Datganiad i'r wasg

Wyth busnes yng Nghymru yn cael eu dathlu yng Ngwobrau'r Brenin am Fenter

Cyhoeddwyd busnesau Cymru yn nhrydedd flwyddyn Gwobrau'r Brenin am Fenter - gwobrau busnes mwyaf mawreddog y DU.

»Ê¹ÚÌåÓýapp King's Award for Enterprise. Recipients from Wales.

  • Cydnabu busnesau o Ben-y-bont ar Ogwr a Wrecsam, gyda phob un yn chwarae rhan allweddol yng nghenhadaeth Llywodraeth y DU ar gyfer twf economaidd.
  • Cafwyd enillwyr ar draws tri chategori gwahanol: Arloesedd, Masnach Ryngwladol a Datblygu Cynaliadwy.

Mae’r busnesau sydd wedi derbyn Gwobr y Brenin am Fenter wedi cael eu cyhoeddi heddiw [6 Mai], sy’n dathlu llwyddiannau busnesau blaenllaw o bob cwr o’r DU ac Ynysoedd y Sianel.

Mae Ei Fawrhydi y Brenin wedi cydnabod wyth o fusnesau o Gymru ar draws amrywiaeth o sectorau gwahanol fel rhai sydd ymhlith y gorau yn y wlad, gan dynnu sylw at uchelgais, dyfeisgarwch a llwyddiant ein cymuned fusnes amrywiol. 

Mae’r busnesau a ddyfernir yn cwmpasu amrywiaeth o sectorau, gan gynnwys laserau diwydiannol, offer meddygol, a phobi, ac maent wedi’u lleoli ledled y wlad; Wrecsam, Pen-y-bont ar Ogwr a’r Trallwng. 

Cafodd un cwmni wobr am eu harferion arloesol, pump am eu llwyddiannau ym maes masnach ryngwladol ac un am eu datblygiad cynaliadwy.

Drwy gefnogi mwy o bobl i gael gwaith, datblygu arloesedd newydd, ac allforio’r gorau sydd gan Brydain i’w gynnig ledled y byd, mae busnesau fel hyn yn chwarae rhan allweddol yng nghenhadaeth Llywodraeth y DU i fynd ymhellach i sicrhau twf economaidd yn gyflymach, a rhoi mwy o arian ym mhocedi pobl sy’n gweithio fel rhan o’r Cynllun ar gyfer Newid.

Dywedodd Gareth Thomas, y Gweinidog dros Wasanaethau, Busnesau Bach ac Allforion:

Mae rhai o fusnesau gwych Cymru yn cael eu cydnabod yng Ngwobrau’r Brenin am Fenter eleni; gan gynnwys Spectrum Technologies â’u hoffer laser arloesol, a Bluestone Resort am eu hymrwymiad i gyfrifoldeb amgylcheddol. 

Rwy’n dymuno pob llwyddiant i’r busnesau hyn wrth iddynt barhau i ddatblygu, i arloesi ac i ffynnu, ac rwy’n cymeradwyo’r cyfraniadau amhrisiadwy y maent eisoes wedi’u gwneud i gymunedau gartref yng Nghymru a thramor, gan helpu i roi hwb i economi’r DU.

Dywedodd Jo Stevens, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:

Llongyfarchiadau i bob un o’r wyth busnes o Gymru sydd wedi ennill gwobrau. O fara i ddyfeisiau meddygol a chyrchfannau gwyliau cynaliadwy, mae eu gwaith yn dangos y gorau o fusnesau ar hyd a lled Cymru, sy’n cynhyrchu ac yn allforio cynnyrch a gwasanaethau o ansawdd uchel.

Drwy weithio gyda mentrau talentog yng Nghymru i greu twf economaidd a swyddi lleol sy’n talu’n dda, mae Llywodraeth y DU yn cyflawni ei Chynllun ar gyfer Newid.

Ymhlith y busnesau sydd wedi derbyn gwobr eleni mae Spectrum Technologies, arweinydd byd-eang ym maes cyflenwi offer prosesu gwifrau laser diwydiannol ar gyfer y diwydiant awyrofod. Mae’r busnes wedi’i leoli ym Mhen-y-bont ar Ogwr, ac mae wedi cael ei gydnabod yn y categori Masnach Ryngwladol.

