Stori newyddion

Arglwydd Raglaw Ei Fawrhydi Gwent yn cydnabod 14 o bobl

Mae ymdrechion 14 o bobl o bob rhan o Went, gan gynnwys naw cad茅t ifanc, wedi cael eu cydnabod gan gynrychiolydd y Brenin dros y sir.

Lord-Lieutenant of Gwent Awards. Copyright: Wales RFCA.

Mae ymdrechion 14 o bobl o bob rhan o Went, gan gynnwys naw cad茅t ifanc, wedi cael eu cydnabod gan gynrychiolydd y Brenin dros y sir.

I gydnabod eu gwasanaeth rhagorol a鈥檜 hymroddiad i ddyletswydd, dyfarnwyd Tystysgrif Teilyngdod yr Arglwydd Raglaw i bump o bobl gan y Brigadydd Robert Aitken CBE CStJ , yn y seremoni wobrwyo yn Chapman VC House, Cwmbr芒n, ddydd Iau 11 Ebrill.

Y rhain oedd y Prif Is-swyddog Robert Evans o HMS CAMBRIA; yr Uwch-Sarjant Catrodol Cadetiaid Staff Ehsan Iqbal o Lu Cadetiaid Byddin Gwent a Phowys; y Peilot-Swyddog Sarah Louise Beach a鈥檙 Swyddog Gwarant Joanna Holley, ill dwy o Adain Gymreig Rhif 1 Cadetiaid y Llu Awyr Brenhinol, a鈥檙 Uwchgapten Stephen John, Swyddog Ymestyn Cyrhaeddiad y Cadetiaid mewn Ysgolion ar gyfer Cymdeithas Cadetiaid a Lluoedd Wrth Gefn Cymru.

Cafodd llwyddiannau pump o gadetiaid yr Arglwydd Raglaw eu cydnabod a鈥檜 dathlu yn ystod y digwyddiad, lle鈥檙 oedd dros 90 o bobl yn bresennol.

Cyflwynwyd trosolwg o鈥檜 huchafbwyntiau yn y cadetiaid i鈥檙 gynulleidfa gan y pump yma, sef Uwch-Sarjant Catrodol y Cadetiaid Ciara Bannon ac Uwch Sarjant Cwmni鈥檙 Cadetiaid Deiniol Hughes, ill dau o Lu Cadetiaid Byddin Gwent a Phowys; Uwch-Sarjant Cwmni鈥檙 Cadetiaid Thomas Morgan o Lu Cadetiaid Cyfun Ysgol Trefynwy; y Sarjant Gad茅t Alexander Lee o Adain Gymreig Rhif 1 Cadetiaid y Llu Awyr Brenhinol; a鈥檙 Sarjant Gad茅t Sophy Cadman o Adain Gymreig Rhif 1 Cadetiaid y Llu Awyr Brenhinol.

Mae鈥檙 r么l, sy鈥檔 para am flwyddyn, yn cynnwys mynd i ddigwyddiadau swyddogol gyda鈥檙 Brigadydd. Mae鈥檙 Brigadydd yn gweithredu fel cynrychiolydd y Brenin mewn dyletswyddau swyddogol fel digwyddiadau Cofio, gorymdeithiau ac ymweliadau Brenhinol.

Dewiswyd y pump ar gyfer r么l anrhydeddus cadetiaid yr Arglwydd Raglaw ar 么l cael eu henwebu gan arweinwyr grwpiau cadetiaid a Chymdeithas y Lluoedd Wrth Gefn a鈥檙 Cadetiaid yng Nghymru.

Maen nhw鈥檔 dilyn 么l troed yr Abl Gad茅t Alex Jones o Gorfflu Cadetiaid M么r Casnewydd; yr Uwch-Sarjant Catrodol Cadetiaid Staff Ehsan Iqbal o Lu Cadetiaid Byddin Gwent a Phowys;

yr Uwch-Sarjant Cadetiaid Olivia Armstrong o Lu Cadetiaid Cyfun Ysgol Trefynwy; a鈥檙 Swyddog Gwarant Cadetiaid Deighton Davies o Adain Gymreig Rhif 1 Cadetiaid y Llu Awyr Brenhinol, a gafodd Dystysgrif a Bathodyn yr Arglwydd Raglaw am fod yn gynrychiolwyr ar gyfer 2022/2023.

Hefyd yn ystod y noson, rhoddwyd gwobr am hir wasanaeth i aelod o鈥檙 Corfflu Cadetiaid M么r. Cyflwynwyd Medal Lluoedd y Cadetiaid i鈥檙 Is-gapten (SCC) Benjamin Yuille RMR o Gadetiaid M么r a Chadetiaid M么r-filwyr Brenhinol Torfaen am ei 12 mlynedd o wasanaeth.
Mae bron i 5,000 o gadetiaid yng Nghymru yn ennill sgiliau a chymwysterau drwy weithio gydag elusennau a chymunedau lleol, yn ogystal 芒 chymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau ymarferol.

Mae maes llafur y cadetiaid yn cael ei gyflwyno gan 1,850 o hyfforddwyr gwirfoddol a chynorthwywyr sifilaidd, sy鈥檔 rhoi o鈥檜 hamser rhydd gyda鈥檙 nos yn ystod yr wythnos ac ar benwythnosau.

Cafodd y digwyddiad gwobrwyo ei drefnu gan Gymdeithas Cadetiaid a Lluoedd Wrth Gefn Cymru (RFCA) 鈥� sefydliad sydd wedi cefnogi鈥檙 Lluoedd Arfog ers dros 100 mlynedd.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 12 Ebrill 2024