Datganiad i'r wasg

Gweinidogion Swyddfa Cymru yn nodi Sul y Cofio

Gweinidogion Swyddfa Cymru Alun Cairns a Guto Bebb yn cymryd rhan mewn gwasanaethau Dydd y Cofio yng Nghaerdydd ac yn Llundain

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2016 to 2019 May Conservative government
Poppy Field

Poppy Field

Bydd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Alun Cairns a Gweinidog Swyddfa Cymru, Guto Bebb yn cymryd rhan mewn gwasanaethau yng Nghaerdydd ac yn Llundain fel rhan o ddigwyddiadau Dydd y Cofio.

Ar ddydd Mercher 9 Tachwedd, bydd Gweinidog Swyddfa Cymru, Guto Bebb yn mynd i wasanaeth ym Maes Coffa Cenedlaethol Cymru yng Nghastell Caerdydd, lle bydd yn darllen 鈥樆使谔逵齛pp Exhortation鈥� yn Gymraeg.

Ar Sul y Cofio, 13 Tachwedd, bydd Alun Cairns yn mynd i Wasanaeth Cofio Cenedlaethol yn y Senotaff yn Whitehall yn Llundain.

Dywedodd Alun Cairns, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:

Ar Sul y Cofio, myfyriwn ar yr aberth a wnaed mewn rhyfeloedd ledled y byd ac achubwn ar y cyfle yma i gofio am ddewrder ac ymroddiad ein milwyr. Mae鈥檔 anrhydedd ac yn fraint i mi gynrychioli pobl Cymru yn y Senotaff.

Byddaf yn cofio am y dynion a鈥檙 merched o Gymru sydd wedi tyngu llw i wasanaethu ein gwlad, dramor neu gartref. Dylem dalu teyrnged i broffesiynoldeb ac ymrwymiad y milwyr hyn bob dydd wrth wasanaethu ac amddiffyn ein gwlad.

Dywedodd Guto Bebb:

Mae鈥檔 bwysig i ni fanteisio ar y cyfle hwn i ddiolch am yr aberth a gaiff ei wneud bob dydd ar ein rhan gan gynifer o ddynion a merched dewr ledled y byd a dangos ein gwerthfawrogiad iddyn nhw.

Dylem dalu teyrnged i鈥檙 holl filwyr, yn awr ac yn y gorffennol, sydd wedi gwasanaethu鈥檙 wlad yma mor rhagorol. Mae鈥檔 ddyletswydd arnon ni i gofio ac anrhydeddu鈥檙 meirwon ac mae heddiw yn gyfle i ni wneud hynny.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 9 Tachwedd 2016