Gweinidog yn canmol rôl y fyddin ar Ddiwrnod y Lluoedd Arfog
Dywedodd Guto Bebb: “Mae heddiw yn gyfle i ni ddiolch i’n milwyr ac i gydnabod eu cyfraniad mewn anghydfodau drwy gydol hanes hyd heddiw.�

Bydd Guto Bebb, Gweinidog Swyddfa Cymru, yn mynychu Diwrnod y Lluoedd Arfog yng Ngogledd Cymru, yng Nghastell Bodelwyddan, Sir Ddinbych, heddiw (dydd Sadwrn 18 Mehefin).
Bydd y Gweinidog yn gwylio perfformiad gan Fand Brenhinol Cymru ac yn gwylio Gwasanaeth Awyr Agored ar ôl hynny.
Bydd gweithgareddau milwrol eraill yn cynnwys ‘pentref� milwrol gyda cherbydau ac arddangosfeydd, perfformiad gan y ‘Falcons�, Tîm Arddangosfeydd Parasiwtio yr Awyrlu Brenhinol, a bydd awyrennau Spitfire a Griffin yn hedfan heibio.
Dywedodd Mr Bebb
Mae unedau a milwyr wrth gefn Cymru wedi gwasanaethu ein gwlad gyda rhagoriaeth bob amser. Eleni, 100 mlynedd ers Brwydr y Somme, mae’n arbennig o ingol gan ystyried aberth milwyr o Gymru yn y frwydr ddychrynllyd honno.
Mae heddiw yn gyfle i ni ddiolch i’n milwyr ac i gydnabod eu cyfraniad mewn anghydfodau drwy gydol hanes hyd heddiw. Rwy’n gobeithio y bydd pawb yn cael cyfle i gymryd rhan mewn digwyddiad ar Ddiwrnod y Lluoedd Arfog.
Bydd yr Ysgrifennydd Gwladol, Alun Cairns, yn mynychu digwyddiad Diwrnod y Lluoedd Arfog yn Ne Cymru, a gynhelir ar Gaeau Chwarae Owain Glyndŵr, Caerffili, ar 25 Mehefin.
Nodiadau i olygyddion
-
Ddydd Llun 20 Mehefin, bydd baner Diwrnod y Lluoedd Arfog yn cael ei chodi ar adeiladau a thirnodau enwog ledled y wlad. Bydd Digwyddiad Cenedlaethol 2016 cael ei gynnal yn Cleethorpes, swydd Lincoln, ddydd Sadwrn 25 Mehefin.
-
Mae rhagor o wybodaeth am Ddiwrnod y Lluoedd Arfog ar gael drwy fynd i https://www.armedforcesday.org.uk