Mwy na 100,000 yn hawlio arian yn y Llys Sifil Ar-lein
Cyflwynwyd mwy na 100,000 hawliad am arian yn y llys sifil mewn 18 mis drwy gyfrwng system ar-lein Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd EM.

- proses ar-lein sy鈥檔 cymryd deng munud
- 88% o鈥檙 defnyddwyr yn fodlon ar y gwasanaeth ar-lein
- cyflwyno hawliadau mewn ychydig funudau yn hytrach na dyddiau
Mae鈥檙 gwasanaeth digidol, a lansiwyd ym mis Mawrth 2018, yn caniat谩u i bobl y mae symiau o hyd at 拢10,000 yn ddyledus iddynt ddatrys eu hanghydfod yn gyfan gwbl ar-lein. Gan hynny gellir cyflwyno hawliad, ymateb i鈥檙 hawliad a鈥檌 setlo heb fod angen i drydydd parti fod yn rhan o鈥檙 broses.
Amcan y gwasanaeth yw ei gwneud hi鈥檔 symlach ac yn haws i bobl hawlio, drwy ganiat谩u iddynt wneud hynny yn eu cartref a chael gwared ar iaith gyfreithiol gymhleth o鈥檙 cais ar-lein. Mae鈥檙 rhan fwyaf o bobl yn cymryd llai na chwarter awr i lenwi鈥檙 ffurflen gychwynnol.
Mae bron i 9 allan o bob 10 sydd wedi defnyddio鈥檙 gwasanaeth wedi bod yn fodlon neu鈥檔 fodlon iawn arno, gyda hawliadau yn awr yn cael eu cyflwyno mewn ychydig ddyddiau yn hytrach na dyddiau. Mae hyn yn ei gwneud hi鈥檔 haws i ddatrys anghydfod ac yn rhoi grym yn 么l yn nwylo defnyddwyr, a dylai hynny gynorthwyo i annog ymddygiad gonestach ymysg masnachwyr fel y bydd llai o bobl yn colli arian.
Meddai Chris Philp AS, y Gweinidog dros Gyfiawnder:
Mae鈥檙 gwasanaeth hawlio arian yn y llys sifil ar-lein yn galluogi miloedd o bobl ledled y wlad i hawlio鈥檙 arian sy鈥檔 ddyledus iddynt yn gynt ac yn rhwyddach.
Un enghraifft yn unig yw鈥檙 gwasanaeth hawlio ar-lein o sut y mae鈥檙 Llywodraeth hon yn defnyddio technoleg i sicrhau yr erys ein system gyfiawnder, y mae bri arni drwy鈥檙 byd, yn atebol ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain a chynyddu mynediad at gyfiawnder i bawb sy鈥檔 ei defnyddio.
Mae Ola Osenie, 45 oed, o Ogledd Llundain, yn un o鈥檙 rhai sydd wedi cael budd o鈥檙 gwasanaeth ar-lein.
Meddai:
Roedd y busnes yn honni nad oedden nhw鈥檔 fodlon ar fy ngwasanaeth, a gwyddwn nad oedd hynny鈥檔 wir; roedden nhw eisoes wedi darparu sylwadau cadarnhaol gan ddweud pa mor fodlon yr oedden nhw. 鈥淩oeddwn wedi ceisio datrys y sefyllfa fy hun, drwy geisio trefnu cyfarfod, anfon llythyrau, e-byst, gadael negeseuon ff么n ac anfon negeseuon testun, ond yn ofer.
Deng munud neu chwarter awr gymerodd hi imi hawlio arian ar-lein. Roedd hi鈥檔 hawdd dilyn y drefn a defnyddio鈥檙 gwasanaeth ac mae wedi ei ddylunio i鈥檞 ddefnyddio mewn ffordd reddfol. Mae鈥檔 wasanaeth rhagorol ac yn hawdd i鈥檞 ddefnyddio. Byddwn yn annog pobl eraill y mae arian yn ddyledus iddynt i鈥檞 ddefnyddio.
Mae鈥檙 gwasanaeth hawlio arian yn y llys sifil ar-lein yn rhan o raglen ddiwygio gwerth 拢1 biliwn Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd Ei Mawrhydi sy鈥檔 amcanu moderneiddio鈥檙 llysoedd a鈥檙 tribiwnlysoedd, gan eu gwneud yn gyflymach, yn symlach ac yn haws i鈥檞 defnyddio i bawb. Erbyn hyn gellir gwneud cais am ysgariad diwrthwynebiad a phrofiant ar-lein, a chyflwyno ple yn achos troseddau lefel isel.
Nodyn i olygyddion
- nid yw gwasanaethau ar-lein yn cymryd lle ceisiadau papur ond maent yn aml yn darparu dull amgen, haws i lawer o bobl.
- cyflwynwyd mwy na 拢10m mewn ffioedd llys drwy wasanaeth Hawlio Arian yn y Llys Sifil Ar-lein GLlTEM.
- os hoffech siarad ag Ola, neu bobl eraill sydd wedi hawlio arian yn y llys sifil ar-lein, cysyllter 芒 swyddfa鈥檙 wasg yn GLlTEM ar 020 3334 3536.