Gwrthwynebu cofrestru atwrneiaeth
Ffurflenni ar gyfer gwrthwynebu cofrestru atwrneiaeth arhosol neu atwrneiaeth barhaus.
Documents
Details
Defnyddiwch y ffurflenni hyn i wrthwynebu i rywun gofrestru atwrneiaeth arhosol (LPA) neu atwrneiaeth barhaus (EPA).
I wrthwynebu cofrestru LPA, defnyddiwch:
- LPA006 os chi yw rhoddwr yr LPA ac rydych eisiau gwrthwynebu am unrhyw reswm
- LPA007 os ydych yn atwrnai neu’n ‘unigolyn i’w hysbysu� ac rydych eisiau gwrthwynebu ar sail ffeithiol
- LPA008 os ydych yn unrhyw un (gan gynnwys atwrnai neu ‘unigolyn i’w hysbysu�) sydd eisiau gwrthwynebu am resymau eraill (sef ‘sail ragnodedig�)
Os ydych eisiau gwrthwynebu ar sail ragnodedig, mae’n rhaid ichi hefyd a thalu ffi o £400.
I wrthwynebu cofrestru EPA:
- defnyddiwch ffurflen EP3PG os rhoddwyd gwybod ichi am y cofrestru
- os na roddwyd gwybod ichi
I wneud cais am unrhyw ddogfen mewn fformat arall, megis Braille, recordiad sain neu brint bras, anfonwch e-bost i [email protected]. Dylech gynnwys eich cyfeiriad a’ch rhif ffôn a theitl y ddogfen y mae arnoch ei hangen.
Mae’r dudalen hon hefyd ar gael yn Saesneg (English).