“Mae’n ddyletswydd arnom ni i sicrhau nad yw’r cof am yr Holocost yn mynd yn angof�
Stephen Crabb, yn talu teyrnged ar Ddiwrnod Cofio’r Holocost

Heddiw, mae Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Stephen Crabb, wedi talu teyrnged i’r bobl a fu farw yn yr Holocost, ac i’r goroeswyr sy’n gweithio’n ddiflino i rannu eu straeon dewr gyda chenedlaethau’r dyfodol.
Mae Diwrnod Cofio’r Holocost (27 Ionawr) yn ddigwyddiad cenedlaethol yn benodol i gofio’r bobl a fu farw yn sgil hil-laddiadau ac i anrhydeddu’r rhai hynny sydd wedi goroesi cyfundrefnau casineb ledled y byd. Y thema ar gyfer y cofio yn 2016 yw ‘Paid Sefyll o’r Neilltu�.
Ddoe, llofnododd Stephen Crabb Lyfr Ymrwymiad Ymddiriedolaeth Addysgol yr Holocost yn y Senedd.
Dywedodd:
Mae Diwrnod Cofio’r Holocost yn rhoi’r cyfle i ni ddysgu am y digwyddiad erchyll a luniodd ein hanes, yn ogystal â dysgu ohono.
Mae’r neges eleni, ‘Paid Sefyll o’r Neilltu�, yn un y mae’n rhaid i ni i gyd ei chofio a gweithredu arni. Mae’n rhaid i ni herio peryglon gwahaniaethu ac eithafiaeth o bob math a pheidio byth â sefyll o’r neilltu pan fyddwn yn dod ar draws rhagfarn a chasineb.
Er bod miliynau o straeon am golli bywydau a phobl yn dioddef o ganlyniad i hil-laddiad ledled y byd, mae nifer o straeon gwych am aberth a dewrder personol hefyd. Mae’n ddyletswydd arnom ni i wneud yn siŵr nad yw hanesion creulon y digwyddiadau hyn yn mynd yn angof, ac nad yw’r cof am y penodau tywyllaf yn ein hanes yn pylu.
Mae Ymddiriedolaeth Addysgol yr Holocost yn gweithio gydag ysgolion, colegau a chymunedau ledled y DU i addysgu pobl am yr Holocost a’r modd mae’n berthnasol heddiw.