Newidiadau i daliadau lwfans oes yn dilyn y cynllun unioni pensiynau gwasanaeth cyhoeddus
Os oes gennych bensiwn preifat, yn dilyn y cynllun unioni pensiynau gwasanaeth cyhoeddus (a elwir yn McCloud), efallai y bydd yn rhaid i chi roi gwybod i’ch darparwr pensiwn am newidiadau, neu os oes gennych daliadau newydd i’w talu.
Os ydych chi’n aelod o gynllun pensiwn gwasanaeth cyhoeddus, ac wedi cael digwyddiad crisialu buddiannau o fewn y cynllun, efallai y bydd gennych newid i swm y lwfans oes a ddefnyddiwyd gan y digwyddiad hwnnw, a hynny o ganlyniad i’r cynllun unioni pensiynau gwasanaeth cyhoeddus.
Bydd eich cynllun pensiwn gwasanaeth cyhoeddus yn cyfrifo unrhyw newidiadau ac yn anfon datganiad digwyddiad crisialu buddiannau wedi’i ddiweddaru atoch os ydych chi’n cael eich effeithio. Mae’n rhaid i chi rannu’r datganiad hwn ag unrhyw ddarparwyr cynllun pensiwn eraill sydd gennych yn ystod digwyddiad crisialu buddiannau, gan y gall y cynllun hefyd gael ei effeithio.
Gallwch wneud y canlynol:
-
defnyddio’r canllaw Cyfrifo’ch addasiad i bensiwn cyhoeddus i gywiro eich sefyllfa dreth neu i gyfrifo unrhyw newidiadau yn eich lwfans blynyddol
Pwy sy’n agored i’r tâl lwfans oes
Cyn 6 Ebrill 2023, os oeddech chi’n mynd y tu hwn i’ch lwfans oes pensiwn a bod gennych dâl lwfans oes, byddwch chi a gweinyddwr eich cynllun wedi bod yn atebol ar y cyd am y tâl hwn.
Gall gweinyddwr eich cynllun pensiwn wneud cais i CThEF i gael ei ‘rhyddhau� o’i rwymedigaeth o dan amgylchiadau penodol, sy’n golygu mai chi yn unig sy’n atebol am y tâl � ni allwch wneud cais i gael eich rhyddhau o’ch rhwymedigaeth chi.
Os oes cynnydd yn swm y digwyddiad crisialu buddiannau, gall hyn arwain at dâl lwfans oes newydd neu dâl lwfans oes sydd wedi cynyddu ar gyfer pensiwn sector preifat. Os yw hyn yn digwydd o ganlyniad i’r cynllun unioni pensiynau gwasanaeth cyhoeddus, bydd gweinyddwr eich cynllun sector preifat yn gallu gwneud cais i gael rhyddhad o’r rhwymedigaeth hon.
Os yw’ch pensiwn preifat yn cael rhyddhau o’i rwymedigaeth
Os caiff eich gweinyddwr cynllun pensiwn sector preifat ei ryddhau o’i rwymedigaeth dros y tâl lwfans oes newydd neu’r tâl lwfans oes sydd wedi cynyddu, byddwn yn anfon asesiad atoch ar gyfer y tâl lwfans oes newydd.
Gallwch wneud un o’r canlynol:
- talu’r tâl (byddwn yn rhoi gwybod i chi sut y gallwch chi wneud hyn pan fyddwn yn cysylltu â chi)
- rhoi manylion eich gweinyddwr cynllun pensiwn gwasanaeth cyhoeddus i CThEF � bydd hyn yn eich gwneud chi a gweinyddwr eich cynllun yn atebol ar y cyd am y tâl
Os gofynnwch i’ch cynllun pensiwn gwasanaeth cyhoeddus dalu’r tâl, byddwn yn casglu’r dreth ychwanegol sy’n ddyledus werth weinyddwr y cynllun hwnnw. Unwaith y bydd gweinyddwr y cynllun pensiwn gwasanaeth cyhoeddus yn talu’r tâl, byddant yn addasu eich budd-daliadau pensiwn yn unol â hynny.