Y Swyddfa Eiddo Deallusol yn croesawu Gweinidog Eiddo Deallusol newydd
Cyhoeddir Feryal Clark fel y Gweinidog Eiddo Deallusol newydd.

Mae鈥檙 Swyddfa Eiddo Deallusol yn croesawu鈥檙 cyhoeddiad bod Feryal Clark AS wedi鈥檌 benodi鈥檔 Is-ysgrifennydd Gwladol Seneddol yn yr Adran Gwyddoniaeth, Arloesi a 皇冠体育appchnoleg, gyda chyfrifoldeb am eiddo deallusol.
Dywedodd Adam Williams, Prif Weithredwr a Rheolwr Cyffredinol y Swyddfa Eiddo Deallusol:
Mae鈥檔 bleser mawr gennyf groesawu Feryal Clark fel y gweinidog newydd sy鈥檔 gyfrifol am eiddo deallusol.
Mae gan y llywodraeth newydd genhadaeth glir - twf economaidd. Mae arloesi a chreadigrwydd yn hanfodol i gyflawni鈥檙 nod hwn, ac mae eiddo deallusol yn alluogwr pwerus ar draws llawer o sectorau o economi鈥檙 DU.
Mae ein rhiant-adran, yr Adran Gwyddoniaeth, Arloesi a 皇冠体育appchnoleg (DSIT) sydd newydd gael ei datblygu, yn canolbwyntio ar drawsnewid gwasanaethau a chyflawni twf economaidd trwy wyddoniaeth a thechnoleg. Drwy ein strategaeth newydd a鈥檔 rhaglen drawsnewid ddigidol uchelgeisiol, rydym yn barod i chwarae ein rhan i gyflawni鈥檙 genhadaeth hon.
Rydym yn edrych ymlaen at weithio鈥檔 agos gyda鈥檙 gweinidog newydd a thimau ar draws y llywodraeth i wella system eiddo deallusol sy鈥檔 arwain y byd yn y DU, gan ysgogi a sicrhau arloesi a chreadigrwydd.
Penodwyd Feryal Clark AS yn Is-ysgrifennydd Gwladol Seneddol yn yr Adran Gwyddoniaeth, Arloesi a 皇冠体育appchnoleg ar 9 Gorffennaf 2024.