DVLA yn ychwanegu 2 wasanaeth arall i'w gwasanaeth Cyfrif gyrwyr a cherbydau
Gall modurwyr nawr adnewyddu eu trwydded yrru cerdyn-llun a gwneud cais am drwydded dros dro gyntaf drwy eu cyfrif.

Heddiw (9 Ebrill 2024) mae DVLA wedi cyhoeddi y gall modurwyr adnewyddu’r ffotograff ar eu trwydded yrru a gwneud cais am drwydded dros dro gyntaf drwy ei gwasanaeth Cyfrif gyrwyr a cherbydau.
Dyma 2 o drafodion trwydded yrru DVLA a ddefnyddir fwyaf a nhw yw’r diweddaraf mewn sawl ychwanegiad at wasanaeth Cyfrif gyrwyr a cherbydau. Mae dros 890,000 o bobl wedi cofrestru ar gyfer cyfrif ers iddo gael ei lansio llai na blwyddyn yn ôl. Â
Ynghyd â’r nodweddion presennol, megis dewis derbyn nodiadau atgoffa treth cerbyd drwy neges destun neu e-bost yn hytrach na dibynnu ar nodiadau atgoffa papur a anfonwyd drwy’r post, gall deiliaid cyfrifon nawr gwblhau adnewyddiad 10 mlynedd o’u trwydded yrru cerdyn-llun drwy’r Cyfrif gyrwyr a cherbydau.
Bydd modurwyr yn gallu olrhain eu cais, gweld manylion eu trwydded yrru newydd unwaith y caiff ei chyhoeddi a dewis a ddylid lanlwytho eu ffotograff eu hunain, neu ganiatáu i DVLA gyrchu a defnyddio eu ffotograff pasbort presennol yn ddigidol drwy ei dolen ddiogel â Swyddfa Basbort EF. Mae’r gwasanaeth hwn yn rhan o gynllun trawsnewid digidol uchelgeisiol DVLA, sy’n rhoi cwsmeriaid wrth wraidd ei wasanaethau, gyda’r nod o adeiladu gwasanaethau digidol cystal fel bod pobl yn dewis eu defnyddio dros sianeli eraill.
Gall gyrwyr dros dro cyntaf sydd â chyfrif hefyd weld eu trwydded yrru dros dro ac ychwanegu cerbyd sydd wedi’i gofrestru yn eu henw.
Daw’r gwasanaethau ychwanegol hyn ar ôl iddo gael ei gyhoeddi fis Hydref diwethaf y gallai gyrwyr masnachol weld eu Tystysgrif Cymhwysedd Proffesiynol i Yrwyr (CPC) a gwybodaeth tacograff drwy’r gwasanaeth Cyfrif gyrwyr a cherbydau.
Dywedodd Guy Opperman, Gweinidog y Ffyrdd a Thrafnidiaeth Leol:
Dylai adnewyddu eich trwydded yrru fod yn broses hawdd, hygyrch a syml fel y gall modurwyr barhau i yrru’n ddiogel.
Dyna pam ei bod yn wych gweld DVLA yn cynnig cyfle i fodurwyr adnewyddu eu trwydded yrru a gwneud cais am drwydded dros dro gyntaf i gyd mewn un lle, wrth i DVLA barhau i esblygu i fod yn sefydliad sy’n fwyfwy deinamig, digidol a chwsmeriaid-ganolog.
Dywedodd Julie Lennard, Prif Weithredwr DVLA:
Rydym yn falch o ddweud bod 2 o’n gwasanaethau mwyaf poblogaidd bellach ar gael drwy ein Cyfrif gyrwyr a cherbydau, gan ddarparu hyd yn oed mwy o gyfleustra i’n cwsmeriaid.
Rydym am wneud trafod gyda ni mor syml ac effeithlon â phosibl, a dyna pam y byddwn yn parhau i ychwanegu mwy o nodweddion a gwasanaethau i’r cyfrif fel y gall ein cwsmeriaid gael yr hyn sydd ei angen arnynt gan DVLA yn gyflymach ac yn haws nag erioed o’r blaen.
Gall modurwyr sydd â phasbort y DU a phasbort o’r tu allan i’r DU (gyda statws mewnfudo ar-lein dilys) sefydlu cyfrif heddiw a rhoi eu hadborth ar y gwasanaeth newydd.
Swyddfa'r wasg
Swyddfa'r Wasg y DVLA
Longview Road
Treforys
Abertawe
SA6 7JL
Email [email protected]
Dim ond ar gyfer newyddiadurwyr a'r wasg yn unig: 0300 123 2407