Y Llywodraeth yn cyhoeddi ail ymateb i'r ymgynghoriad trawsnewid
Bydd newidiadau’n dod â mwy o gysondeb a symlrwydd i gwsmeriaid nodau masnach a dyluniadau.

Mae trawsnewidiad digidol yr IPO wedi cyrraedd carreg filltir allweddol arall ag ymateb y llywodraeth i’w hail ymgynghoriad trawsnewid yn cael ei gyhoeddi heddiw. Cynhaliwyd yr ymgynghoriad hwn rhwng Awst a Hydref 2023.
O’r cychwyn cyntaf, mae rhaglen drawsnewid yr IPO wedi addo nid yn unig i gyflawni gwelliannau technegol, ond ailddychmygu ei fusnes yn sylfaenol. Cynigiodd yr ymgynghoriad newidiadau i’r gyfraith a pholisi’r IPO i helpu i yrru gwasanaethau’r IPO i’r oes ddigidol a rhoi offer pwerus wrth law i arloeswyr a chrewyr.
Canolbwyntiodd yr ymgynghoriad yn bennaf ar newidiadau i wasanaethau nodau masnach, dyluniadau a tribiwnlys yr IPO. Bydd y newidiadau’n dod â mwy o gysondeb ar draws hawliau IP ac yn ei gwneud hi’n symlach i gwsmeriaid ryngweithio â’r IPO.
Ѳ’r IPO eisoes yn paratoi ar gyfer lansio ei wasanaeth patentau digidol newydd yn hydref 2025, gyda nifer fach o gwsmeriaid eisoes yn defnyddio’r gwasanaeth yn weithredol fel rhan o’i gynllun peilot.
Disgwylir i ddatblygu’r gwasanaethau nodau masnach, dyluniadau a thribiwnlys newydd ddechrau yn yr hydref, ychydig yn hwyrach na’r disgwyl.
Main outcomes of the consultation
-
Cyhoeddi dogfennau nodau masnach a dyluniadau ar-lein am y tro cyntaf, ochr yn ochr â newidiadau i’r rheolau sy’n llywodraethu ceisiadau cyfrinachedd ac archwilio dogfennau dyluniadau.
-
Symleiddio ceisiadau am nodau masnach drwy roi’r gorau i’r gwasanaeth nodau masnach cyfres ar gyfer ymgeiswyr newydd yn y dyfodol.
-
Cynnal cyfarfodydd cyfryngu ar gyfer anghydfodau yn Nribiwnlys yr IPO, mewn achosion lle nad oes gan y naill barti na’r llall gynrychiolaeth gyfreithiol.
-
Ymestyn cyfnodau talu ffioedd ar gyfer Tystysgrifau Diogelu Atodol (SPCs) i gynyddu cysondeb ar draws hawliau IP.
-
Lleihau manylion cyfeiriad dyfeisiwr patent a gesglir ac a gyhoeddir.
Trefnu bod dogfennau nodau masnach a dyluniadau ar gael ar-lein
Bydd yr IPO yn disodli ei wasanaethau chwilio am nodau masnach a dyluniadau presennol. Yn y dyfodol, bydd y cyhoedd yn gallu chwilio am batentau, nodau masnach a dyluniadau mewn un lle, drwy’r offeryn Un Chwiliad IPOԱɲ. Pan fydd hyn yn digwydd, bydd dogfennau nodau masnach a dyluniadau ar gael ar-lein i’w harchwilio gan y cyhoedd am y tro cyntaf, fel sydd eisoes yn wir am batentau. Gallai hyn gynnwys adroddiadau archwiladau, er enghraifft.
Yn ogystal, bydd y llywodraeth yn ceisio newid y rheolau ar geisiadau cyfrinachedd ac archwilio dogfennau dyluniadau. Bydd hyn yn caniatáu i unrhyw un ofyn, ar unrhyw adeg, bod eu gwybodaeth yn cael ei chadw’n gyfrinachol, ac mae hefyd yn golygu y gellir gwneud dogfennau dyluniadau ar gael i’r cyhoedd heb oedi.
