Deunydd hyrwyddo

Dydyn ni erioed wedi cael cyfle gwell i allforio dramor

Mae gan Lywodraeth y DU fynediad at un o’r rhwydweithiau rhyngwladol mwyaf ymysg sefydliadau hybu masnach.

This publication was withdrawn on

Department for International Trade withdrew this publication because it was out of date.

Dogfennau

Gwneud cais am fformat hygyrch.
Os ydych chi'n defnyddio technoleg gynorthwyol (er enghraifft, rhaglen darllen sgrin) a bod angen fersiwn o'r ddogfen hon arnoch mewn fformat mwy hygyrch, e-bostiwch [email protected]. Rhowch wybod i ni pa fformat sydd ei angen arnoch. Bydd yn ein helpu ni os byddwch chi'n dweud pa dechnoleg gynorthwyol rydych chi'n ei defnyddio.

Gwneud cais am fformat hygyrch.
Os ydych chi'n defnyddio technoleg gynorthwyol (er enghraifft, rhaglen darllen sgrin) a bod angen fersiwn o'r ddogfen hon arnoch mewn fformat mwy hygyrch, e-bostiwch [email protected]. Rhowch wybod i ni pa fformat sydd ei angen arnoch. Bydd yn ein helpu ni os byddwch chi'n dweud pa dechnoleg gynorthwyol rydych chi'n ei defnyddio.

Manylion

A ydych chi wedi ystyried allforio nwyddau neu wasanaethau eich cwmni i farchnadoedd rhyngwladol, ond ddim yn siŵr ble i ddechrau? Neu a ydych chi eisoes yn allforio nwyddau neu wasanaethau dramor ond yn awyddus i wneud mwy?

Os mai ‘ydw� yw eich ateb i unrhyw un o’r cwestiynau hyn, mae Llywodraeth y DU yma i’ch ysbrydoli chi, i roi cyngor i chi ac i’ch helpu chi ar eich taith allforio.

Gallwn ddarparu’r adnoddau sydd eu hangen arnoch i allforio, er enghraifft, cymorth ariannol, cyllid ar gyfer sioeau masnach dramor a manylion darpar brynwyr dramor.

Mae gan Lywodraeth y DU fynediad at un o’r rhwydweithiau rhyngwladol mwyaf ymysg sefydliadau hybu masnach. Mae ein 1,200 o staff ymroddedig mewn 109 o wledydd ledled y byd yn adnodd o’r radd flaenaf ar gyfer busnesau yng Nghymru.

Mae’r daflen amgaeedig yn rhoi manylion ynghylch y cymorth mae Llywodraeth y DU yn ei gynnig, yn ogystal ag enghreifftiau o gwmnïau sydd wedi gweithio gyda ni er mwyn bod yn allforwyr llwyddiannus.

Ni fu erioed amser gwell i gwmnïau yng Nghymru allforio eu cynnyrch a’u gwasanaethau i farchnadoedd newydd.

Rwyf wirioneddol yn gobeithio y bydd eich cwmni yn gallu ymuno â’r miloedd o fusnesau eraill yng Nghymru sydd eisoes yn allforio. Rwyf yn sicr y bydd y deunydd hwn yn eich helpu chi i wneud hynny drwy roi hyder i chi a’ch darbwyllo bod Allforio yn WYCH.

Alun Cairns - Ysgrifennydd Gwladol Cymru

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 3 Ebrill 2017

Argraffu'r dudalen hon