Caniatáu i rywun arall reoli eich cyfrif benthyciad myfyrwyr
Gallwch ganiatáu i unigolyn arall neu sefydliad helpu i reoli eich cyfrif neu weithredu ar eich rhan.
Yn berthnasol i Loegr
Gallwch roi caniatâd i’r Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr yn y ffyrdd canlynol:
1. Caniatâd i rannu
Mae caniatâd i rannu’n caniatáu i’r Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr siarad am eich cyfrif â rhywun yr ydych wedi rhoi caniatâd iddo. Ni fyddwn yn trafod eich manylion banc.
Sut mae rhoi caniatâd
Gallwch sefydlu hyn yn eich cyfrif ar-lein trwy ddewis ‘rhannu eich gwybodaeth cyllid myfyriwr�. Mae angen i chi roi’r wybodaeth ganlynol i ni:
- eich Rhif Cyfeirnod Cwsmer
- eich enw a’ch cyfeiriad
- enw llawn y person neu’r sefydliad yr ydych am roi caniatâd iddo
- ei gyfeiriad llawn, gan gynnwys y cod post
- ei ddyddiad geni llawn
- ei berthynas â chi
- cyfrinair y byddwn yn gofyn i’r trydydd parti ei gadarnhau. Bydd angen iddo fod yn wahanol i’r cyfrinair sydd gennych i fewngofnodi i’ch cyfrif.
- y dyddiad y daw’r caniatâd i ben
Gallwch hefyd sefydlu hyn trwy alw neu ysgrifennu at SLC.
Rhaid i’r person neu’r sefydliad allu cadarnhau’r holl fanylion hyn cyn y gallwn drafod gwybodaeth eich cyfrif gyda nhw.
2. Atwrneiaeth
Mae atwrneiaeth yn ddogfen gyfreithiol swyddogol sy’n eich galluogi i enwi rhywun a all ofyn am wybodaeth am eich cyfrif neu ddiweddaru gwybodaeth ynddo. Rhaid i ddogfen yr atwrneiaeth gynnwys y cyfnod penodol y gall y person a enwebwyd weithredu fel atwrnai, a’r tasgau penodol y gall eu cyflawni.
Darllen mwy am y gwahanol fathau o atwrneiaeth.
3. Gorchymyn dirprwyaeth
Dirprwyaeth yw pan gaiff trydydd parti ei benodi’n ddirprwy i rywun os oes gan yr unigolyn hwnnw ‘ddiffyg galluedd meddyliol�. Mae hynny’n golygu na all yr unigolyn wneud penderfyniadau drosto’i hun ar yr adeg pan fo angen i’r penderfyniadau gael eu gwneud. Mae’n bosibl y bydd yr unigolyn yn dal yn gallu gwneud penderfyniadau drosto’i hun weithiau.
Darllen mwy am y gwahanol fathau o ddirprwyaeth ac am wneud penderfyniadau dros rywun â diffyg galluedd.
Sut mae trefnu atwrneiaeth neu orchymyn dirprwyaeth
Gallwch eu trefnu drwy ysgrifennu at y Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr. Rhaid i chi gynnwys eich dogfen ardystiedig ar gyfer yr atwrneiaeth neu’r gorchymyn dirprwyaeth yn ogystal â’r wybodaeth ganlynol:
- eich Rhif Cyfeirnod Cwsmer
- eich enw a’ch cyfeiriad
- enw llawn y person yr ydych am roi caniatâd iddo
- ei gyfeiriad llawn, gan gynnwys y cod post
- ei ddyddiad geni llawn
- ei berthynas â chi
Rhaid i’r person allu cadarnhau’r holl fanylion hyn cyn y gallwn drafod gwybodaeth eich cyfrif gyda nhw. Gall fod uchafswm o ddau berson a enwir ar eich cyfrif.
Updates to this page
-
Added in call out box to ouline repayment customers can't set up CTS online.
-
Updated 'How to give permission' section to match what's shown in customer accounts.
-
Added information on being able to setup Consent to share on their online account.
-
First published.