Bydd y newidiadau hyn yn gwneud dogfennau nodau masnach a dyluniadau yn gyflymach ac yn haws i’w cyrchu, gan ganiatáu i gwsmeriaid ofyn am gadw eu gwybodaeth yn gyfrinachol yn ôl yr angen.
Symleiddio ceisiadau am nodau masnach drwy roi’r gorau i’r gwasanaeth nodau masnach cyfres
Ar hyn o bryd mae’r IPO yn cynnig yr opsiwn i gwsmeriaid wneud cais am hyd at chwe nod masnach fel cyfres am gost is. Rhaid i’r nodau masnach yn y gyfres fod yn debyg iawn - er enghraifft yr un logo mewn gwahanol liwiau.
Mae llawer o gwsmeriaid yn cael nodau masnach cyfres yn ddryslyd ac mae 65% o geisiadau am nodau masnach cyfres yn cael eu cyflwyno gan ymgeiswyr nad oes ganddynt gynrychiolydd. Yn 2022, gwrthwynebwyd 39% o’r rhain am beidio â bodloni’r gofynion ar gyfer cofrestru cyfres o nodau masnach. Gallai hyn arwain at gwsmeriaid yn talu am geisiadau nod masnach ychwanegol yn ddiangen. Mae nodau masnach cyfres hefyd yn cynnig amddiffyniad cyfreithiol ychwanegol cyfyngedig ac felly nid ydynt yn cynrychioli gwerth am arian i’r cwsmer.
O ganlyniad, mae’r llywodraeth yn rhoi’r gorau i’r gwasanaeth nodau masnach cyfres, er mwyn symleiddio’r broses ymgeisio am nodau masnach a chynnig gwell gwerth am arian. Bydd y newid hwn yn dod i rym pan fydd ein gwasanaeth nodau masnach digidol newydd yn cael ei lansio.
Bydd nodau masnach cyfres presennol yn parhau’n ddilys ac ni fydd y newid hwn yn effeithio arnynt. Dim ond pan fydd y gwasanaeth nodau masnach digidol newydd yn cael ei lansio y bydd y gwasanaeth nodau masnach cyfres yn cael ei ddiddymu ar gyfer ceisiadau newydd.
Treialu cyfarfodydd cyfryngu ar gyfer anghydfodau IP
Ѳ’r llywodraeth yn treialu cyfarfodydd cyfryngu newydd ar gyfer rhai anghydfodau yn Nhribiwnlys yr IPO � gan ddechrau yn haf 2025. Bydd yn rhoi cyfle i bartïon nad oes ganddynt gynrychiolaeth gyfreithiol archwilio manteision cyfryngu, a allai ddatrys eu hanghydfod yn gyflymach ac yn rhatach na gweithdrefnau cyfreithiol ffurfiol.
Alinio cyfnodau talu
Bydd y llywodraeth yn alinio cyfnodau talu ymhellach ar draws ei gwasanaethau hawliau IP i’w symleiddio i gwsmeriaid. Yn benodol, bydd y llywodraeth yn ymestyn y cyfnodau talu ffioedd ar gyfer tystysgrifau amddiffyn atodol, er mwyn sicrhau mwy o gysondeb â chyfnodau talu eraill. Disgwylir i’r newid hwn ddod i rym pan fydd ein gwasanaethau nodau masnach, dyluniadau a Thribiwnlys IPO digidol newydd yn cael eu lansio.
Lleihau manylion cyfeiriad dyfeisiwr patent a gesglir ac a gyhoeddir
Bydd y llywodraeth yn lleihau manylion cyfeiriad dyfeisiwr patent a gesglir ac a gyhoeddir. Mae hyn er mwyn mabwysiadu dull mwy cymesur a diogelu gwybodaeth bersonol dyfeiswyr.Disgwylir i’r newid hwn ddod i rym pan fydd ein gwasanaethau nodau masnach, dyluniadau a Thribiwnlys IPO digidol newydd yn cael eu lansio.
Dywedodd Prif Swyddog Gweithredol Yr IPO, Adam Williams:
Rydym yn hynod ddiolchgar i bawb a gyfrannodd eu mewnwelediadau gwerthfawr at ein hymgynghoriad trawsnewid.
