Canllawiau

Gwirio statws cyflogaeth ar gyfer treth

Defnyddiwch yr offeryn Gwirio Statws Cyflogaeth ar gyfer Treth (CEST) i weld a ddylech chi, neu weithiwr mewn swydd benodol, gael eich nodi’n gyflogedig neu’n hunangyflogedig at ddibenion treth.

Mae’r offeryn Gwirio Statws Cyflogaeth ar gyfer Treth yn rhoi barn CThEF am statws cyflogaeth gweithiwr, a hynny’n seiliedig ar yr wybodaeth a roddir gennych. Gellir hefyd ei ddefnyddio i wirio p’un a allai newidiadau i delerau contractiol neu drefniadau gweithio newid statws cyflogaeth gweithiwr.

Nid oes rhaid i chi ddefnyddio’r offeryn i wneud penderfyniadau o ran statws cyflogaeth, ond gall eich helpu i benderfynu ar y canlynol:

  • statws cyflogaeth gweithiwr neu unigolyn rydych yn ei gyflogi neu’n ei gynrychioli
  • p’un a yw’r rheolau gweithio oddi ar y gyflogres (IR35) (yn agor tudalen Saesneg) yn berthnasol i gontract
  • p’un a fydd CThEF yn eich ystyried yn gyflogedig neu’n hunangyflogedig at ddibenion treth a chyfraniadau Yswiriant Gwladol

Bydd CThEF yn glynu wrth bob penderfyniad a gynhyrchir gan yr offeryn, cyn belled â bod yr wybodaeth a rowch yn parhau i fod yn gywir a’i bod yn cael ei defnyddio yn unol â’n harweiniad (gweler yr adran canlyniadau). Gallwch ddefnyddio’r offeryn eto os yw’r canlynol yn wir:

  • bu newid i gontract neu gytundeb gwasanaeth presennol
  • nid yw’r wybodaeth a roddwyd gennych yn wreiddiol yn gywir mwyach

Nid oes angen i chi wybod pwy yw’r gweithiwr er mwyn defnyddio’r offeryn � byddwch yn dal i gael canlyniad. Gallwch ddefnyddio’r offeryn eto pan fydd rhagor o wybodaeth gennych a phan fyddwch yn gwybod pwy yw’r gweithiwr. Gall hyn alluogi’r offeryn i roi penderfyniad os nodwyd ‘methu â phenderfynu� fel y canlyniad blaenorol.

Pwy all ddefnyddio’r offeryn

Gallwch ddefnyddio’r offeryn os ydych yn un o’r canlynol:

  • huriwr
  • gweithiwr
  • asiantaeth neu drydydd parti

Hirwyr

Os ydych yn huriwr, defnyddiwch yr offeryn os yw’r canlynol yn wir:

  • rydych yn hurio, neu wedi hurio, gweithiwr yn uniongyrchol
  • rydych yn cael gwasanaethau gan weithiwr sy’n gweithredu drwy ei gyfryngwr ei hun 
  • bu newid i gontract neu gytundeb gwasanaeth presennol

Gweithwyr

Os ydych yn weithiwr, defnyddiwch yr offeryn os yw’r canlynol yn wir:

Mae’n bosibl y byddwch am ddefnyddio’r offeryn os oes unrhyw un o’r rhain yn berthnasol a bod newid wedi bod i gontract neu gytundeb gwasanaeth sydd ohoni.

Asiantaethau neu drydydd parti

Os ydych yn asiantaeth neu’n drydydd parti arall, defnyddiwch yr offeryn os ydych am wirio cywirdeb penderfyniad a roddwyd i chi.

Canlyniadau

Mae’r offeryn yn rhoi’r penderfyniadau canlynol yn seiliedig ar yr wybodaeth a rowch:

  • hunangyflogedig at ddibenion treth ar gyfer y gwaith hwn
  • cyflogedig at ddibenion treth ar gyfer y gwaith hwn
  • methu gwneud penderfyniad (o ran bod yn gyflogedig neu’n hunangyflogedig at ddibenion treth)
  • nid yw rheolau gweithio oddi ar y gyflogres (IR35) yn berthnasol
  • mae rheolau gweithio oddi ar y gyflogres (IR35) yn berthnasol
  • methu gwneud penderfyniad (ar gyfer p’un a yw rheolau gweithio oddi ar y gyflogres yn berthnasol)

Mae’n bosibl y byddwch yn cael canlyniad ‘methu â phenderfynu�. Os yw hyn yn digwydd, bydd arweiniad a gwybodaeth ychwanegol ar gael.

Bydd CThEF yn glynu wrth bob penderfyniad a gynhyrchir gan yr offeryn, cyn belled â bod yr wybodaeth a rowch yn parhau i fod yn gywir a’i bod yn cael ei defnyddio yn unol â’n harweiniad. Gallwch ddefnyddio’r offeryn eto os yw’r canlynol yn wir:

  • bu newid i gontract neu gytundeb gwasanaeth presennol
  • nid yw’r wybodaeth a roddwyd gennych yn wreiddiol yn gywir mwyach

Cyn i chi ddechrau

Er mwyn i ymrwymiad gael ei ystyried fel cyflogaeth neu hunangyflogaeth, mae rhaid bod contract ar waith. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn y Canllaw Statws Cyflogaeth (yn agor tudalen Saesneg).

Bydd angen i chi wybod y canlynol:

  • manylion y contract
  • cyfrifoldebau’r gweithiwr
  • pwy sy’n penderfynu pa waith sydd angen ei wneud
  • pwy sy’n penderfynu pryd, ble a sut y gwneir y gwaith
  • sut y caiff y gweithiwr ei dalu
  • a yw’r gwaith yn cynnwys unrhyw fuddiannau corfforaethol neu ad-daliadau ar gyfer treuliau

Efallai yr hoffech fwrw golwg dros arweiniad pellach ar ddefnyddio’r offeryn (yn agor tudalen Saesneg) mewn ffenestr ar wahân i’ch helpu wrth i chi ei ddefnyddio. 

Mae defnydd o’r offeryn yn anhysbys. Rydym yn cofnodi ac yn cyhoeddi gwybodaeth ychwanegol gan ddangos dadansoddiad o’r canlyniadau a’r rhesymeg ar gyfer yr offeryn CEST (yn agor tudalen Saesneg), gan ddangos dadansoddiad o’r canlyniadau a gynhyrchir gan yr offeryn. Nid ydym yn casglu manylion adnabod y rhai sy’n defnyddio’r offeryn.

Os byddwch yn cau’r offeryn CEST heb orffen y cwestiynau, bydd angen i chi ddechrau eto.

Os nad oes modd i chi wirio ar-lein, gallwch gysylltu â CThEF.

Ar ôl i chi ddefnyddio’r offeryn, byddwch yn gallu:

  • cadw ac argraffu’ch atebion a’ch canlyniad ar gyfer eich cofnodion eich hun
  • defnyddio’r canlyniad fel datganiad penderfynu statws dilys

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 2 Mawrth 2017
Diweddarwyd ddiwethaf ar 30 Ebrill 2025 show all updates
  1. ʹapp check employment status for tax tool has been amended to simplify the language. We have removed information for some customers where special rules apply and covered this within the tool itself. Useful links have also been included for related guidance.

  2. ʹapp guidance has been updated to reflect off-payroll working changes that came into effect on 6 April 2021.

  3. Welsh translation added.

  4. ʹapp 'check employment status for tax' tool has been updated so if you do not know the worker, the tool will not ask questions about their circumstances.

  5. Added a link to the off-payroll working in the public sector guidance.

  6. First published.

Argraffu'r dudalen hon