Stori newyddion

Pymtheg person ifanc yn cael eu cydnabod gan Arglwydd Raglaw Ei Fawrhydi yng Ngwent

Mae ymdrechion 15 o bobl o bob rhan o Went, gan gynnwys un ar ddeg cad茅t ifanc, wedi cael eu cydnabod gan gynrychiolydd y Brenin dros y sir.

Group of military people smiling

Lord-Lieutenant of Gwent Awards

Penododd y Brigadydd Robert Aitken CBE bum person ifanc fel cadetiaid yr Arglwydd Raglaw ar gyfer Gwent eleni mewn seremoni wobrwyo ym Marics Rhaglan, Casnewydd, ddydd Iau 9 Chwefror.

Cafodd y Cad茅t Staff, Uwch-Ringyll Catrodol Eshan Iqbal o Lu Cadetiaid y Fyddin Gwent a Phowys; Uwch-Ringyll y Cadetiaid Olivia Armstrong o Lu Cadetiaid Cyfun Ysgol Trefynwy; Y Corporal Gad茅t Macsen Purser o Lu Cadetiaid Cyfun Ysgol Uwchradd Llanwern; y Cad茅t Abl Alex Jones o Gorfflu Cadetiaid M么r Casnewydd a鈥檙 Swyddog Gwarant Cadetiaid Deighton Davies o Gadetiaid Awyr RAF Rhif 1 y Welsh Wing eu penodi i r么l cadetiaid yr Arglwydd Raglaw.

Mae Eshan, 18 oed, o Gasnewydd, sy鈥檔 mynychu Ysgol St Julian, yn gobeithio dilyn gyrfa yn y fyddin. Y tu allan i鈥檙 cadetiaid, mae鈥檔 gwneud gwaith gwirfoddol yn y gymuned gydag elusennau lleol a grwpiau eglwysi.

Mae Olivia, sy鈥檔 mynychu Ysgol Ferched yr Haberdashers Trefynwy, hefyd yn gobeithio dilyn gyrfa yn y fyddin. Mae hi鈥檔 bencampwraig lwyddiannus ar 么l cynrychioli Cymru yn lacrosse.

Mae Macsen, sy鈥檔 mynychu Ysgol Uwchradd Llanwern, yn farciwr eithriadol ac fe鈥檌 disgrifir fel model r么l eithriadol i gadetiaid iau yn ei lu.

Mae Alex, sy鈥檔 mynychu Ysgol St Julian, yn gerddor brwd a chafodd ei ddewis i fod yn aelod o Fand Mawr Cadetiaid y M么r, a oedd yn arwain Gorymdaith Trafalgar yn Llundain. Mae hefyd wedi chwarae ochr yn ochr 芒 cherddorion Band y M么r-filwyr Brenhinol.

Mae Deighton, o鈥檙 Coed Duon, yn anelu at fod yn beilot cwmni awyrennau masnachol ac mae鈥檔 siarad Cymraeg yn rhugl. Mae wedi creu adnoddau dwyieithog yn sgwadron i gefnogi鈥檙 niferoedd cynyddol o gadetiaid sy鈥檔 siarad Cymraeg.

Mae鈥檙 r么l sy鈥檔 para am flwyddyn yn cynnwys mynd i ddigwyddiadau swyddogol gyda鈥檙 Brigadydd. Mae鈥檙 Brigadydd yn gweithredu fel cynrychiolydd y Brenin mewn dyletswyddau swyddogol fel digwyddiadau Cofio, gorymdeithiau ac ymweliadau Brenhinol.

Byddan nhw鈥檔 dilyn 么l-traed y canlynol: sef y Cad茅t Abl Kaitlyn Summerhayes o Gorfflu Cadetiaid M么r Casnewydd; Cad茅t Staff Uwch-Ringyll Cwmni, Jake Thomas o Lu Cadetiaid y Fyddin Gwent a Phowys; Rhingyll Cad茅t Hamish Nicoll o Lu Cadetiaid Gwent a Phowys; y Swyddog Gwarant Cadetiaid Iestyn Jones o Gadetiaid Awyr RAF Rhif 1 y Welsh Wing, Rhingyll Cad茅t Hedfan William Cocking o Gadetiaid Awyr RAF Rhif 1 y Welsh Wing a Rhingyll Cad茅t Hayley Gabica o Lu Cadetiaid Cyfun Ysgol Uwchradd Llanwern. Cafodd y rhain Dystysgrif a Bathodyn Arglwydd Raglaw am eu gwaith fel cynrychiolwyr 2022.

Cafodd pedwar unigolyn eu cydnabod am eu gwasanaeth rhagorol a鈥檜 hymroddiad i ddyletswydd, a dyfarnwyd Tystysgrif Teilyngdod yr Arglwydd Raglaw iddyn nhw.

Roedd y rhain yn cynnwys Rothery Harris, Hyfforddwr Sifilaidd, o Gadetiaid Awyr RAF Rhif 1 y Welsh Wing; Jeffrey Harris, yr Hyfforddwr Uwch-Ringyll Catrodol, o Lu Cadetiaid Gwent a Phowys; y Rhingyll Gareth Evans o Gadetiaid Awyr RAF Rhif 2 y Welsh Wing a Mr Colin Edwards o Gorfflu Hyfforddiant Swyddogion Prifysgolion Cymru.

Daeth Rothery, o Wndy, yn Hyfforddwr Sifilaidd yn Sgwadron 2012 (Caldicot), ar 么l cwblhau gyrfa nodedig o wasanaeth mewn lifrai, lle mae wedi dangos arweinyddiaeth ac ymroddiad gwych yn absenoldeb cadlywydd mewn iwnifform.

Mae Jeffrey, o Gasnewydd, cyn gad茅t a swyddog heddlu wedi ymddeol, yn arddangos y safonau a鈥檙 gwerthoedd uchaf ac mae ganddo hunanddisgyblaeth a pharch rhagorol tuag at bawb.

Mae Gareth, cyn Arglwydd Raglaw dros Bowys, yn teithio o鈥檌 gartref yng Nghasnewydd i sgwadron 579 (Llandrindod) hyd at ddwywaith yr wythnos i sicrhau bod pobl ifanc yn cael yr un cyfle ag a gafodd yntau fel person ifanc.

Ymunodd Colin, o Gaerffili, fel milwr wrth gefn ar 么l bod yn filwr am 22 mlynedd. Fel yr un sy鈥檔 gofalu am yr uned yng Nghorfflu Hyfforddiant Swyddogion Prifysgolion Cymru, mae wedi bod yn un o鈥檙 hoelion wyth ers blynyddoedd lawer gan sicrhau bod gan y cadetiaid swyddogion yr adnoddau cywir ar amser ar gyfer unrhyw weithgaredd.

Mae bron i 5,000 o Gadetiaid yng Nghymru sy鈥檔 ennill sgiliau a chymwysterau trwy weithio gyda chymunedau lleol ac elusennau a chymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau ymarferol. Mae maes llafur y cadetiaid yn cael ei gyflwyno gan 1,500 o hyfforddwyr gwirfoddol a chynorthwywyr sifil, sy鈥檔 rhoi o鈥檜 hamser rhydd gyda鈥檙 nos yn ystod yr wythnos ac ar benwythnosau. Roedd tua 100 o bobl yn bresennol yn y seremoni wobrwyo a gafodd ei threfnu gan Gymdeithas Cadetiaid a Lluoedd Wrth Gefn Cymru (RFCA) 鈥� sefydliad sydd wedi cefnogi鈥檙 Lluoedd Arfog am dros 100 mlynedd.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 15 Chwefror 2023