Stori newyddion

Gadael y cyfyngiadau symud gyda鈥檔 gilydd: Pam ein bod yn well yn erbyn coronafeirws wrth fod yn unedig

Mewn erthygl yn y Western Mail heddiw, mae Simon Hart, Ysgrifennydd Gwladol Cymru yn trafod y pwysigrwydd o ddod allan o鈥檙 cyfyngiadau symud fel Teyrnas Unedig.

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2019 to 2022 Johnson Conservative government
Welsh Secretary Simon Hart

Welsh Secretary Simon Hart writes in today's Western Mail

Yr wythnos hon rydym yn coff谩u Diwrnod VE. Roedd yn adeg o ryddhad cenedlaethol sylweddol ond gyda naws o realiti am yr aberth a wnaed i gyrraedd y pwynt hwn. Mae鈥檙 wythnos hon yn dangos, hyd yn oed ar 么l 75 mlynedd, ein bod yn gwbl ymywbodol o鈥檙 hyn a ddysgwyd gennym wedi鈥檙 cyfnod hir hwn o ryfela.

Ac felly mae鈥檙 pandemig coronafeirws presennol yn ein hatgoffa o鈥檙 hyn sy鈥檔 bwysig ar gyfnodau fel hyn, a鈥檙 hyn a ellir ei gyflawni fel Teyrnas Unedig.

Os oes un peth y mae鈥檙 argyfyngau hyn wedi ei gyfleu i ni trwy gydol ein hanes ar y cyd, yw bod gwledydd y Deyrnas Unedig ar eu cryfaf pan maent yn gweithio gyda鈥檌 gilydd.

Mae gwleidyddiaeth yn broffesiwn sy鈥檔 ffynnu ar anghytundeb a dadlau, felly roedd rhaid i mi binsio fy hun am fy mod yn cydweld gyda Nick Thomas-Symonds, AS Llafur Torfaen ac Ysgrifennydd Cartref yr Wrthblaid, pan ddywedodd bod Llywodraeth y DU wedi gweithio鈥檔 dda gyda鈥檙 gweinyddiaethau datganoledig yn ystod yr argyfwng hwn. Mae ei sylwadau yn adlewyrchu鈥檙 gri a ddaw i鈥檓 sylw鈥檔 ddyddiol gan fusnesau a thrigolion ledled Cymru 鈥� rhowch eich gwahaniaethau gwleidyddol o鈥檙 neilltu ac uno i orchfygu COVID 19 y lladdwr anweledig a digroeso.

Yma yn y Deyrnas Unedig, mae鈥檙 ymateb i鈥檙 pandemig wedi ei seilio ar wneud penderfyniadau ar y cyd a chydweithredu rhwn Llywodraeth y DU a鈥檙 gweinyddiaethau datganoledig.

Dyma鈥檙 ymagwedd y mae argyfwng yn ei fynnu a鈥檙 lefel o wleidyddiaeth aeddfed y mae鈥檙 cyhoedd yn ei ddisgwyl. Nid yw hyn yn golygu na ellir herio, anghytuno na chraffu. Mae hyn i gyd yn bywsig, ond ar hyn o bryd mae鈥檔 fater o amseriad ac ymdrech, y cyfan wedi ei ganolbwyntio ar un amcan cyffredin.

Weithiau bu i鈥檙 gwledydd gwahanol fynd o gwmpas pethau mewn ffordd wahanol wrth i鈥檙 gweinyddiaethau ymateb yn y fan a鈥檙 lle i鈥檙 heriau sylweddol a wynebwyd bob dydd. Rydym i gyd yn derbyn y bydd ychydig o 鈥榙dargyfeirio鈥� 鈥� dyna realiti llywodraeth ddatganoledig. Er hynny mae鈥檔 amlwg er cymaint y gwahaniaethau gwleidyddol yn y gweinyddiaethau o fewn y DU, mae鈥檙 ffordd yr aethom ati a鈥檙 nodweddion tebyg rhyngom yn llawer iawn mwy na鈥檙 gwahaniaethau.

