Stori newyddion

Ysgrifennydd Gwladol Cymru yn ymweld ag Aberdaugleddau wrth i Lywodraeth y DU osod allan eu cynlluniau porthladd rhydd i hybu鈥檙 economi

Mae Llywodraeth y DU wedi lansio ymgynghoriad gyda鈥檙 nod o gyhoeddi porthladdoedd rhydd newydd ar ddiwedd 2021

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2019 to 2022 Johnson Conservative government
From L-R Chris Martin (Chairman MHPA), Welsh Secretary Simon Hart and Andy Jones (CEO MHPA)

From L-R Chris Martin (Chairman MHPA), Welsh Secretary Simon Hart and Andy Jones (CEO MHPA) at Milford Haven Port Authority

Bu Simon Hart, Ysgrifennydd Gwladol Cymru yn ymweld ag Awdurdod Porthladd Aberdaugleddau heddiw i drafod yr ymgynghoriad porthladd rhydd a gafodd ei lansio heddiw (Dydd Llun 10 Chwefror) gan Lywodraeth y DU.

Bydd yr ymgynghoriad yn ystyried y broses o greu canolfannau cenedlaethol newydd ar gyfer menter a busnes a fydd yn cael eu hagor ar draws y DU. Disgwylir i鈥檙 canolfannau greu miloedd o swyddi, adfywio cymunedau a rhoi hwb i economi鈥檙 DU.

Bydd hyd at ddeg o borthladdoedd rhydd newydd yn cael eu hagor ar draws y DU wrth i Lywodraeth y DU geisio manteisio ar y cyfleoedd sy鈥檔 codi yn sgil gadael yr UE.

Mae鈥檙 ymgynghoriad wedi lansio gyda鈥檙 nod o gyhoeddi lleoliadau鈥檙 ardaloedd newydd ar ddiwedd y flwyddyn nesaf er mwyn iddynt fod ar agor i fusnesau yn 2021.

Yn 么l Ysgrifennydd Gwladol Cymru Simon Hart:

Bydd datblygiad y porthladdoedd rhydd yn creu canolfannau arloesol ar draws y DU gan gynhyrchu syniadau newydd mewn amryw o sectorau鈥檙 DU o gwsmeriaid i drafnidiaeth i ddatgarboneiddio.

Bydd porthladd rhydd yng Nghymru yn creu cannoedd swyddi a hwyluso twf economaidd. Dyna pam rwyf yn annog busnesau i ymgysylltu a鈥檔 ymgynghoriad a鈥檔 helpu ni i ryddhau ein potensial o ran arloesi, buddsoddiant a thwf. Wrth weithio鈥檔 agos gyda Llywodraeth Cymru a busnesau, byddwn yn sicrhau gall y DU gyfan deimlo鈥檙 manteision wrth i鈥檙 lywodraeth hon gyflawni yr hymrwymiadau yn ei maniffesto.

Meddai Prif Ysgrifennydd y Trysorlys, Rishi Sunak:

Bydd y porthladdoedd rhydd yn rhyddhau potensial ein porthladdoedd hanesyddol balch a rhoi hwb i gymunedau ar draws y DU wrth i ni lefelu fyny. Bydd hyn yn denu busnesau newydd, lledaenu swyddi, buddsoddiadau a chyfleoedd i drefi a dinasoedd ar hyd a lled y wlad.

Mae hyn yn rhan o鈥檔 cenhadaeth fel gwlad sy鈥檔 edrych allan, sy鈥檔 hyrwyddo masnach rydd fyd-eang gyda phorthladdoedd rhydd sy鈥檔 gweithio i bawb yn y DU.

Bydd porthladdoedd rhydd yn cynnig cyfle cyffrous i鈥檙 tollau arloesol, trafnidiaeth a thechnolegau gwyrdd i gael eu treialu mewn amgylchiadau o dan reolaeth, cyn cael eu mabwysiadu鈥檔 ehangach mewn sectorau perthnasol o鈥檙 economi. Bydd Llywodraeth y DU yn gweithio鈥檔 agos mewn partneriaeth gyda鈥檙 gweinyddiaethau datganoledig fel gall holl genhedloedd y DU rhannu manteision y porthladdoedd rhydd.

Gall manteision model y porthladdoedd rhydd 2020 gynnwys:

  • Ni fydd y nwyddau a ddaw mewn i鈥檙 porthladdoedd rhydd yn denu tollau nes iddynt adael y porthladdoedd rhydd a mynd mewn i鈥檙 farchnad ddomestig.

  • Ni fydd toll yn daladwy os c芒nt eu hail-allforio.

  • Pan fydd deunyddiau crai yn cael eu mewnforio a鈥檌 phrosesu mewn i nwyddau terfynol, bydd tollau ond yn cael eu talu ar y nwyddau terfynol

  • Gall porthladdoedd rhydd gael eu lleoli yn fewndirol yn ogystal ag yn agos i borthladdoedd. Gall hyn leihau costau adleoli neu gostau buddsoddi ar gyfer safleoedd gweithgynhyrchu presennol ger porthladdoedd.

  • Ni fydd angen datganiad tollau llawn i symud nwyddau i mewn i borthladd rhydd. Bydd hyn yn arbed amser busnes a鈥檌 gwneud yn haws i fewnforio nwyddau.

  • Diwygiadau cynlluniau i helpu porthladdoedd m么r i ddatblygu o fewn eu ffiniau a rhoi p诺er i gynghorau lleol i gymeradwyo prosiectau adeiladu lleol angenrheidiol

  • Agenda adfywio i godi鈥檙 ardaloedd lleol o amgylch y porthladdoedd rhydd

  • Amgylchiadau arloesol i dreialu technolegau newydd

  • Mentrau yn seiliedig ar her i feithrin partneriaethau rhwng porthladdoedd, busnesau ac arloeswyr

Yn ogystal, mae Llywodraeth y DU yn ystyried mesurau treth gyda鈥檙 nod i:

  • gynyddu buddsoddiadau mewn seilwaith adeiladwaith a pheiriannau mewn porthladdoedd rhydd i godi cynhyrchiant

  • cymell ymchwil i ysgogi arloesedd mewn porthladdoedd rhydd

  • torri costau sy鈥檔 gysylltiedig 芒 phrosesu nwyddau drwy borthladd

  • lleihau鈥檙 costau o gyflogi gweithwyr sy鈥檔 gweithio mewn safleoedd y porthladdoedd rhydd

Ni fydd safonau uchel y DU o ran diogelwch, hawliau gweithwyr a鈥檙 amgylchedd yn cael eu peryglu.

Pan fydd yr ymgynghoriad 10 wythnos yn cael ei gwblhau [link to condoc], bydd Llywodraeth y DU yn gwahodd porthladdoedd awyr, y m么r a rheilffyrdd i gyflwyno cais am statws porthladdoedd rhydd ar sail gystadleuol.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 10 Chwefror 2020