Papur polisi

Polisi Tŷ’r Cwmnïau ar yr amgylchedd 2025

Diweddarwyd 20 Mai 2025

Asiantaeth Weithredol o fewn yr Adran Busnes a Masnach (DBT) yw Ty’r Cwmnïau. Mae ganddo dair prif swyddogaeth:

  • corffori, ailgofrestru a diddymu cwmnïau
  • cofrestru dogfennau y mae’n rhaid eu ffeilio o dan ofynion y Ddeddf Cwmnïau
  • darparu gwybodaeth am gwmnïau i’r cyhoedd

Mae Tŷ’r Cwmnïau’n cydnabod yr angen i fusnesau weithredu mewn modd mwy cynaliadwy, gan roi sylw i ystyriaethau economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol. Nod yr Asiantaeth yw gweithredu mewn ffordd gynaliadwy fel bod yr ystyriaethau hyn yn dod yn rhan annatod a sylfaenol o’i gweithrediadau busnes.

Er bod risg isel, mae Tŷ’r Cwmnïau’n gwybod bod ei weithrediadau o ddydd i ddydd yn cael effaith ar yr amgylchedd naturiol. Ymdrinnir â’r effeithiau hyn trwy weithredu system rheoli amgylcheddol lle mae risgiau’n cael eu rheoli ac effeithlonrwydd yn cael eu nodi.

Caiff holl effeithiau amgylcheddol sylweddol gweithrediadau’r Asiantaeth eu hasesu a chaiff amcanion a thargedau eu gosod a’u hadolygu, er mwyn hybu gwelliant parhaus ein perfformiad amgylcheddol.

Bydd Tŷ’r Cwmnïau’n:

  • diogelu’r amgylchedd a sicrhau bod y polisi hwn yn cael ei gyfathrebu a’i weithredu ar bob lefel yn y gweithlu
  • cymryd pob cam rhesymol i sicrhau bod unrhyw achos o lygredd yn cael ei atal a bod diogelwch yr amgylchedd naturiol yn cael ei ddiogelu
  • fel isafswm, cydymffurfio â phob rhwymedigaeth cydymffurfio ac adolygu’r gofrestr cydymffurfio yn flynyddol
  • darparu adnoddau priodol a’r hyfforddiant angenrheidiol i staff a chontractwyr os yn berthnasol, i sicrhau y gallant gyflawni’r ymrwymiad a roddir yn y polisi hwn
  • lleihau’r ynni, dŵr a deunyddiau a ddefnyddir, a’r gwastraff a gynhyrchir o holl weithrediadau’r Asiantaeth, adrodd am ein Hymrwymiadau Llywodraeth Werdd i’r Adran Busnes a Masnach (DBT) bob chwarter
  • hybu rhan weithredol yn y gwaith o gynorthwyo’r gymuned leol a gwella ein hamgylchedd lleol
  • gweithio ar y cyd ag Asiantaeth Eiddo’r Llywodraeth a darparwr Rheoli Cyfleusterau Cyflawn ar y safle drwy roi mesurau rheoli ar waith i atal llygredd o’n gweithgareddau

Mae’r ddogfen bolisi hon ar gael o wneud cais i unrhyw bartïon allanol sydd â diddordeb.

Cymeradwywyd ac arwyddwyd y ddogfen bolisi hon ar 15 Mai 2025 gan Louise Smyth, Prif Weithredydd Tŷ’r Cwmnïau a Chofrestrydd Cwmnïau Cymru a Lloegr.