Llywodraeth y DU yn croesawu adroddiad ar ddyfodol datganoli yng Nghymru
Ysgrifennydd Gwladol Cymru yn derbyn adroddiad Comisiwn ar Ddatganoli yng Nghymru
Welsh Secretary is presented with Silk Part II by Paul Silk
Heddiw (3 Mawrth 2014), fe wnaeth Llywodraeth y DU groesawu cyhoeddi adroddiad gan y Comisiwn ar Ddatganoli yng Nghymru (‘Comisiwn Silk�) sy’n cyflwyno argymhellion clir ar gyfer dyfodol datganoli yng Nghymru.
Mae’r adroddiad wedi archwilio pwerau Cynulliad Cenedlaethol Cymru ac yn cynnig 61 o argymhellion ar gyfer newidiadau i’r setliad datganoli presennol.
Mae cyhoeddi adroddiad Rhan II heddiw yn dirwyn gwaith y Comisiwn Silk i ben. Sefydlwyd y Comisiwn Silk gan Swyddfa Cymru yn 2011 i adolygu’r trefniadau ariannol a chyfansoddiadol presennol yng Nghymru.
Bydd Llywodraeth y DU yn ystyried yr argymhellion a’u goblygiadau yn llawn.
Dywedodd y Prif Weinidog David Cameron:
Rwy’n falch o record y Llywodraeth hon o ran cyflawni dros Gymru a chyflawni datganoli pellach. Bydd y pwerau treth a benthyca rydym yn eu datganoli yn rhoi dulliau ychwanegol i Gynulliad Cymru a Llywodraeth Cymru helpu i greu twf economaidd ac mae’r adroddiad heddiw yn gwneud argymhellion sy’n cynnig llwybr newydd ar gyfer y dyfodol.
Gwn y bydd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, a chydweithwyr ar draws y Llywodraeth, yn ystyried pob un o’r argymhellion yn ofalus.
Dywedodd y Dirprwy Brif Weinidog, Nick Clegg:
Un o’m prif flaenoriaethau yw sicrhau bod pŵer yn cael ei ddatganoli o San Steffan. Dyma un o gyflawniadau mwyaf clodwiw’r Glymblaid, ac mae’n hanfodol os ydym am barhau i adeiladu economi gref mewn cymdeithas deg yng Nghymru.
Mae Paul Silk a’r Comisiwn yn haeddu diolch a llongyfarchiadau gan Gymru a gweddill y DU am y gwaith difrifol a phwysig y maent wedi’i wneud. Rydym wedi bod yn ddiamwys o ran ein parodrwydd i roi’r set gyntaf o argymhellion ar waith, fel y dangoswyd gan Fil Drafft Cymru y craffwyd arno’n ddiweddar.
Gallai’r mesurau arfaethedig olygu newidiadau mawr i bawb yng Nghymru: penderfyniadau mwy lleol ynglŷn â sut mae’ch trethi yn cael eu gwario, mwy o bwerau dros faint mae Cymru yn benthyca, ac yn bwysicach na dim, mwy o benderfyniadau am Gymru gan bobl Cymru. Rwyf nawr yn croesawu’r ail adroddiad hwn sy’n cynnig ffordd i fynd â datganoli rhagddo.
Dywedodd David Jones, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:
Mae’r Llywodraeth hon wedi cadarnhau yn gyson ei hymrwymiad clir i ddatganoli, ac rydym yn croesawu’n gynnes ail adroddiad y Comisiwn sy’n cyflwyno ei argymhellion ynglŷn â sicrhau bod datganoli yn llwyddo yng Nghymru.
Mae’r adroddiad yn codi cwestiynau hollbwysig ynghylch dyfodol llywodraethu Cymru yn y Deyrnas Unedig. Felly, mae’n gwbl briodol ein bod yn cymryd amser i ystyried yn llawn pob un o’r argymhellion a’u goblygiadau.
Byddwn yn ystyried gweithredu rhai o’r newidiadau y mae’r Comisiwn wedi’u hargymell yn ystod y Senedd hon. Ond does dim digon o amser yn y Senedd hon i weithredu unrhyw newidiadau sydd angen deddfwriaeth sylfaenol.
Bydd y rhain felly yn fater i’r Llywodraeth a’r Senedd nesaf, ac i’r pleidiau gwleidyddol gyflwyno eu cynigion a’u bwriadau i’r etholaeth cyn yr Etholiad Cyffredinol yn 2015.
Dywedodd Gweinidog Swyddfa Cymru, y Farwnes Randerson:
Siwrnai yw Datganoli yng Nghymru ac mae’r adroddiad yn cynnwys argymhellion ar draws Cymru ynghylch camau nesaf posibl y siwrnai. Rydym yn edrych ymlaen at adolygu’r argymhellion ac yn diolch i’r Comisiwn am yr amser a’r ymroddiad y mae wedi’u buddsoddi wrth lunio’r adroddiad hwn.
Cyhoeddodd y Comisiwn adroddiad ar Ran I ei gylch gwaith ym mis Tachwedd 2012 yn argymell datganoli pwerau cyllidol i’r Cynulliad Cenedlaethol. Mae’r Llywodraeth yn rhoi ar waith bron bob un o’r argymhellion a wnaed yn yr adroddiad hwnnw, a bydd yn bwrw ymlaen â Bil Cymru i ddatganoli pwerau treth a benthyca Cymru cyn gynted ag y bydd yr amser seneddol yn caniatáu.
Ychwanegodd David Jones, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:
Mae cyhoeddi’r adroddiad heddiw yn ben llanw dwy flynedd o waith caled y Comisiwn, dan arweiniad Paul Silk.
Maent wedi cynhyrchu dau adroddiad trylwyr, sydd wedi’u hymchwilio’n dda ac sy’n nodi safbwyntiau a barn pobl ledled Cymru, a byddant yn cael eu cofnodi fel cyfraniadau pwysig at ddatganoli yng Nghymru. Hoffwn dalu teyrnged i bawb sydd wedi gwasanaethu ar y Comisiwn a’u hymroddiad i gyflawni eu cylch gwaith.