Datganiad i'r wasg

Ysgrifennydd Gwladol Cymru yn diolch i bobl Cymru mewn neges Flwyddyn Newydd

Simon Hart AS yn myfyrio ar flwyddyn heriol iawn ac yn edrych ymlaen at y 12 mis nesaf

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2019 to 2022 Johnson Conservative government
Picture of Simon Hart

Mae Ysgrifennydd Gwladol Cymru Simon Hart wedi diolch i bawb yng Nghymru am yr aberth y maent wedi ei wneud dros y flwyddyn ddiwethaf.

Yn ei Neges Flwyddyn Newydd, mae鈥檙 Ysgrifennydd Gwladol wedi edrych yn 么l ar flwyddyn sydd wedi ei ddominyddu鈥檔 barhaol gan bandemig Covid-19 ond a ddaeth i ben gyda chymeradwyaeth dau frechlyn i鈥檞 defnyddio ledled y DU 鈥� a fydd, o bosib yn cyflymu鈥檙 broses o ddychwelyd i fywyd cyffredin.

Edrychodd Mr Hart hefyd ymlaen at 2021, ble bydd Cymru a gweddill y DU y tu allan i鈥檙 Undeb Ewropeaidd am y tro cyntaf ers degawdau gan gyfeirio at rai o鈥檙 cyfleoedd a ddaw yn ei sgil wrth i Lywodraeth y DU geisio adeiladu n么l yn well yn dilyn y pandemig.

Yn 么l Ysgrifennydd Gwladol Cymru Simon Hart

Mae eleni wedi bod yn flwyddyn unigryw ac rwyf am ddiolch i bawb yng Nghymru am yr aberth y maent wedi eu gwneud yn ystod cyfnod heriol iawn.

Mewn blwyddyn ble mae bob un person yng Nghymru wedi gorfod ymdopi 芒鈥檙 cyfyngiadau a osodwyd ar ein bywydau gan y pandemig, gan gynnwys llawer sydd wedi colli eu swyddi.

Mae鈥檙 digwyddiadau eithriadol yma wedi dangos y gorau ohonom 鈥� o鈥檔 gweithwyr iechyd yn rheng flaen y pandemig i鈥檔 Lluoedd Arfog sydd wedi bod yn helpu i adeiladu ysbytai maes a gweinyddu profion. Mae鈥檙 digwyddiadau hefyd wedi dangos i ni i ba raddau y bydd pobl ar hyd a lled Cymru yn mynd i helpu i ofalu am eu cymunedau, bod hynny yn darparu cymorth a chefnogaeth i eraill neu drwy ond dilyn y rheoliadau fel y gallwn ni drechu鈥檙 feirws cyn gynted 芒 phosib.

Roedd newyddion gwych ar ddiwedd y flwyddyn gyda chymeradwyaeth brechlyn Oxford/AstraZeneca. Mae pob brechlyn ychwanegol sy鈥檔 dod ar gael yn mynd 芒 ni un cam yn nes yn 么l i鈥檔 bywydau arferol. Gan fod y brechlyn hwn yn cael ei gynhyrchu yng Ngogledd Cymru, mae鈥檔 rhoi Cymru ar y rheng flaen yn y frwydr yn erbyn pandemig Covid-19.

Er ei bod hi鈥檔 anodd dychmygu ar hyn o bryd, ond rwyf hefyd yn hyderus bod gennym lawer i edrych ymlaen ato yn 2021. Ar Noswyl Nadolig, ar 么l misoedd o drafodaethau hir a blynyddoedd o drafod wrth i ni gyflawni ar ganlyniad refferendwm 2016 a selio cytundeb fasnach gyda鈥檙 Undeb Ewropeaidd 鈥� y fargen fwyaf eang y mae鈥檙 UE wedi cytuno arni erioed.

Am y tro cyntaf ers bron i 50 mlynedd, mae cyfle i bobl, busnesau a llywodraethau i wneud pethau yn wahanol. O hyn allan, gallwn fanteisio鈥檔 llawn ar gyfleoedd gwych sydd ar gael i鈥檙 DU fel cenedl fasnachu annibynnol, yn dilyn y cynnydd a wnaethom yn 2020 pan arwyddon ni gytundeb masnach rydd gyda dros 60 o wledydd.

Yng Nghymru, mae pob rhan o鈥檙 wlad bellach yn rhan o gytundeb twf. Mae鈥檙 rhain yn gyfleoedd enfawr i helpu ail-gydbwyso economi Cymru gyda Llywodraethau鈥檙 DU a Chymru yn gweithio law yn llaw ag awdurdodau lleol a busnes i ryddhau potensial llawn ein gwahanol ranbarthau. P鈥檜n ai ein huchelgeisiau gwyrdd, cynlluniau, cysylltedd digidol, cynllun porthladdoedd rhydd neu brosiectau llai sy鈥檔 cysylltu pob cwr o Gymru, bydd y misoedd nesaf yn ymwneud 芒 chreu swyddi, adfer a bywoliaeth.

Rydym wedi cyflawni cymaint ar draws y DU dan amgylchiadau anodd iawn ac eto, megis dechrau y mae ein huchelgais ar gyfer Cymru. Gyda diwedd y pan demig ar y gorwel, bydd Llywodraeth y DU yn parhau i weithio i lefelu lan y gwledydd a rhanbarthau鈥檙 DU, creu swyddi, sicrhau ffyniant a chryfhau鈥檙 Deyrnas Unedig y mae Cymru鈥檔 rhan mor annatod ohoni.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 1 Ionawr 2021