Nid yw ein taith trawsnewid digidol yn ymwneud â gweithredu technoleg newydd yn unig - mae’n ailddychmygu ein dull cyfan o ddarparu gwasanaeth gwell; i wneud hynny mae angen i ni herio ein hunain i weld beth allai gael ei wneud yn wahanol, hyd yn oed os yw hynny’n golygu newidiadau i ddeddfwriaeth bresennol.
Mae hwn yn gam pwysig iawn ar ein llwybr tuag at ddarparu gwasanaethau digidol modern, sydd wedi’u gwella’n sylweddol a fydd yn diwallu anghenion ein cwsmeriaid yn well - nawr ac yn y dyfodol.
Dywedodd Kelly Saliger, Llywydd CITMA:
Er nad yw newid bob amser yn gyfforddus, mae’n gam angenrheidiol wrth gydnabod anghenion cwsmeriaid a busnesau sy’n esblygu. Mae CITMA yn ddiolchgar am y dull cydweithredol a gymerwyd o ran ymgynghori ag IPO y DU ac yn edrych ymlaen at barhau â’r gwaith hwnnw wrth drefnu’r gweithrediad.
Fel sefydliad aelodaeth proffesiynol, mae CITMA yn croesawu newid lle mae’n cynnig eglurder neu’n darparu effeithlonrwydd i arbenigwyr IP a bydd yn parhau i gynnig arweiniad a mewnbwn i IPO y DU ar gam nesaf yr ymgynghoriad ar gyfer adrannau Nodau Masnach a Dyluniadau rhaglen Trawsnewid Un IPO.
Nodiadau i’r golygydd:
-
parhaodd yr ymgynghoriad am 10 wythnos rhwng 22 Awst 2023 a 31 Hydref 2023
-
mae ymateb y llywodraeth yn cynnwys crynodeb o’r cyflwyniadau ar gyfer pob cwestiwn yn yr ymgynghoriad. Barn yr ymatebwyr yw’r holl safbwyntiau a gyflwynir ac ni ddylid eu hystyried yn safbwyntiau’r IPO
-
cynhaliodd yr IPO hefyd nifer o ddigwyddiadau bwrdd crwn gyda gwahanol grwpiau rhanddeiliaid, gan gynnwys sefydliadau sy’n cynrychioli twrneiod, busnes a’r proffesiwn cyfreithiol ehangach
-
dilynodd yr ymgynghoriad hwn ymgynghoriad trawsnewid cyntaf y llywodraeth ar newidiadau deddfwriaethol posibl ar gyfer trawsnewid digidol IPO, a oedd yn canolbwyntio’n bennaf ar y gwasanaeth patentau digidol newydd
-
ar hyn o bryd mae’r IPO yn casglu ac yn cyhoeddi manylion cyfeiriad llawn ar gyfer dyfeiswyr patentau. Yn y dyfodol, byddwn yn ceisio casglu a chyhoeddi gwybodaeth llai penodol, gan osgoi cyhoeddi’r cyfeiriad stryd llawn
-
ym mis Ionawr 2025,lansiodd yr IPO ei offeryn newydd ‘Un Chwiliad IPO�.Mae hyn yn cynnig ffordd newydd a gwell i’r cyhoedd chwilio am ddata patentau. Mae dros 10,000 o chwiliadau bellach wedi’u gwneud gan ddefnyddio’r gwasanaeth newydd hwn. Yn y dyfodol, bydd chwiliadau am nodau masnach a dyluniadau yn cael eu hychwanegu at y gwasanaeth chwilio, gan gynnig nodweddion a swyddogaethau gwell o’i gymharu â’r offer chwilio am nodau masnach a dyluniadau presennol
-
mae cynllun peilot gwasanaeth newydd ‘Un Patent IPO�, sy’n cynnwys cyfrifon cwsmeriaid a cheisiadau patent, wedi parhau i gynyddu, gyda 65 o ddefnyddwyr allanol o amrywiaeth o gwmnïau wedi cofrestru i ddefnyddio’r gwasanaeth