Cael gostyngiad gyda’r Cynllun Bwyta Allan i Helpu Allan
O 3 i 31 Awst, cewch ostyngiad o 50% wrth fwyta y tu mewn i fwytai sydd wedi’u cofrestru gyda’r Cynllun Bwyta Allan i Helpu Allan.
Cewch ddefnyddio’r Cynllun Bwyta Allan i Helpu Allan mewn sefydliad sy’n cymryd rhan:
-
i gael gostyngiad o 50% ar fwyd neu ddiodydd di-alcohol i’w fwyta neu yfed y tu mewn (hyd at uchafswm gostyngiad o £10 fesul person sy’n bwyta)
-
bob dydd Llun, dydd Mawrth a dydd Mercher rhwng 3 a 31 Awst
-
gymaint o weithiau ag y dymunwch
Does dim angen taleb arnoch er mwyn defnyddio’r cynllun hwn, a gallwch ei ddefnyddio ar yr un pryd â chynigion a gostyngiadau eraill. Does dim rhaid gwario swm penodol.
Ni allwch hawlio gostyngiad ar ddiodydd alcohol na thaliadau gwasanaeth.
Bydd y gostyngiad ar gael i chi yn awtomatig mewn sefydliadau sy’n cymryd rhan. Bydd sefydliadau wedyn yn hawlio ad-daliad gan y llywodraeth ar gyfer y gostyngiad y maent wedi’i roi i chi.
Gall sefydliadau sy’n cymryd rhan gynnwys:
- bwytai, caffis, bariau neu dafarndai
- ffreuturau yn y gweithle a’r ysgol
- neuaddau bwyd
Gall pob person sy’n bwyta defnyddio’r gostyngiad � does dim ots faint o bobl sydd yn y grŵp.
Dod o hyd i fwyty
Mae’r cynllun Bwyta Allan i Helpu Allan bellach wedi dod i ben.
Os ydych mewn ardal sydd o dan gyfyngiadau symud lleol
Dylech ddilyn canllawiau lleol os ydych mewn ardal sydd o dan gyfyngiadau symud lleol. Efallai y bydd bwytai lleol yn dal i ymddangos yn y canlyniadau wrth i chi ddefnyddio’r twlsyn dod o hyd i fwytai, ond ni fyddant ar agor.
Help y gallwch ei gael
Gallwch roi gwybod i CThEM am dwyll os ydych o’r farn bod sefydliad yn camddefnyddio’r cynllun.
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno’r ac, yn Lloegr, mae’r GIG wedi cyflwyno’r gwasanaeth profi ac olrhain i helpu i olrhain ymlediad coronafeirws.
Updates to this page
-
Added translation
-
ʹapp Eat out to Help Out Scheme is now closed.
-
Added translation
-
ʹapp restaurant finder tool now shows results within a 5 mile radius of the postcode used.
-
You can now find resturants that are registered for the Eat Out to Help Out Scheme online.
-
Added translation
-
ʹapp service you’ll use to find a restaurant will be available by 31 July.
-
Added translation
-
ʹapp restaurant finder will now give you results within a 2 mile radius of the postcode you use.
-
First published.