Datganiad i'r wasg

Cywion ieir a ffliw dynion ar frig esgusodion efadu treth

Mae DVLA wedi rhyddhau rhai o’r esgusodion mwyaf dyfeisgar mae pobl wedi defnyddio’r flwyddyn hon am beidio â threthu eu cerbydau.

Three chickens

“Ni allaf drethu’r fan oherwydd ei fod yn llawn cywion ieir…� oedd un o’r esgusodion a ddefnyddiodd pobl eleni am beidio â threthu eu ceir, yn ôl gwybodaeth a gyhoeddwyd heddiw gan DVLA.

Mae rhai o’r esgusodion mwyaf dyfeisgar wedi’u rhestri isod (sbwyliwr, nid oedd un ohonynt wedi gweithio):

  • Rwyf ar fin dechrau dedfryd yn y carchar, felly a oes unrhyw ffordd y gallwch gadw’r fan hufen iâ am chwe mis nes i mi ddod allan?
  • Bydden i wedi trethu’r fan ond roedd fy nghyn bartner chwerw wedi rhoi pedwar cyw iâr byw ynddo
  • Rwy’n gwybod ei fod heb ei drethu, ond nid oeddwn yn credu y byddech yn ei glampio tra bod ton wres
  • Roeddwn wedi anghofio ei drethu oherwydd fy mod yn gofalu am y plant (19 a 26 oed)
  • Nid oeddwn yn gallu trethu fy nghar oherwydd fy mod i wedi cael ffliw dynion ac wedi bod yn y gwely am 4 wythnos
  • Bydden i wedi trethu fy nghar, ond roeddech chi wedi ei glampio mor gynnar yn y bore (clampiwyd y car amser cinio)

Dywedodd Julie Lennard, Prif Weithredwr DVLA:

Er ein bod ni’n gwybod bod y mwyafrif helaeth o fodurwyr yn trethu eu ceir ar amser, mae dal rhai sy’n dewis peidio.

Mae trethu eich car yn hawdd iawn i’w wneud ar-lein, felly nid oes esgus � hyd yn oed os ydyw wedi ei lenwi gyda chywion ieir.

Mae DVLA yn parhau i anfon llythyron atgoffa i fodurwyr pan mae eu treth car yn ddyledus. Fodd bynnag, gallant hefyd wirio pryd mae eu treth car yn ddyledus 24 awr y diwrnod, 7 diwrnod yr wythnos drwy fynd i’r Gwasanaeth Ymholiadau Cerbyd ar GOV.UK.

Mae’n hawdd gwirio pryd mae treth cerbyd yn ddyledus ar . Gall modurwyr hefyd ofyn i’w Google Home, ffôn symudol Android neu lechen Android i “Siarad â DVLA� neu “Gofyn DVLA.�

Gall modurwyr hefyd drethu eu ceir ar-lein neu drwy ffonio 0300 123 4321 ar y gwasanaeth 24 awr awtomataidd.

Swyddfa'r Wasg

Swyddfa'r Wasg y DVLA
Longview Road
Treforys
Abertawe
SA6 7JL

Email [email protected]

Dim ond ar gyfer newyddiadurwyr a'r wasg yn unig 0300 123 2407

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 3 Mawrth 2020