Enillydd Kids Invent Stuff a Chystadleuaeth Taskmaster Education
Twb ymolchi eiconig Taskmaster wedi'i drawsnewid gan ddyfeisiwr saith oed mewn cystadleuaeth genedlaethol.

- Callie, saith oed o Fanceinion yn ennill Cystadleuaeth Kids Invent Stuff a Taskmaster Education a gefnogir gan y Swyddfa Eiddo Deallusol (IPO)
- ²Ñ²¹±ð’r ddyfais fuddugol yn cyfuno offer dosbarthu tasgau gyda dosbarthwr hwyaden rwber arloesol
- Cyflwynodd dros 1,600 o ddyfeiswyr rhwng 4 ac 11 oed o bob rhan o’r DU atebion creadigol
- ²Ñ²¹±ð’r achlysur i ddadorchuddio’r ddyfais yn cyd-fynd â dathliadau Wythnos Wyddoniaeth Prydain a bydd yn cael ei harddangos yn y digwyddiad Get Up to Speed ​​gyda STEM yn ddiweddarach y mis hwn
Mae dyfeisiwr saith oed o Fanceinion wedi ennill cystadleuaeth genedlaethol i helpu Little Alex Horne i ddod yn Gynorthwyydd gorau i’r Taskmaster. Mae dyfais fuddugol Callie, o’r enw ‘Task Firing Driveable Bath,� yn trawsnewid twb ymolchi bob dydd yn beiriant dosbarthu tasgau arloesol.
Roedd y gystadleuaeth a gefnogir gan IPO yn gwahodd pobl ifanc i gyflwyno syniadau dyfeisio, gyda’r cysyniad buddugol i’w adeiladu mewn bywyd go iawn. Dewiswyd yr enillydd o blith mwy na 1,600 o geisiadau o bob rhan o’r DU, a chafwyd rhai ceisiadau o bob rhan o’r byd.

Line drawing by Callie showing Alex Horne sitting in a bathtub surrounded by papers representing tasks floating in the air and several rubber ducks.
Dywedodd Adam Williams, Prif Swyddog Gweithredol yr IPO:
Trwy’r gystadleuaeth hon, rydym wedi gweld creadigrwydd rhyfeddol gan feddyliau ifanc ledled y DU. Mae dyfais Callie yn cyfuno datrys problemau ymarferol gyda dychymyg chwareus - yr union fath o feddwl arloesol sy’n argoeli’n dda ar gyfer y dyfodol.
Dywedodd Little Alex Horne:
²Ñ²¹±ð’r ddyfais ryfeddol hon yn llwyddo i fod yn wych o ymarferol ac aruchel o wirion - y cyfuniad perffaith sy’n cynorthwyo Taskmaster! Fe wnes i fwynhau rhoi cynnig ar y twb ymolchi ac rwy’n meddwl y byddai’n bendant yn ffordd effeithiol o gadw ein cystadleuwyr Taskmaster ar flaenau eu traed. Gadewch i ni ei wynebu hyn - os na allwch chi ddal tasg yn cael ei saethu allan o dwb ymolchi symudol, ai deunydd cystadleuydd Taskmaster ydych chi mewn gwirionedd?
Dywedodd Ruth Amos, Dyfeisiwr a Chyfarwyddwr Kids Invent Stuff:
Rydym wedi cael amser gwych yn gweithio ar y prosiect hwn ochr yn ochr â’r IPO a Taskmaster Education! Mae wedi bod yn anhygoel gweld syniadau dyfeisgarmor greadigol a llawn dychymyg gan gynifer o bobl ifanc ledled y wlad. Mae dod â syniad yn fyw bob amser yn gyffrous, a gwnaeth gweithio gyda Little Alex Horne y profiad cyfan hyd yn oed yn fwy difyr ac atyniadol!
Dywedodd Dr Ali Struthers, Cyd-sylfaenydd Taskmaster Education:
Mae gan blant y dychymyg mwyaf disglair ac mae mor gyffrous i fod wedi bod yn rhan o’r broses hon o’r syniad i’r ddyfais! Mae gwylio’r ddyfais wych hon sy’n cynorthwyo’r Taskmaster yn dod yn fyw, a chael rhoi cynnig arni ein hunain, wedi bod yn gymaint o bleser. Mae Taskmaster Education wedi bod wrth ei fodd yn cydweithio a rhoi cyfle i bobl ifanc ddathlu eu creadigrwydd.
Gallwch chi wylio dyfais Callie yn cael ei hadeiladu ar sianel YouTube Kids Invent Stuff, gyda Little Alex Horne yn ei brofi yn nhÅ· Taskmaster. ²Ñ²¹±ð’r fideo yn cael ei lansio ochr yn ochr ag adnoddau addysgol rhad ac am ddim sydd wedi’u cynllunio i ysbrydoli a datblygu sgiliau yn y genhedlaeth nesaf o ddyfeiswyr.

Photograph of Alex Horne sitting in a custom-built bathtub invention, smiling at the camera. Ruth Amos, the inventor who built the bathtub, stands behind him also smiling.
Nodiadau i’r golygydd:
-
yn addasu fformat Taskmaster Sianel 4 i greu profiadau difyr ac addysgiadol i blant a phobl ifanc. Yn y sioe, mae’r Taskmaster a’i gynorthwyydd Little Alex Horne yn herio digrifwyr gyda thasgau creadigol. Mae Taskmaster Education yn defnyddio gweithgareddau tebyg i ddatblygu sgiliau pwysig mewn plant. ²Ñ²¹±ð’r sgiliau hyn yn cynnwys datrys problemau, gwaith tîm, a meddwl beirniadol. Mae Taskmaster Education yn darparu ffordd hyblyg a deniadol i ysbrydoli dysgu mewn ystafelloedd dosbarth a thu hwnt
-
yn sianel YouTube arloesol sy’n dod â dyfeisiadau pobl ifanc yn fyw. Wedi’i sefydlu gan y peirianwyr Ruth a Shawn, mae Kids Invent Stuff yn cynnig cyfle i blant 4 i 11 oed weld eu syniadau creadigol yn cael eu troi’n realiti
-
²Ñ²¹±ð’r IPO wedi curadu  yn arddangos y dyfeisiau anhygoel o gystadlaethau IPO a Kids Invent Stuff o’r gorffennol
-
Gall dyfeiswyr ifanc hefyd brofi’r greadigaeth yn bersonol yn �, De Swydd Efrog, ar 19-20 Mawrth 2025
-
²Ñ²¹±ð’r IPO wedi datblygu offer, canllawiau ac adnoddau addysgu ar gyfer addysg gynradd, uwchradd, bellach ac uwch, ymchwilwyr a rheolwyr prifysgolion