Gwybodaeth gan CThEM i asiantau ynghylch diogelwch ar-lein
Diogelwch eich manylion mewngofnodi a lleihau'r perygl o dwyll wrth ddefnyddio Gwasanaethau Ar-lein CThEM.
Lleihau’r perygl o dwyll
Er mwyn lleihau’r perygl o dwyll dylech:
- newid eich cyfrinair yn rheolaidd - o leiaf unwaith bob 3 mis
- rhoi gwybod i’r Desg Gymorth Gwasanaethau Ar-lein ynghylch gweithgareddau amheus ar eich cyfrif
- peidio â chaniatáu i bobl defnyddio eich manylion mewngofnodi� os oes yn rhaid i bobl eraill gyrchu’r cyfrif gallwch sefydlu gweinyddwyr a chynorthwywyr
- diweddaru eich rhestr o weinyddwyr a chynorthwywyr yn gyson
- cadw eich manylion mewngofnodi’n ddiogel, peidiwch â’u rhannu ag unrhyw un - ni fydd Cyllid a Thollau EM (CThEM) yn gofyn i chi am eich cyfrinair ar unrhyw adeg
- cadw cyfrifiaduron yn ddiogel - rhaid i gyfrifiaduron personol a ddefnyddir at ddibenion gwaith gael yr un rheolaethau diogelwch â’r rheiny sydd yn y swyddfa
- cyrchu manylion eich cleient gan ddefnyddio eich cofrestriad eich hun - peidiwch â defnyddio manylion mewngofnodi eich cleient
Newid eich cyfrinair pan fod CThEM yn dweud wrthych am wneud hynny
Mae’n bosib y bydd CThEM dweud wrthych am newid eich cyfrinair ar unrhyw adeg.
Caiff eich cyfrinair ei newid yn awtomatig os:
- yw CThEM wedi gwneud 3 cynnig aflwyddiannus i gysylltu â chi er mwyn dweud wrthych ei newid
- nad ydych yn ei newid pan fod CThEM yn dweud wrthych am wneud hynny