Stori newyddion

Dyfodol disgleiriach Gymru y tu allan i鈥檙 UE

Araith y frenhines: Y Prif Weinidog yn atgyfnerthu ei ymrwymiad i gryfhau鈥檙 Undeb

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2019 to 2022 Johnson Conservative government
皇冠体育app Queen and Prince Charles

皇冠体育app Queen and Prince Charles

Mae Ysgrifennydd Gwladol Cymru Simon Hart wedi galw am ddyfodol disglair i Gymru heddiw [19 Rhagfyr] yn dilyn y ddeddfwriaeth yn Araith y Frenhines a fydd yn galluogi鈥檙 DU gyflawni Brexit a gadael yr UE ar 31 Ionawr.

Siaradodd yr Ysgrifennydd Gwladol newydd yn dilyn araith Ei Mawrhydi鈥檙 Frenhines oedd yn amlinellu agenda deddfwriaethol ac uchelgeisiol Llywodraeth y DU ar gyfer y sesiwn Seneddol nesaf.

Meddai Ysgrifennydd Gwladol Cymru Simon Hart:

Bydd y ddeddfwriaeth a amlinellir yn Araith y Frenhines yn golygu y gallwn gyflawni Brexit a gadael yr UE ar 31 Ionawr a meithrin dyfodol disglair i Gymru a gweddill y DU.

Mae mwyafrif helaeth o鈥檙 mesuriadau a amlinellwyd heddiw yn berthnasol i Gymru ac yn cynnwys cyflwyno system fewnfudo fodern yn seiliedig ar bwyntiau, mynd i鈥檙 afael 芒 throseddau treisgar a gwneud gwelliannau i鈥檙 system cyfiawnder troseddol.

Rydym yn darparu hwb o 拢600 miliwn i gyllideb Llywodraeth Cymru o ganlyniad i鈥檙 cylch gwariant diweddaraf a disgwylir i bobl ar draws y wlad weld yr arian yn cael ei wario ar y GIG yng Nghymru.

Unwaith eto, mae鈥檙 Prif Weinidog eto wedi egluro ei ymrwymiad diysgog i gryfhau鈥檙 Deyrnas Unedig drwy ein hymrwymiad i fuddsoddiadau mawr mewn bargeinion dinas a thwf dros Gymru gyfan, Gronfa Ffyniant Cyffredin newydd y DU i fynd i鈥檙 afael ar anghydraddoldeb ac amddifadedd, a鈥檌 gefnogaeth i鈥檙 diwydiant weithgynhyrchu sy鈥檔 parhau i ddarparu miloedd o swyddi. Mae hwn yn becyn uchelgeisiol o fesurau a fydd o fudd i gymunedau ledled Cymru.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 20 Rhagfyr 2019