Bwletin y Cyflogwr: Rhagfyr 2022
Cylchgrawn a gyhoeddir bob deufis ar gyfer cyflogwyr ac asiantau, sy’n rhoi gwybodaeth i’r funud ynghylch materion y gyflogres.
Dogfennau
Manylion
Mae CThEF yn cyhoeddi Bwletin y Cyflogwr 6 gwaith y flwyddyn. Mae’r Bwletin yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i gyflogwyr ac asiantau ynghylch materion a allai effeithio arnynt.
Mae rhifyn mis Rhagfyr o Fwletin y Cyflogwr yn cynnwys erthyglau ar y canlynol:
- gostyngiad yng nghyfradd cyfraniadau Yswiriant Gwladol o 6 Tachwedd 2022 ymlaen � arweiniad wedi’i ddiweddaru
- talu treuliau a buddiannau drwy’r gyflogres ar gyfer blwyddyn dreth 2023 i 2024
- Treth Deunydd Pacio Plastig � gwiriwch a oes angen i’ch busnes gofrestru
- newidiadau i gyfraddau Treth Car Cwmni o fis Ebrill 2025 ymlaen
- Cynllun y Diwydiant Adeiladu � ceisiadau am ddatganiadau o daliadau a didyniadau
- y Bwrdd Cynghori Beichiau Gweinyddol (ABAB) � Adroddiad Dweud wrth ABAB 2021 i 2022
Gallwch gofrestru ar gyfer er mwyn cael e-byst oddi wrth CThEF sy’n rhoi gwybod i chi pan fydd y rhifyn diweddaraf ar gael.
Gallwch ddarllen Bwletin y Cyflogwr ar y sgrin neu ei argraffu. Mae’n cyd-fynd â’r rhan fwyaf o becynnau meddalwedd darllen sgrin.