Amserlenni cwblhau amcangyfrifedig Cofrestrfa Tir EF
Amserlenni cwblhau ar gyfer ceisiadau Cofrestrfa Tir EF.
Yn berthnasol i Gymru a Loegr
Ein hamcangyfrif presennol o pryd y caiff 90% o achosion o’r math hwn eu cwblhau yw’r dyddiad cwblhau amcangyfrifedig. Rhoddir y dyddiad oherwydd bod cwsmeriaid yn awyddus i wybod pryd mae’n debygol y caiff eu ceisiadau eu cwblhau (gan ofyn yn benodol am amcangyfrif ‘senario waethaf�). Fodd bynnag, gall profiad cwsmeriaid amrywio, fel yr adlewyrchir gan yr amserlenni isod. Am resymau gweithredol, efallai byddwn yn prosesu’r cais yn gynt.
Amserlenni
Diweddarwyd ddiwethaf: 2 Mai 2025
Newidiadau i deitlau cofrestredig sy’n bodoli
Perchnogaeth arferol (er enghraifft, prynu eiddo), morgais a newidiadau eraill i deitlau cofrestredig sy’n bodoli
Caiff eich cais ei gwblhau o fewn:
Y cynharaf | 1 diwrnod |
---|---|
Ar gyfartaledd | 2 i 25 diwrnod |
Bron pob un | 4 i 5 mis |
Newidiadau mwy cymhleth i deitlau cofrestredig sy’n bodoli, er enghraifft, ceisiadau aml-deitl a gyflwynir gan ddatblygwyr, rhannu teitlau sy’n bodoli neu gyflwyno prydles newydd
Caiff eich cais ei gwblhau o fewn:
Y cynharaf | 1 diwrnod |
---|---|
Ar gyfartaledd | 7 i 8 mis |
Bron pob un | 14 i 16 mis |
Sylwer: nid yw’r amseroedd prosesu hyn yn cynnwys diweddariadau awtomataidd i gofrestri sy’n bodoli, a chaiff y rhan fwyaf ohonynt eu cwblhau ar unwaith. Mae enghreifftiau o’r rhain yn cynnwys rhyddhau morgeisi yn electronig a cheisiadau i gofrestru cyfyngiadau electronig
Cofrestru pryniannau lleiniau ar ddatblygiadau newydd
Caiff eich cais ei gwblhau o fewn:
Y cynharaf | 6 i 8 mis |
---|---|
Ar gyfartaledd | 7 i 9 mis |
Bron pob un | 14 i 16 mis |
Cofrestri pryniannau o ran o eiddo cofrestredig nad yw’n ddatblygiad newydd
Caiff eich cais ei gwblhau o fewn:
Y cynharaf | 10 i 14 mis |
---|---|
Ar gyfartaledd | 12 i 14 mis |
Bron pob un | 15 i 16 mis |
Cofrestru eiddo am y tro cyntaf
Caiff eich cais ei gwblhau o fewn:
Y cynharaf | 8 i 12 mis |
---|---|
Ar gyfartaledd | 12 i 14 mis |
Bron pob un | 15 i 17 mis |
Gofyn i gyflymu cais
Os oes angen inni brosesu cais yn gynt, gofynnwch inni gyflymu eich cais.
Gallwch wneud cais i gyflymu pe bai’r oedi’n:
-
achosi problemau cyfreithiol, ariannol neu bersonol nad ydynt yn gysylltiedig â thrafodiad tir
-
rhoi trafodiad eiddo mewn perygl, megis bargen ail-ariannu neu ddatblygiad
Os nad oes unrhyw frys a bod y dyddiad cwblhau amcangyfrifedig wedi mynd heibio, gallwch fod yn dawel eich meddwl bod eich hawliau cyfreithiol mewn perthynas â’r eiddo wedi eu gwarchod yn y Gofrestr Tir yr eiliad y cawn y cais, nid o’r diwrnod y caiff ei gofrestru. Byddwn yn cysylltu â chi cyn gynted ag y bydd diweddariad.