Arglwydd Raglaw Clwyd Ei Fawrhydi yn cydnabod deuddeg o bobl
Mae cynrychiolydd y Brenin dros Glwyd wedi cydnabod ymdrechion deuddeg o bobl o bob rhan o鈥檙 sir.

Lord-Lieutenant of Clwyd Awards. Copyright: RFCA for Wales.
I gydnabod eu gwasanaeth rhagorol a鈥檜 hymroddiad i ddyletswydd, dyfarnwyd Tystysgrif Teilyngdod yr Arglwydd Raglaw i chwech o bobl gan Henry George Fetherstonhaugh OBE FRAgS, yn y seremoni ym Marics Hightown, Wrecsam ar ddydd Iau 21 Mawrth.
Y rhain oedd Graham Oliver, Is-gomander o HMS Eaglet; Gary Johnston, Swyddog Gwarant 2 o HMS Eaglet; Edward Ditchfield, Llongwr Abl 2 o HMS Eaglet; Paul Burrows, Prif Hyfforddwr Catrodol o Lu Cadetiaid y Fyddin Clwyd a Gwynedd; Charmaine Lloyd, Uwch Gapten o Lu Cadetiaid y Fyddin Clwyd a Gwynedd; a Stephen Davies, Sarjant Hyfforddwr Staff o Lu Cadetiaid y Fyddin Clwyd a Gwynedd.
Cafodd llwyddiannau tri cadet yr Arglwydd Raglaw eu cydnabod a鈥檜 dathlu yn ystod y digwyddiad, lle鈥檙 oedd bron i 80 o bobl yn bresennol.
Fe wnaeth Owen Brumby, Sarjant Gad茅t o Lu Cadetiaid Cyfun Ysgol Santes Ffraid; Lewis Hughes,聽 Swyddog Gwarant Cadetiaid o Adain Gymreig Rhif 2 Cadetiaid Awyr yr RAF; ac Alun Hughes, Sarjant Gad茅t Hedfan o Adain Gymreig Rhif 2 Cadetiaid Awyr yr RAF, roi braslun o鈥檜 cyfnod yn y cadetiaid i鈥檙 gynulleidfa, gan gynnwys uchafbwyntiau eu rolau dros y 12 mis diwethaf.
Mae r么l y cadetiaid hyn yn para tan fis Medi ac mae鈥檔 cynnwys mynychu digwyddiadau swyddogol gyda鈥檙 Arglwydd Raglaw, fel digwyddiadau Coffa, ymweliadau Brenhinol a gorymdeithiau.
Dewiswyd y tri ar gyfer r么l anrhydeddus cadetiaid yr Arglwydd Raglaw ar 么l cael eu henwebu gan arweinwyr grwpiau cadetiaid a Chymdeithas y Lluoedd Wrth Gefn a鈥檙 Cadetiaid yng Nghymru.
Hefyd yn ystod y noson cyflwynwyd tair gwobr hir-wasanaeth i aelodau o Lu Cadetiaid y Fyddin.
Dyfarnwyd Medal Lluoedd y Cadetiaid i鈥檙 Is-swyddog Oedolion Bradley Burn a鈥檙 Hyfforddwr Rhingyll Staff Gareth Griffith, ill dau o Lu Cadetiaid y Fyddin Clwyd a Gwynedd. A chyflwynwyd y 5ed Clasbyn i Fedal Lluoedd y Cadetiaid i Gapten Merv Jones, hefyd o Lu Cadetiaid y Fyddin Clwyd a Gwynedd.
聽Mae bron i 5,000 o gadetiaid yng Nghymru yn ennill sgiliau a chymwysterau drwy weithio gydag elusennau a chymunedau lleol, yn ogystal 芒 chymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau ymarferol.
Mae maes llafur y cadetiaid yn cael ei gyflawni gan 1,850 o hyfforddwyr gwirfoddol a chynorthwywyr sifiliad, sy鈥檔 rhoi o鈥檜 hamser rhydd gyda鈥檙 nos yn ystod yr wythnos ac ar benwythnosau.
Cafodd y digwyddiad gwobrwyo ei drefnu gan Gymdeithas Cadetiaid a Lluoedd Wrth Gefn Cymru (RFCA) 鈥� sefydliad sydd wedi cefnogi鈥檙 Lluoedd Arfog ers dros 100 mlynedd.