Yr Arglwydd Bourne: “Mae’n amser setlo’r drafodaeth gyfansoddiadol yng Nghymru ar gyfer yr hir dymor�
Gweinidog yn Swyddfa Cymru yn annerch yr Academi ar gyfer Gwyddorau Cymdeithasol

Bydd Gweinidog yn Swyddfa Cymru, yr Arglwydd Bourne, yn galw am ddiwedd ar y drafodaeth gyfansoddiadol yng Nghymru ac am newid ffocws ar gyfer cyflawni er budd pobl Cymru pan fydd yn annerch cymrodyr yr Academi ar gyfer y Gwyddorau Cymdeithasol yn Llundain heddiw (14 Gorffennaf).
Wrth siarad yn lansiad cyhoeddiad yr Academi, ‘Making the Case for Sciences Wales�, bydd yr Arglwydd Bourne yn cadarnhau ymrwymiad Llywodraeth y DU i ddatganoli a gwthio’r pŵer i lawr i lefel leol yng Nghymru.
Bydd yn datgan yr athroniaeth sydd wrth galon cytundeb Dydd Gŵyl Dewi, a gyhoeddodd fesurau cyllido arloesol a mwy o bwerau i’r Cynulliad Cenedlaethol. Bydd hefyd yn cadarnhau pwysigrwydd gwneud penderfyniadau ar lefel leol.
Wrth siarad cyn y digwyddiad, dywedodd Gweinidog Swyddfa Cymru, yr Arglwydd Bourne:
Mae’n bleser cael y cyfle i siarad yn y digwyddiad yma heddiw. Mae’r gwyddorau cymdeithasol yn chwarae rhan hanfodol mewn llunio polisïau, gan roi i ni ddarlun clir o’r problemau sy’n wynebu cymdeithas heddiw - ac mae datganoli yn un o’r rhai mwyaf.
Yr hyn mae pobl Cymru’n ei ddweud wrthym ni yw y dylid cael pwrpas clir i bwerau sy’n cael eu datganoli. Dylid eu defnyddio i wneud Cymru’n gryfach ac o fudd i fusnesau, a gwella bywydau pobl ar hyd a lled y wlad.
Drwy gytundeb Dydd Gŵyl Dewi a Mesur Cymru wedyn, mae’n oes newydd o ddatganoli i Gymru. Gadewch i ni ddefnyddio’r cyfle hwn i roi’r trafod cyfansoddiadol o’r neilltu a chanolbwyntio unwaith eto ar wrando ar bobl Cymru a chyflawni er eu lles.