Dywedodd Dr Peter Dickinson, Cadeirydd a Phrif Swyddog Technoleg Spectrum Technologies:  

Mae Spectrum wedi cyffroi’n lân ac yn falch iawn o fod wedi ennill Gwobr y Brenin am Fenter. Wynebodd y cwmni heriau enfawr yn sgil COVID, ond mae ein tîm o weithwyr wedi dod at ei gilydd i helpu i wneud y gorau o sefyllfa anodd, gan ddyblu ein gwerthiant dros y blynyddoedd diwethaf.

Mae Gwobr y Brenin yn dathlu eu hymdrechion ac yn adlewyrchu safle blaenllaw’r cwmni yn y farchnad ryngwladol o ran cyflenwi offer arbenigol ar gyfer prosesu gwifrau laser i’r diwydiant awyrofod.

Mae Bluestone Resort, sef parc gwyliau mwyaf cynaliadwy’r DU, wedi’i leoli yng nghanol cefn gwlad Sir Benfro. Mae’r parc wedi cael ei ddylunio i ailgysylltu teuluoedd â byd natur mewn ffordd gyfrifol, ac felly maen nhw wedi cael gwobr yn y categori Datblygu Cynaliadwy.

Dywedodd William McNamara OBE, Prif Swyddog Gweithredol a Sylfaenydd Bluestone: 

Mae ennill Gwobr y Brenin am Fenter ym maes Datblygu Cynaliadwy yn garreg filltir hynod gyffrous a gwerth chweil i bawb yng nghyrchfan gwyliau Bluestone ym Mharc Cenedlaethol Arfordir Penfro.  

Mae ein hethos yn canolbwyntio ar dair conglfaen datblygu cynaliadwy: diogelu ecosystemau naturiol, tyfu’r economi leol, a chefnogi cymunedau lleol. Dyma yw ein glasbrint ar gyfer gweithredu erbyn hyn. Mae Gwobr y Brenin am Fenter ym maes Datblygu Cynaliadwy yn rhoi llawer o resymau i ni ddathlu, gan gydnabod pwysigrwydd ein gwaith wrth i ni barhau i amddiffyn ein planed ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.

Roedd Gwobrau’r Brenin am Fenter yn arfer cael eu galw’n Wobrau’r Frenhines am Fenter, ac fe’u hailenwyd ddwy flynedd yn ôl i adlewyrchu dymuniad Ei Fawrhydi y Brenin i barhau ag etifeddiaeth EM y Frenhines Elizabeth II drwy gydnabod busnesau rhagorol yn y DU. Mae’r rhaglen wobrwyo, sy’n cael ei chynnal ers 59 o flynyddoedd, wedi dyfarnu dros 8,000 o gwmnïau ers ei sefydlu yn 1965.

Bydd Arglwyddi Rhaglaw Ei Fawrhydi � cynrychiolwyr y Brenin ym mhob sir � yn cyflwyno’r Gwobrau i fusnesau yn lleol drwy gydol y flwyddyn. Bydd un cynrychiolydd o bob busnes buddugol hefyd yn cael ei wahodd i dderbyniad brenhinol arbennig.

Mae busnesau cymwys yn rhydd i wneud cais am un neu fwy o gategorïau. Mae’r rhai sy’n derbyn gwobr yn gorfod wynebu proses asesu gadarn, wedi’i beirniadu gan arbenigwyr o’r diwydiant, y byd academaidd, y sector gwirfoddol, cynrychiolydd o Lywodraeth Cymru ac uwch swyddogion yn Whitehall. Ar sail hynny, y Prif Weinidog sy’n gyfrifol am argymell y busnesau bob blwyddyn.

Dywedodd Richard Harris, Pennaeth Masnach Llywodraeth Cymru a beirniad ar y panel eleni: 

Mae’n fraint cynrychioli Cymru fel beirniad ar gyfer Gwobrau’r Brenin, ac mae cael darllen a gwerthuso’r ceisiadau, sy’n gwella o ran ansawdd o un flwyddyn i’r llall, yn llwyddo i greu argraff bob tro. 

Mae Gwobr y Brenin yn cael ei thrin fel y safon aur, mae’n golygu rhywbeth. I mi, mae’r wobr yn feincnod ar gyfer ansawdd a all agor drysau a dechrau sgyrsiau ledled y byd, gan alluogi cwmnïau i sicrhau busnes a chael mynediad at gyfleoedd na fyddent fel arfer ar gael.

DIWEDD

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 6 Mai 2025