Ysgrifennydd Gwladol Cymru yn cydnabod cyflawniadau eithriadol derbynwyr Anrhydeddau Pen-blwydd y Frenhines
Gohiriwyd y cyhoeddiad o'r haf er mwyn nodi ymdrechion unigolion sydd wedi chwarae rolau hollbwysig yn ystod misoedd cyntaf ymdrech COVID-19

Heddiw (dydd Gwener 9 Hydref), mae Ysgrifennydd Gwladol Cymru Simon Hart wedi cydnabod llwyddiannau dros 100 o bobl yng Nghymru sydd wedi derbyn gwobrau drwy restr Anrhydeddau Pen-blwydd y Frenhines.
Gohiriwyd y rhestr o fis Mehefin er mwyn anrhydeddu pobl sy鈥檔 gwneud cyfraniad eithriadol i fynd i鈥檙 afael 芒鈥檙 coronafeirws yn eu cymunedau. Mae鈥檔 cynnwys cynrychiolwyr o wasanaethau rheng flaen megis staff y GIG, pobl sy鈥檔 darparu bwyd a nwyddau, gweithwyr addysg broffesiynol yn ogystal 芒鈥檙 rhai sy鈥檔 darparu gwasanaethau cymdeithasol a chymunedol.
Mae esiamplau o鈥檙 rheini a gafodd eu hanrhydeddu yn cynnwys Elizabeth Waters, Nyrs Ymgynghorol ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan sy鈥檔 derbyn MBE am wasanaethau i鈥檙 GIG yng Nghymru. Mae John Challenger o Sir y Fflint yn derbyn BEM ar gyfer gwasanaethau i bobl ifanc yng ngogledd-orllewin y DU yn ystod COVID-19 yn dilyn ei r么l yn cadw 2,300 o Gadetiaid y M么r ar draws Gogledd Cymru a Gogledd Orllewin Lloegr gyda鈥檌 gilydd yn rhithiol yn ystod y cyfnod clo. Mae Julie Cook, Cydweithiwr Cymunedol yn Asda o Aberd芒r hefyd yn derbyn BEM ar gyfer gwasanaethau i鈥檙 gymuned yn ystod COVID-19 ar 么l cael ei chydnabod am ei r么l yn hybu mor芒l, gofalu am bobl sy鈥檔 agored i niwed a goruchwylio rhoddion i elusennau lleol.
O fyd chwaraeon adloniant, mae cyn-hyfforddwr rygbi Cymru Warren Gatland yn derbyn CBE am wasanaethau i rygbi yng Nghymru. Mae Gareth Thomas, cyn-gapten Cymru ac ymgyrchydd elusennol HIV, yn derbyn CBE am wasanaethau i chwaraeon ac iechyd, tra bod chwaraewr rygbi gwrywaidd gyda鈥檙 nifer fwyaf o gapiau yng Nghymru a鈥檙 capten presennol Alun Wyn Jones yn derbyn OBE am wasanaethau i Rygbi鈥檙 Undeb yng Nghymru. Mae鈥檙 gantores opera Rebecca Evans hefyd yn derbyn CBE am wasanaethau i鈥檙 celfyddydau yng Nghymru.
Dywedodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru Simon Hart:
Dwywaith y flwyddyn rydym yn cydnabod cyflawniadau a gwasanaeth pobl eithriadol ledled y Deyrnas Unedig, mewn ystod eang o broffesiynau, diwydiannau a chymunedau.
Ond mae鈥檙 cyhoeddiad am Anrhydeddau Pen-blwydd y Frenhines eleni yn dod ar adeg anhygoel o ingol wrth i ni barhau i ymladd effaith coronafeirws. Mae llawer o鈥檙 rhai a anrhydeddwyd heddiw yn cynnwys y rhai sydd nid yn unig yn gwasanaethu eu cymunedau鈥檔 anhunanol ond sydd hefyd yn gyfrifol am gynllunio ymateb Cymru i鈥檙 feirws a gofalu am y rhai sy鈥檔 dioddef ei ganlyniadau.
Estynnaf fy niolchgarwch o鈥檙 galon i bawb a anrhydeddwyd heddiw a hoffwn eu llongyfarch ar eu cyflawniadau unigol.
DIWEDD
Ceir rhestr lawn o鈥檙 bobl sy鈥檔 derbyn anrhydeddau ar wefan Swyddfa鈥檙 Cabinet.