Aelod anweithredol o'r bwrdd, SED (IPO)

Catherine Salway

Bywgraffiad

Penodwyd Catherine Salway yn gyfarwyddwr anweithredol yn y Swyddfa Eiddo Deallusol ym mis Medi 2024.

Mae Catherine yn Gyfarwyddwr Bwrdd profiadol, â 7 mlynedd o brofiad ar fyrddau yn y Grŵp Virgin yn flaenorol.

Roedd Catherine yn ymddiriedolwr elusen am 8 mlynedd ar gyfer Partners for Change Ethiopia, ac arweiniodd y sefydliad ar drawsnewid strategol a strwythurol tuag at fenter gymdeithasol fodern a chynaliadwy. Rhwng 2012 a 2023, sefydlodd Catherine Redemption, brand cynaliadwy, fegan a enillodd glod beirniadol ac a weinwyd mewn tri bwyty poblogaidd yn Llundain.

Aelod anweithredol o'r bwrdd, SED (IPO)

¸éô±ô ein Bwrdd Llywio yw cynghori Gweinidogion, drwy ein Cyfarwyddwr Cyffredinol, ar ein strategaethau a’n perfformiad (gan gynnwys targedau) fel y nodir yn ein Cynllun Corfforaethol. Mae hefyd yn darparu arweiniad o safbwynt masnachol ar ein gweithrediad a’n datblygiad ar draws ystod o faterion.

Yn ystod y 12 mis diwethaf, mae’r Bwrdd Llywio wedi darparu cyngor ac arweiniad ar ystod eang o bynciau, megis ein Cynllun Corfforaethol, Targedau Asiantaeth, Polisi Eiddo Deallusol, Cyfrifon a Rheoli Risg.

Mae’r Bwrdd Llywio yn cwrdd chwe gwaith y flwyddyn.

Intellectual Property Office