Canllawiau fideo ar delerau annheg mewn contractau defnyddwyr
Mae’r fideos byr hyn wedi’u hanimeiddio yn helpu busnesau i ddeall rhagor am y gyfraith ynglŷn â defnyddio telerau ac amodau annheg gyda defnyddwyr.
Dogfennau
Manylion
Mae angen i fusnesau sy’n delio â defnyddwyr sicrhau bod eu telerau yn rhai teg. Mae Deddf Hawliau Defnyddwyr 2015 yn diogelu defnyddwyr rhag telerau a hysbysiadau contractau annheg.
Mae’r fideos hyn yn amlinellu rhai o’r prif bethau sydd angen i fusnesau ei wybod ynglŷn â chyfraith telerau contractau defnyddwyr.
Nodwch, nid rhywbeth i’w defnyddio yn hytrach na’r ddeddfwriaeth ei hun yw’r deunyddiau hyn nac ychwaith yn fodd i geisio cyngor cyfreithiol annibynnol. Maent yn rhoi cyflwyniad i farn y CMA, ond yn y pen draw y llysoedd sydd â’r grym i ddefnyddio a dehongli’r ddeddfwriaeth.
Ewch i restr chwarae i gael rhestr lawn o fideos