Datganiad i'r wasg

O San Steffan i Sir Benfro: Ysgrifennydd Gwladol Cymru i ateb Cwestiynau Cymreig o Gymru am y tro cyntaf mewn hanes

Simon Hart AS fydd y weinidog gyntaf i fynd i'r blwch dogfennau rhithiol o'r cartref

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2019 to 2022 Johnson Conservative government

Bydd Ysgrifennydd Gwladol Cymru Simon Hart yn derbyn cwestiynau gan Aelodau Seneddol o鈥檌 gartref yn Sir Benfro yn hwyrach heddiw (22 Ebrill), am y tro cyntaf yn hanes Senedd y DU y bydd trafodaethau鈥檔 cael eu cynnal o bell.

Cwestiynau Cymreig fydd yr eitem fusnes ffurfiol cyntaf i gael ei chynnal ar ffurf rithiol ddydd Mercher. O dan y fformat newydd, bydd nifer cyfyngedig o Aelodau Seneddol yn bresennol yn y Siambr ac yn dilyn mesurau ymbellhau cymdeithasol llym, gydag aelodau eraill yn gallu cymryd rhan o bell.

Mae heddiw yn nodi鈥檙 tro cyntaf yn hanes 700 mlynedd T欧鈥檙 Cyffredin y bydd Aelodau Seneddol yn cael y cyfle i holi gweinidogion yn rhithiol a鈥檙 tro cyntaf yn hanes 55 mlynedd Swyddfa Ysgrifennydd Gwladol Cymru bydd Cwestiynau Cymreig yn cael eu cynnal yn rhannol ar dir Cymru gyda Mr Hart yn cymryd rhan o鈥檌 etholaeth yng Ngorllewin Caerfyrddin a De Penfro. Bydd y Gweinidog Llywodraeth y DU yng Nghymru David Davies hefyd yn cymryd rhan o鈥檌 etholaeth ym Mynwy.

Yn 么l Ysgrifennydd Gwladol Cymru Simon Hart:

Mae Llywodraeth y DU wedi gofyn i bobl weithio o gartref lle fod hynny鈥檔 bosib yn ystod y pandemig coronafeirws ac mae鈥檔 iawn fod gwaith Llywodraeth y DU yn cael ei wneud yn wahanol yn ystod y cyfnod digyffelyb yma.

Mae hyn yn golygu parhau i barchu mesurau o ymbellhau cymdeithasol a defnyddio ffurfiau eraill, yn cynnwys fideo-gynadledda i gyfathrebu 芒 chydweithwyr.

Bydd y newidiadau hyn yn sicrhau y gall Senedd y DU barhau i weithredu tra鈥檔 arafu lledaeniad y feirws, gan ddiogelu鈥檙 GIG ac achub bywydau.

DIWEDD

Nodiadau i Olygyddion:

  • Mae mwy o wybodaeth ar sut bydd Senedd y DU yn gweithredu yn ystod argyfwng y coronafeirws ar gael ar
  • Bydd trafodion Senedd y DU ar ddydd Mercher yn cael eu darlledu ar a BBC Parliament.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 22 Ebrill 2020