Stori newyddion

Deg sefydliad o Gymru yn cipio Gwobrau Aur yng Nghastell Hensol

Mae deg cyflogwr wedi derbyn Gwobr Aur y Cynllun Cydnabod Cyflogwyr (ERS) mewn seremoni arbennig mewn castell Cymreig.

Caption: Gold ERS Awards 2023. Copyright: RFCA for Wales.

Large group of ERS Gold Award winners smiling.

Cafodd y 10 cyflogwr o bob rhan o Gymru eu cydnabod am y gefnogaeth ragorol y maen nhw鈥檔 ei rhoi i Gymuned y Lluoedd Arfog yn y seremoni wobrwyo a gynhaliwyd yng Nghastell Hensol ar 23 Tachwedd.

Dechreuodd y noson wobrwyo fawreddog hon gyda derbyniad diodydd gyda gwesteion yn cael gwledd o gerddoriaeth gan delynores catrawd 3ydd Bataliwn y Cymry Brenhinol, Cerys Rees. Cafodd y gwesteion hefyd eu diddanu gan fand Tywysog Cymru yn ystod y noson.

Sian Lloyd oedd wrth y llyw, gyda鈥檙 anerchiad croeso gan Hannah Blythyn AS y Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol. Rhoddwyd yr anerchiad agoriadol gan y Brigadydd Nick Thomas CBE Cadlywydd Brig芒d 60ain (Cymru), Pennaeth y Fyddin yng Nghymru.

Rhoddwyd y prif anerchiad gan yr 脭l-lyngesydd Steven McCarthy, Cyfarwyddwr Integreiddio Gweithrediadau a Gallu Llongau yn yr Adran Offer a Chymorth Amddiffyn.

Yr enillwyr o Gymru oedd:

  • Allan Morris Transport Limited
  • Coleg y Cymoedd
  • Delyn Safety UK Limited
  • Myddelton College Ltd
  • Sierra Nevada Corporation Mission Systems UK, Ltd
  • Sofit Group Ltd
  • 皇冠体育apprapies4services C.I.C.
  • Trafnidiaeth Cymru
  • Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre
  • Worthington and Jones Limited

Cyflwynwyd y gwobrau ar y cyd gan yr 脭l-lyngesydd Steven McCarthy, y Brigadydd Nick Thomas CBE a Swyddog Awyr Cymru, y Comodor Awyr Adrian Williams OBE.

Meddai Mike Joy, Rheolwr Gyfarwyddwr Delyn Security:

Rydyn ni鈥檔 hynod falch fel sefydliad o fod wedi ennill Gwobr Aur ERS ac yn cydnabod y sgiliau, ymroddiad a safbwyntiau unigryw ac amhrisiadwy y mae cyn-filwyr, milwyr wrth gefn a鈥檜 teuluoedd yn eu cynnig i鈥檔 sefydliad. Mae鈥檙 gydnabyddiaeth hon yn dyst i鈥檔 hymrwymiad i gefnogi cymuned y lluoedd arfog.

Meddai Julie Rees, Cyfarwyddwr Pobl a Diwylliant Coleg y Cymoedd:

Rydyn ni wrth ein bodd bod ein cefnogaeth i鈥檙 lluoedd arfog wedi cael ei chydnabod gyda Gwobr Aur. Rydyn ni鈥檔 gobeithio gweld Rhwydwaith Lluoedd Arfog y coleg yn tyfu ac am gynyddu ein darpariaethau ar gyfer cyn-filwyr a milwyr wrth gefn y lluoedd arfog fel rhan o鈥檔 gwobr DERS yn y dyfodol.

Meddai Karl Gilmore, Cyfarwyddwr y Seilwaith Rheilffyrdd a Hyrwyddwr y Lluoedd Arfog yn Trafnidiaeth Cymru:

Yn Trafnidiaeth Cymru rydyn ni鈥檔 parhau i gefnogi Cymuned y Lluoedd Arfog ac yn falch ein bod wedi cyflawni statws Aur y Cynllun Cydnabod Cyflogwyr.聽Drwy lofnodi Cyfamod y Lluoedd Arfog, rydyn ni鈥檔 cydnabod, ac yn cefnogi鈥檙 rhai sydd wedi gwasanaethu yn y Lluoedd Arfog neu鈥檔 parhau i wneud hynny mewn r么l wrth gefn, eu teuluoedd neu鈥檙 rhai sy鈥檔 Wirfoddolwyr Oedolion y Lluoedd Cadetiaid, ac yn deall y dylid eu trin gyda thegwch a pharch yn y gymuned, mewn cymdeithas ac yn y gweithle.

Mae鈥檙 Cynllun Cydnabod Cyflogwyr, a ddyfernir gan y Weinyddiaeth Amddiffyn, yn cydnabod yn ffurfiol sefydliadau sy鈥檔 cyflogi ac yn cefnogi鈥檙 rhai sy鈥檔 gwasanaethu yn y Lluoedd Arfog, cyn-filwyr a鈥檜 teuluoedd. Ar draws y DU, derbyniodd 193 o sefydliadau y Wobr Aur eleni.

Er mwyn ennill y Wobr Aur, rhaid i sefydliadau ddarparu 10 diwrnod ychwanegol o absenoldeb 芒 th芒l ar gyfer milwyr wrth gefn a bod 芒 pholis茂au AD cefnogol ar waith ar gyfer cyn-filwyr, Milwyr Wrth Gefn, a Gwirfoddolwyr Oedolion y Lluoedd Cadetiaid, yn ogystal ag i briod a phartneriaid y rhai sy鈥檔 gwasanaethu yn y Lluoedd Arfog.

Rhaid i sefydliadau hefyd eirioli o blaid buddiannau cefnogi鈥檙 rhai o fewn cymuned y Lluoedd Arfog drwy annog eraill i lofnodi Cyfamod y Lluoedd Arfog a chymryd rhan yn y Cynllun Cydnabod Cyflogwyr.

Meddai Mr Tony Fish, Cyfarwyddwr Cyswllt Cyflogwyr Rhanbarthol y Weinyddiaeth Amddiffyn ar gyfer Gogledd Cymru:

Rydyn ni wrth ein bodd bod cymaint o gyflogwyr yng Nghymru wedi cael eu cydnabod gyda鈥檙 Wobr Aur hon.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 27 Tachwedd 2023