Efallai nad yw hyn yn cael ei gyfleu rhyw lawer, ond rwyf bron yn ddyddiol yn siarad gyda Gweinidogion Llywodraeth Cymru ac mae鈥檙 hyn a elwir yn 鈥榝ecanwaith鈥� Llywodraeth 鈥� gweision sifil, ymgynghorwyr a swyddogion 鈥� yn trafod gyda鈥檌 gilydd trwy鈥檙 amser. A goeliwch chi? Yn amlach na pheidio rydym yn cytuno ar yr union bwynt hwn.

Boed yn warchod swyddi a bywoliaethau, y system lles enfawr ar draws y DU, cefnogaeth lluoedd arfog y DU sydd mor weladwy ledled Cymru a鈥檙 gwaith ymchwil a datblygu yn y DU sydd mor uchel ei barch ar draws y byd 鈥� ni fu pwysigrwydd yr Undeb (gan gynnwys presenoldeb Llywodraeth y DU yng Nghymru) erioed mor hanfodol i fywydau pobl Cymru. Yn hytrach na bod yn fygythiad i ddatganoli a鈥檙 teimlad cryf o falchder cenedlaethol, mewn gwirionedd mae鈥檔 eu grymuso.

Felly, fel y bu i鈥檙 Prif Weinidog, Mark Drakeford ei hun grybwyll, fe fu i bob un o鈥檙 pedair gwlad gyflwyno鈥檙 cyfyngiadau ar symud ar yr un pryd a dylid felly, os yn bosibl, wneud unrhyw addasiadau i鈥檙 cyfyngiadau ar yr un pryd. Y rheswm am hyn yw bod ein heconomi a鈥檔 systemau i gyd wedi eu cydblethu. Rydym yn cytuno y byddai system drafnidaeth ar draws y DU fyddai鈥檔 caniatau gwneud un peth ym Mryste a rhywbeth arall yng Nghasnewydd, yn sicr o fethu. Sut fyddai rhywun yn egluro i rai o鈥檔 cyflogwyr mawr bod y rheolau ar Lannau Dyfrdwy yn wahanol i鈥檞 ffatri yn Doncaster, yn enwedig os oes stafd yn gweithio rhwng y ddau le?

Mae pobl ledled Cymru wedi bod yn ardderchog yn ystod yr wythnosau ers mis Mawrth pan ddechreuodd y mesurau o gadw pellter cymdeithasol. Mae鈥檙 mwyafrif llethol wedi dilyn y canllawiau, wedi aros yn y t欧 ac wedi gwneud eu rhan i arafu lledaeniad y feirws a gwarchod y GIC.

Gwnaed hynny oherwydd bod y canllawiau yn syml a bod ymagwedd y ddwy lywodraeth wedi bod yn unedig. Dyma pam y mae busnesau Cymru heb ddim ffws wedi ymateb i鈥檙 her, cynhyrchu PPE, hylif glanhau dwylo a datblygu technoleg newydd ar gyfer peiriannau anadlu. Maent wedi rhoi bwyd a鈥檜 hamser, wedi cefnogi gweithwyr allweddol ac wedi edrych ar 么l y gweithlu.

Dyma鈥檙 ymagwedd sydd angen i ni ei chynnal yn ystod yr wythnosau sydd i ddod.

Fe fydd Covid-19 efo ni am gryn amser eto a hyd nes byddwn wedi cyfarfod y pum prawf a osodwyd i drechu鈥檙 feirws, rhaid i ni barhau gyda鈥檙 mesurau yr ydym wedi bod yn eu cymryd o aros adref, gwarchod y GIC ac arbed bywydau. Yn ddiweddarach yn ystod yr wythnos hon bydd y Prif Weinidog yn ein diweddaru ar y mesurau a鈥檙 penderfyniadau y bydd angen i ni eu cymryd i warchod yr economi ac osgoi y risg o gael ail begwn a fyddai mor niweidiol.

Ymagwedd ledled y DU yn ystod y cyfnod nesaf fydd orau i bobl a busnesau Cymru. Aethom i mewn i鈥檙 frwydr fel Teyrnas Unedig ac fe ddown allan ohoni hyd yn oed yn fwy unedig.

DIWEDD.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 7 Mai 2020
Diweddarwyd ddiwethaf ar 7 Mai 2020 show all updates
  1. Welsh translation added. This was delayed due to the original newspaper article being published in English.

  2. First published.