Ymateb y llywodraeth

Adolygiad Annibynnol o Fargen Ddinesig Bae Abertawe: Ymateb Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru

Camau gweithredu arfaethedig Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru mewn ymateb i adolygiad annibynnol o Fargen Ddinesig Bae Abertawe

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2016 to 2019 May Conservative government

Ym mis Rhagfyr 2018, cyhoeddodd Llywodraethau Cymru a鈥檙 DU y byddai adolygiad annibynnol yn cael ei gynnal i Fargen Ddinesig Bae Abertawe. Mae鈥檙 adolygiad wedi鈥檌 gwblhau erbyn hyn a, heddiw, rydym yn cyhoeddi adroddiad yr adolygiad.

Mae鈥檙 naill lywodraeth a鈥檙 llall yn croesawu鈥檙 adroddiad, sy鈥檔 rhoi鈥檙 hyder i ni, partneriaid lleol a鈥檙 sector preifat i fuddsoddi yn y rhanbarth a chreu twf economaidd a newid gweddnewidiol. Rydym yn falch fod yr adroddiad yn cydnabod bod ymrwymiad yr holl bartneriaid i鈥檙 fargen yn parhau, a hefyd yn cydnabod yr effaith gadarnhaol y byddai Bargen Ddinesig lwyddiannus yn ei chael ar draws y rhanbarth. Mae鈥檙 naill lywodraeth a鈥檙 llall yn derbyn argymhellion yr adolygiad.

Mae鈥檙 adroddiad yn cydnabod cryfderau鈥檙 Fargen Ddinesig, yn arbennig fel corff allweddol i alluogi gwaith rhanbarthol drwy bartneriaeth. Mae鈥檔 darparu sylfaen gadarn i鈥檔 dwy lywodraeth a鈥檙 partneriaid rhanbarthol er mwyn symud ymlaen yn gyflym i roi鈥檙 Fargen Ddinesig ar waith. Rydym eisoes wedi trafod yr argymhellion gydag arweinwyr pob awdurdod lleol yn y rhanbarth a byddwn yn parhau i weithio鈥檔 agos gyda nhw dros yr wythnosau i ddod i ystyried sut y gellir gweithredu鈥檙 argymhellion.

Ein blaenoriaeth gyntaf fydd cwblhau鈥檙 achosion busnes ar gyfer Ardal Ddigidol Glannau Abertawe a鈥檙 prosiect yn Yr Egin, yng Nghaerfyrddin, ar eu gwedd derfynol ar fyrder. Cyn gynted ag y daw鈥檙 achosion busnes terfynol ger bron, mae鈥檙 ddwy lywodraeth wedi ymrwymo i hwyluso鈥檙 broses arfarnu fel bod modd i鈥檙 prosiectau hyn symud i鈥檙 cam cyflawni mor gyflym 芒 phosibl.

Yn y pen draw, mater i arweinwyr y pedwar awdurdod lleol yw penderfynu sut maen nhw am gryfhau Swyddfa Rheoli Rhaglen y rhanbarth ac ystyried r么l eu pwyllgorau. Fodd bynnag, mae鈥檙 adroddiad yn dadlau鈥檔 gryf o blaid y newidiadau hyn - mae鈥檙 ddwy lywodraeth yn cydnabod y potensial i yrru鈥檙 Fargen Ddinesig ymlaen drwy sefydlu strwythur rheoli portffolio cryf. Byddwn yn cefnogi鈥檙 rhanbarth i gyflwyno鈥檙 newidiadau sy鈥檔 ofynnol i sicrhau bod y fargen hon yn llwyddiant a鈥檌 bod yn gwireddu鈥檙 addewidion a wnaed wrth lofnodi鈥檙 Telerau Pennawd. Yn bwysig, rydym am weld y rhanbarth yn dod 芒 chynllun cryf ger bron ac amserlen ar gyfer darparu鈥檙 bwndel nesaf o brosiectau.

Mae鈥檙 sector preifat yn bartner allweddol yn y Fargen Ddinesig hon ac mae gan y Bwrdd Strategaeth Economaidd r么l bwysig i鈥檞 chwarae yn ei helpu i lwyddo. Mae adroddiad yr adolygiad, fel y dylai, yn cydnabod cyfraniad y bwrdd a鈥檌 allu i helpu i nodi cyfleoedd y gall y fargen fanteisio arnynt. Rydym am weld y bwrdd hwn yn chwarae r么l fwy gweithredol yn goruchwylio鈥檙 ffordd y mae鈥檙 fargen yn cael ei dylunio a鈥檌 gweithredu, gan sicrhau bod y prosiectau gorau posibl yn cael cefnogaeth.

Mae ein hymrwymiad i Fargen Ddinesig Bae Abertawe yn gryf ac mae鈥檙 naill lywodraeth a鈥檙 llall yn benderfynol o鈥檌 gweld yn cyflawni er lles cymunedau de-orllewin Cymru. Wrth inni weithio gyda鈥檔 partneriaid rhanbarthol, bydd adroddiad yr adolygiad yn help inni wireddu鈥檙 uchelgais hwn.

Cliciwch yma i ddarllen yr adolygiad annibynnol yn llawn ar ein gwefan.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 15 Mawrth 2019