan sy’n dwyn ynghyd, mewn un pwynt cyfeirio, bolisïau ar reoli sylweddau ymbelydrol a datgomisiynu niwclear.

Rydym hefyd yn cynnig diwygio, diweddaru ac egluro rhai o’r polisïau hyn gyda’r nod o ysgogi gwelliannau mewn rhaglenni datgomisiynu niwclear a glanhau a rheoli deunyddiau ymbelydrol, a’r gwastraff a gynhyrchir ganddynt.

Mae’r cynigion yn canolbwyntio ar dri maes:

  • rheoli gwastraff ymbelydrol solet
  • diweddaru’r polisi ar gyfer datgomisiynu niwclear
  • rheoli deunyddiau niwclear a gweddillion tanwydd niwclear

Mae’r ymgynghoriad mewn dwy ran.

Yn Rhan I rydym yn ceisio barn ar y polisïau yr ydym yn cynnig eu newid.

Yn Rhan II rydym yn darparu drafft o’r fframwaith polisi arfaethedig ar gyfer y DU gyfan fel y byddai’n ymddangos pe bai’r newidiadau polisi a gynigir yn Rhan I yn cael eu gweithredu.

Fersiwn Saesneg

Managing radioactive substances and nuclear decommissioning

Read the BEIS consultation privacy notice (English version only).

Dogfennau

Gwneud cais am fformat hygyrch.
Os ydych chi'n defnyddio technoleg gynorthwyol (er enghraifft, rhaglen darllen sgrin) a bod angen fersiwn o'r ddogfen hon arnoch mewn fformat mwy hygyrch, e-bostiwch [email protected]. Rhowch wybod i ni pa fformat sydd ei angen arnoch. Bydd yn ein helpu ni os byddwch chi'n dweud pa dechnoleg gynorthwyol rydych chi'n ei defnyddio.

Gwneud cais am fformat hygyrch.
Os ydych chi'n defnyddio technoleg gynorthwyol (er enghraifft, rhaglen darllen sgrin) a bod angen fersiwn o'r ddogfen hon arnoch mewn fformat mwy hygyrch, e-bostiwch [email protected]. Rhowch wybod i ni pa fformat sydd ei angen arnoch. Bydd yn ein helpu ni os byddwch chi'n dweud pa dechnoleg gynorthwyol rydych chi'n ei defnyddio.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 1 Mawrth 2023
Diweddarwyd ddiwethaf ar 16 Mai 2024 show all updates
  1. Cyhoeddi ymateb y llywodraeth a fframwaith polisi.

  2. First published.

Argraffu'r dudalen hon