GLlTEM yn cyhoeddi ymateb i’r adroddiad ar ddefnyddio data
Mae GLlTEM yn croesawu argymhellion adroddiad Dr Natalie Byrom.

Heddiw (2 Hydref 2019) mae Dr Natalie Byrom, y Cyfarwyddwr Ymchwil a Dysgu yn y Sefydliad Addysg Cyfreithiol (TLEF), wedi .
Cysylltodd GLlTEM â Dr Byrom yn ystod yr hydref 2018 i ymgynghori ar strategaethau i wella ymgysylltiad y sefydliad â’r byd academaidd, a gwella’r ffordd mae’n rhyddhau data at ddibenion ymchwil, gan fod y sefydliad wedi cydnabod ers peth amser fod y rhain yn meysydd i’w blaenoriaethu.
Mae adroddiad heddiw yn nodi cwblhau’r gwaith ymchwil hanfodol hwn.
Yn ei hymateb i adroddiad heddiw, dywedodd Susan Acland-Hood:
Hoffwn ddiolch yn ddiffuant i Natalie am ei gwaith caled a’i hymroddiad i ddarparu’r adroddiad hwn. Rwy’n croesawu ei chanfyddiadau a’i hargymhellion, a fydd yn hanfodol i lywio’r ffordd y byddwn yn parhau i gasglu a rheoli data a’i roi ar waith i danategu’r Rhaglen Ddiwygio, yn enwedig o ran y ffordd y byddwn yn gwerthuso’r rhaglen.
Rydym eisoes wedi gwneud cynnydd mewn llawer o’r meysydd a amlygwyd ac, ar y cyd â’r uwch farnwriaeth a’r Weinyddiaeth Gyfiawnder, byddwn yn edrych ar yr holl argymhellion yn ofalus cyn pennu ein cynlluniau’n llawn.
Meddai Prif Weithredwr TLEF, Matthew Smerdon:
Mae’r sefydliad yn credu ei fod yn hanfodol bod pobl yn gallu deall a defnyddio’r gyfraith, sy’n golygu bod yn rhaid i benderfyniadau ynghylch darparu mynediad at gyfiawnder fod yn seiliedig ar dystiolaeth clir a chadarn. Mae fy nghydweithiwr Dr Natalie Byrom wedi datblygu arbenigedd unigryw yn y maes hwn, trwy ei gwaith a’i hymchwil helaeth.
Rydym wrth ein boddau bod GLlTEM wedi gwahodd Natalie i weithredu fel arbenigwraig annibynnol ar y Rhaglen Ddiwygio, sy’n dangos ymrwymiad y prif weithredwr, Susan Acland-Hood, a’i thîm i ddarparu cyfiawnder i holl ddefnyddwyr y llysoedd.
Cyhoeddir adroddiad terfynol ac argymhellion Dr Byrom isod.
Yn gynharach eleni , yn . Bydd Dr Byrom yn eistedd fel aelod o’r panel, sy’n un o sawl ffordd y mae tystiolaeth a data yn cael eu defnyddio i asesu effaith y rhaglen.